Part of the debate – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 15 Ionawr 2020.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn o gael y cyfle i siarad yn y ddadl yma heddiw ar ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru. Fel Cadeirydd y pwyllgor, wrth gwrs, mi hoffwn i ddiolch i bawb a gyfrannodd i’r ymchwiliad yma ac i'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, hefyd, am ei hymateb i'n hadroddiad ni. Mae'r pwyllgor yn croesawu'n fawr iawn y ffaith bod y Gweinidog, yn ei hymateb hi, wedi derbyn pob un o argymhellion yr adroddiad.
O dan Ddeddf Cymru 2017 a'r fframwaith cyllidol cysylltiedig, ar hyn o bryd, mae gan Lywodraeth Cymru derfyn benthyca cyfalaf blynyddol o £150 miliwn. Ym mis Mehefin y llynedd, cyhoeddodd y Gweinidog becyn buddsoddi cyfalaf gwerth £85 miliwn. Yna, ar 4 Tachwedd, cyhoeddodd gyllid ychwanegol gwerth £130 miliwn ar gyfer buddsoddiadau cyfalaf allweddol, ac roedd hynny'n cynnwys £53 miliwn i gefnogi busnesau yn wyneb Brexit ac i ddarparu buddsoddiad ychwanegol ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol, fel tai a theithio llesol. Ynghyd â'r cyhoeddiad hwn, cyhoeddwyd y fersiwn ddiweddaraf o Gynllun Buddsoddi Seilwaith Cymru.
Nawr, mi gafodd yr adroddiad blynyddol gan Weinidogion Cymru ar weithredu Rhan 2—cyllid—o Ddeddf Cymru 2014 ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr y llynedd. Mae’n cyfeirio at fenthyca cyfalaf Llywodraeth Cymru ac mae'n nodi—a dwi'n dyfynnu—
'Bydd ystyriaeth ofalus yn cael ei rhoi i'r defnydd o fenthyca cynlluniedig yn ystod pob cyfnod cyllidebol, a bydd ond yn cael ei ddefnyddio pan fydd pob ffynhonnell gonfensiynol, ratach o gyllid cyfalaf sydd ar gael wedi cael ei disbyddu.'
Fe wnaeth y Pwyllgor Cyllid gynnal yr ymchwiliad hwn i sefydlu sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r ffrydiau cyllidol sydd ar gael iddi, pa mor effeithiol yw strategaeth gyllido Llywodraeth Cymru, a hefyd manteision a risgiau modelau cyllido penodol, yn enwedig y model buddsoddi cydfuddiannol, neu'r MIM fel rŷn ni'n ei adnabod e drwy'r acronym Saesneg.