Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 15 Ionawr 2020.
Nodir y dull o weithredu yn y cynllun cyflawni ar gyfer canser, sy'n parhau i fod ar waith tan fis Rhagfyr eleni. Mae hyn yn cynnwys y cynlluniau peilot ar ganolfannau diagnosteg gyflym y buom yn eu trafod yn gynharach, cefnogi ymarfer atgyfeirio mewn gofal sylfaenol ac un llwybr canser. Mae rhaglenni cenedlaethol pwysig ar waith hefyd i gefnogi gwasanaethau diagnostig, megis delweddu, patholeg ac endosgopi.