Amseroedd Aros mewn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 15 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 3:03, 15 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae'r bwrdd iechyd yn parhau i fod mewn mesurau arbennig, felly mae'r sefyllfa wedi datblygu o dan eich gwyliadwriaeth chi. Bob blwyddyn, rydych yn paratoi ar gyfer pwysau'r gaeaf, a phenawdau diweddaraf y BBC y bore yma oedd, ar gyfer Cymru gyfan, fod 79,150 o oriau wedi'u gwastraffu wrth i griwiau ambiwlansys aros y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae hynny'n cyfateb i naw mlynedd, a llynedd oedd hynny, o ran criwiau'n aros y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae hynny'n digwydd bob blwyddyn, a phob blwyddyn, ymddengys eich bod yn methu cyflawni. Os edrychwn ar y Cofnod ar gyfer yr adeg hon y llynedd, gwn y bydd yr un cwestiynau a'r un atebion yn codi. Pryd y gwelwn y gwelliannau y mae ein hetholwyr yn eu haeddu?