Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 15 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:13, 15 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Gweinidog am y diweddariad hwnnw. Ni fydd y Gweinidog yn synnu fy nghlywed yn ei holi eto am y cynnydd a wnaed ar ddarparu Ysgol Gymraeg Dewi Sant yn Llanelli. Roeddwn yn ddiolchgar iawn pan ymrwymodd y Prif Weinidog, cyn y Nadolig, i gael trafodaethau traws-Gabinet am y materion penodol sy'n codi mewn perthynas â chynllunio ar gyfer yr ysgol honno, a tybed a all y Gweinidog ddweud wrthyf heddiw a yw'r sgyrsiau hynny wedi digwydd a phryd y gall y rhieni, y staff, ond yn bwysicaf oll, y disgyblion, ddisgwyl clywed y bydd y gwaith o adeiladu'r ysgol newydd yn dechrau.