Canolfannau Diagnosis Cyflym

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 15 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 2:25, 15 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Dr Heather Wilkes a'i thîm yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, a'i rhagflaenydd, Dr Jeremiah, sydd wedi cyflawni'r gwaith hwn mewn gwirionedd, ac o ganlyniad, rydym yn gweld bod bywydau'n cael eu hachub drwy ddiagnosis cynharach? Ond fel y nodoch chi, yn awr ac yn y pwyllgor y bore yma, os ydym am gael mwy o'r rhain, mae arnom angen i staff allu darparu'r adrannau hynny a'r unedau hynny. Beth a wnewch fel Llywodraeth i baratoi ar gyfer sefyllfa lle bydd modd i ni ehangu hyn i feysydd eraill os gwelir bod y cynlluniau peilot hyn yn gweithio, gyda chanlyniadau cadarnhaol parhaus, fel bod gennym staff, adnoddau ac offer i sicrhau y gellir ehangu hyn ledled Cymru?