2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 15 Ionawr 2020.
1. Pryd bydd y Gweinidog yn cyhoeddi gwerthusiad o gynllun canolfannau diagnosis cyflym Llywodraeth Cymru? OAQ54895
Diolch am eich cwestiwn. Mae'r grŵp gweithredu ar ganser, a arweinir gan y GIG, wedi ariannu dwy ganolfan beilot ddiagnosteg gyflym. Ystyriwyd yr adroddiadau gwerthuso interim yn eu cyfarfod ym mis Tachwedd 2019 ac mae disgwyl i'r gwerthusiad terfynol gael ei ystyried yn eu cyfarfod ym mis Mai eleni. Byddaf yn rhoi diweddariad i'r Aelodau yn ddiweddarach yn y flwyddyn ar y gwerthusiad a'r effaith ar gynllunio a chyflawni y GIG.
Rydyn ni'n gwybod bod adnabod canser yn gynnar yn gwneud y gwahaniaeth rhwng cael canlyniad da neu ganlyniad gwael pan ei bod hi'n dod i drin y canser hwnnw. Yn syml iawn, mae darganfod canser yn gynnar yn achub bywyd claf. Mae'r dystiolaeth gadarnhaol sy'n dod yn sgil cynlluniau peilot Castell-nedd Port Talbot ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg i'w chroesawu'n fawr iawn. Mae pobl Gwynedd yn galw am wasanaeth tebyg, efo dros 1,500 o bobl wedi llofnodi llythyr agored yn galw am ganolfan diagnosis cyflym yn ein hardal ni. Gan ystyried bod canser yn arwain at farwolaeth mwy o bobl yng Ngwynedd nac unrhyw beth arall, a gan ein bod ni'n gwybod bod diagnosis cyflym yn achub bywydau, pryd fedrwn ni weld canolfan diagnosis cyflym yn dod i'r ogledd-orllewin?
Wel, fel y dywedaf, bydd y gwerthusiad sydd i ddod ym mis Mai eleni yn caniatáu i ni ddeall yr union effaith, er bod y prif bwyntiau a gafwyd yn yr ychydig ddyddiau diwethaf, yn amlwg, wedi bod yn werthusiad cychwynnol cadarnhaol. Bydd y gwerthusiad terfynol yn dweud mwy wrthym nid yn unig am y ddau safle, ond yn ein helpu wedyn i lywio cynllun cenedlaethol, a bryd hynny, bydd modd i mi roi diweddariad i'r Aelodau ar sut beth fydd hwnnw, gan fod mwy i'w ystyried na nodi lleoliadau'n unig; mae'n ymwneud hefyd â sicrhau bod gennym y gweithlu cywir a'r cyfalaf cywir ar ei gyfer pe bai angen. Ond rwy'n edrych ymlaen at y gwerthusiad terfynol a gwneud dewis wedyn, gyda'r system, ynglŷn â sut i fwrw ymlaen â hynny.
Weinidog, credaf fod pob un ohonom wedi darllen y stori gadarnhaol iawn am Gastell-nedd Port Talbot ddoe. Wrth gwrs, maent wedi profi'r cynlluniau peilot yn Lloegr, ac maent yn mynd ati i sefydlu rhwydwaith cenedlaethol. Mewn gwirionedd, erbyn mis Ebrill eleni—fis cyfan cyn i'ch gwerthusiad gael ei gynnal o'r diwedd—bydd rhwydwaith ar waith yn Lloegr. Pam ein bod ni mor bell ar ei hôl hi?
Nid ydym mor bell â hynny ar ei hôl hi. Ni chredaf fod hynny'n adlewyrchiad teg o gwbl, gyda phob parch, Mr Melding. Y gwir amdani yw ein bod wedi sefydlu'r cynlluniau peilot hyn, rydym yn dysgu llawer oddi wrthynt, ac rwy'n disgwyl gwneud dewisiadau ar draws ein system eleni, ac yna byddwn yn dechrau ar y cam gweithredu. Ni fuaswn yn derbyn yn ddi-gwestiwn bob datganiad i'r wasg a gyhoeddir yn Lloegr ynglŷn â ble maent arni go iawn gyda'u gwasanaeth. Er enghraifft, mewn cyfnodau eraill o wariant ar iechyd a pherfformiad iechyd, gwelsom ddatganiadau i'r wasg yn cael eu cyhoeddi nad ydynt yn adlewyrchu'r realiti ar lawr gwlad mewn gwirionedd. Mae gennyf ddiddordeb mewn gwerthusiad o fewn ein system o sut y mae ein system yn gweithio mewn ffordd integredig a chynlluniedig i ddarparu gofal ar sail fwy cyson ledled y wlad pan fyddwn yn gwybod beth yw'r ateb cywir. Mae gennyf fwy o ddiddordeb o lawer mewn bod mewn sefyllfa i helpu i gyfarwyddo'r gwasanaeth i wneud gwelliannau, yn hytrach na dweud yn unig fod llawer o syniadau da i'w cael ond nad oes barn gennyf ynglŷn â'r hyn y dylai hynny ei olygu ar draws y gwasanaeth.
Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Dr Heather Wilkes a'i thîm yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, a'i rhagflaenydd, Dr Jeremiah, sydd wedi cyflawni'r gwaith hwn mewn gwirionedd, ac o ganlyniad, rydym yn gweld bod bywydau'n cael eu hachub drwy ddiagnosis cynharach? Ond fel y nodoch chi, yn awr ac yn y pwyllgor y bore yma, os ydym am gael mwy o'r rhain, mae arnom angen i staff allu darparu'r adrannau hynny a'r unedau hynny. Beth a wnewch fel Llywodraeth i baratoi ar gyfer sefyllfa lle bydd modd i ni ehangu hyn i feysydd eraill os gwelir bod y cynlluniau peilot hyn yn gweithio, gyda chanlyniadau cadarnhaol parhaus, fel bod gennym staff, adnoddau ac offer i sicrhau y gellir ehangu hyn ledled Cymru?
Credaf fod y pwyntiau a wneuthum yn y pwyllgor heddiw yn hollol gywir o hyd. Mae'n ymwneud â chydnabod nid yn unig y cynllun i gael y rhain, ond mewn gwirionedd, gwaith y staff i arwain ac i gyflawni'r gwaith hwnnw ar lawr gwlad mewn cyfnod peilot, ac nad yw'r dysgu'n ymwneud â chanlyniadau'r hyn y mae hynny'n ei olygu yn unig, ond hefyd y gymysgedd o staff sydd ei angen arnoch i'w cyflawni'n llwyddiannus. Felly, ni all y gwerthusiad nodi, 'Dyma'r ateb cywir' yn unig, a pheidio â chynnwys barn ynglŷn â sut y dylid bwrw ymlaen â hynny wedyn.
Rwy'n awyddus i fod mewn sefyllfa i ddeall a oes angen i ni wneud gwahanol ddewisiadau buddsoddi yn ganolog, neu a oes angen, mewn gwirionedd, i ni helpu i gyfarwyddo a symud o amgylch ein system mewn gwahanol rannau o'r gwasanaeth. Dyna pam, er enghraifft, ein bod wedi parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau delweddu, nid yn unig yr academi ddelweddu, i wella ansawdd yr hyfforddiant ac i wella cyfraddau cadw staff, ond hefyd y buddsoddiad a wnaethom yn y rownd ddiweddaraf o hyfforddiant gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a'r buddsoddiad ychwanegol rydym wedi'i wneud mewn radiotherapyddion, er enghraifft. Felly, mae a wnelo hyn ag ymbaratoi ar gyfer y dyfodol, ond gan ddeall yn iawn o hyd fod angen inni wneud rhagor pan gawn y gwerthusiad llawn o'r hyn y dylid ei wneud nesaf.