Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 15 Ionawr 2020.
Diolch. Mae £87 miliwn wedi'i fuddsoddi yn ystâd ysgolion Sir Gaerfyrddin drwy don gyntaf rhaglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain. Cynigir £112 miliwn yn ychwanegol i ailadeiladu ac adnewyddu ystâd ysgolion Sir Gaerfyrddin yn ystod ail don y rhaglen, a dechreuodd y cyllid ar gyfer y don honno ym mis Ebrill y llynedd.