Canolfannau Diagnosis Cyflym

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 15 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:23, 15 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, credaf fod pob un ohonom wedi darllen y stori gadarnhaol iawn am Gastell-nedd Port Talbot ddoe. Wrth gwrs, maent wedi profi'r cynlluniau peilot yn Lloegr, ac maent yn mynd ati i sefydlu rhwydwaith cenedlaethol. Mewn gwirionedd, erbyn mis Ebrill eleni—fis cyfan cyn i'ch gwerthusiad gael ei gynnal o'r diwedd—bydd rhwydwaith ar waith yn Lloegr. Pam ein bod ni mor bell ar ei hôl hi?