Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 15 Ionawr 2020.
Wel, materion i sefydliadau unigol yw cwricwlwm, marchnata, recriwtio a chadw myfyrwyr ac nid mater i'r Llywodraeth. Yn ystod y Senedd hon, buaswn yn dadlau ein bod wedi cyflwyno’r system gymorth decaf, fwyaf blaengar a chynaliadwy yn y Deyrnas Unedig, system sy'n trin myfyrwyr Cymru yn dda iawn. Ond hefyd, rwy’n cydnabod bod prifysgolion yn gyflogwyr mawr a’u bod yn hanfodol i’n heconomi leol a llawer o’n cymunedau, a dyna pam rydym wedi symud i system ariannu fwy cynaliadwy a pham y byddwn yn gweld cyllideb Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn cynyddu’n sylweddol yn 2020-21 wrth inni gyflawni ein diwygiadau Diamond. Ond mater i'r prifysgolion unigol yw'r cyrsiau y maent yn eu cynnig a'u gallu i farchnata a recriwtio myfyrwyr i'r cyrsiau hynny.