5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Ymchwiliad i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 15 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 3:50, 15 Ionawr 2020

O ran ei natur, mae cyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhoi mwy o gyfyngiadau ar ddefnyddio cyfalaf, a hynny drwy gyflwyno cyfalaf trafodion ariannol. Yn 2019-20, roedd 14.2 y cant o gyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru ar ffurf cyfalaf trafodion ariannol. Dim ond ar gyfer benthyciadau a buddsoddiadau ecwiti yn y sector breifat y gellir defnyddio’r cyfalaf hwn, wrth gwrs, a rhaid ei dalu yn ôl i Drysorlys Ei Mawrhydi.

Yn ei thystiolaeth i’r ymchwiliad, nododd y Gweinidog fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru dalu yn ôl 80 y cant o gyfanswm y cyfalaf trafodion ariannol gafodd ei ddyrannu gan Drysorlys Ei Mawrhydi. Mae hyn yn rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru ddarparu benthyciadau di-log neu fenthyciadau llog isel iawn i'r sector breifat fuddsoddi mewn seilwaith perthnasol, er enghraifft, mewn prosiectau tai.

Mae’r pwyllgor o’r farn bod tystiolaeth rhanddeiliaid yn dangos yr angen i Lywodraeth Cymru ystyried sut y gellid defnyddio cyfalaf trafodion ariannol yn well i gefnogi darparwyr tai a hefyd sut y gellir defnyddio pwerau benthyca cyfalaf llywodraeth leol yn fwy effeithiol. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ystyried y dystiolaeth bod seilwaith cyfalaf yn dirywio, felly gwnaeth y pwyllgor argymell y dylai Llywodraeth Cymru weithio'n agosach gyda llywodraeth leol i ddarparu dull mwy integredig o gyflawni buddsoddiad seilwaith, yn genedlaethol ac hefyd yn lleol.

Yn ystod yr ymchwiliad, un o’r prif themâu i ddod i’r amlwg oedd yr angen i Lywodraeth Cymru gynllunio ar gyfer y tymor hwy a nodi ffynonellau cyllid ar gyfer projectau er mwyn creu darlun cliriach o ran faint o gyfalaf y bydd angen ei fenthyca yn y dyfodol.

Mae'r pwyllgor yn croesawu'r cynllun buddsoddi seilwaith diwygiedig, gan ei fod yn rhoi mwy o fanylion am fuddsoddiadau seilwaith arfaethedig Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, yn ystod yr ymchwiliad, tynnodd rhanddeiliaid sylw at y diffyg eglurder yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu projectau ar hyn o bryd. Awgrymodd un o’r tystion y dylai unrhyw gynllun buddsoddi hirdymor gael ei gyhoeddi yn llawn. Dywedodd y Gweinidog wrth y pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol ar gyfer Cymru i gael y golwg hirdymor hwnnw, gan edrych rhwng pump a 30 mlynedd i’r dyfodol. Ac yn ôl y Gweinidog, mi fydd y grŵp hwn yn gwneud argymhellion ynghylch anghenion y seilwaith economaidd ac amgylcheddol yn y tymor hwy ledled Cymru. Yn ei hymateb i’n hadroddiad ni, fe ychwanegodd y Gweinidog y byddai Llywodraeth Cymru yn ymateb i argymhellion y comisiwn newydd ar ôl iddo gyhoeddi ei adroddiad cyntaf yn 2021 ac yn edrych ar sut y gall hyn ddylanwadu ar ddull Llywodraeth Cymru o fenthyca.

Fe glywodd y pwyllgor dystiolaeth fod y risg yn amrywio drwy oes project a bod y risg uchaf yn y cyfnod adeiladu. Dylai'r risg gael ei hasesu ar bob cam o'r project, a dylid ystyried cysylltu ffynonellau cyllid â risg project ar bob cam. Mae'r pwyllgor o'r farn y byddai hyn yn ffordd fwy effeithiol o ddyrannu cyllid na’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio ar hyn o bryd, sef defnyddio'r ffynhonnell rataf o fenthyca yn gyntaf. Mi fyddai fe hefyd yn galluogi’r Llywodraeth i wneud y mwyaf o'r cyfalaf sydd ar gael a lleihau costau cyllid ar yr un pryd.

Roedd yr ymchwiliad gan y pwyllgor hefyd yn cynnwys cryn dipyn o dystiolaeth yn cymharu a chyferbynnu mentrau cyllid preifat, y PFI, a gyflwynwyd gyntaf, wrth gwrs, gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig nôl ym 1992, a'r model buddsoddi cydfuddiannol, y MIM oeddwn i'n sôn amdano fe gynnau, a gafodd ei ddatblygu yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru i ddarparu mwy na £1 biliwn i ariannu seilwaith cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r model buddsoddi cydfuddiannol yn seiliedig ar fodel dosbarthu di-elw Llywodraeth yr Alban, a gweithiodd Llywodraeth Cymru yn agos gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Banc Buddsoddi Ewrop i ddatblygu’r model newydd gyda’r nod o sicrhau nad oes unrhyw rwymedigaeth o ran dyledion yn cael ei chofnodi ar fantolen y Llywodraeth. Dylai hyn olygu na fydd yn cael ei chynnwys yn nherfynau benthyca cyfalaf Llywodraeth Cymru, ac fe ddylai ddarparu, felly, ffrwd fenthyca annibynnol i'r Llywodraeth yma yng Nghymru.

Awgrymodd y dadansoddiad cymharol fod model buddsoddi cydfuddiannol yn well o ran agweddau fel buddion cymunedol a goruchwylio contractau project, ond ei bod yn anodd gweld gwahaniaeth sylweddol rhwng y ddau fodel. Yn benodol, nid yw'n eglur sut mae’r model buddsoddi cydfuddiannol yn lleihau costau cyllido na sut mae’n cynnig mwy o werth am arian na’r model PFI blaenorol.

Yn yr ymchwiliad, un o fuddion posibl y model buddsoddi cydfuddiannol a gafodd ei amlygu oedd bod cyfle i’r sector cyhoeddus gael hyd at 20 y cant o gyfanswm yr ecwiti mewn project a chael cyfran o unrhyw enillion o ganlyniad i hynny. Byddai cael ecwiti mewn project hefyd yn galluogi'r sector cyhoeddus i gael cynrychiolaeth ar fwrdd y project fel cyfranddaliwr, a byddai hyn yn gyfle i'r sector cyhoeddus ddylanwadu ar benderfyniadau yn ymwneud â’r project. Fodd bynnag, roedd y pwyllgor yn pryderu am y posibilrwydd na fyddai'r trefniadau llywodraethu presennol yn ddigon cadarn i liniaru gwrthdaro buddiannau posibl a allai godi o ganlyniad i’r ffaith y byddai Llywodraeth Cymru wedyn yn gyfranddaliwr ac yn gleient.

Fe glywsom ni dystiolaeth fod y gwaith i ddatblygu'r model buddsoddi cydfuddiannol wedi ceisio delio â rhai o’r materion o ran cymhlethdod ac anhyblygrwydd y contractau PFI, ond fe glywsom ni gan dystion fod contractau model buddsoddi cydfuddiannol yn dal yn gymhleth ac yn dal i fod yn weddol anhyblyg. Mae'r pwyllgor wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru adolygu, o dro i dro, lefel yr arbenigedd sydd yn ei le ar gyfer rheoli contractau, a hynny er mwyn cynnal yr arbenigedd hwn a sicrhau bod projectau o dan y model hwn yn cael eu cyflawni'n effeithiol trwy gydol eu hoes.

Mae tystiolaeth hefyd wedi awgrymu y dylid ystyried yn ofalus y projectau sy'n cael eu dewis ar gyfer eu cyflawni trwy'r model buddsoddi cydfuddiannol. Dyw projectau â gofynion cymhleth, asedau technoleg uchel a phrojectau arloesol ddim yn cael eu hystyried yn rhai priodol ar gyfer y model buddsoddi cydfuddiannol. Mae projectau sy'n cael eu hystyried yn rhai sefydlog dros amser, megis adeiladu ffyrdd, ysgolion ac ysbytai, yn fwy priodol ar gyfer y model hwnnw. Roedd y pwyllgor yn fodlon bod projectau priodol wedi cael eu dewis ar gyfer y model buddsoddi cydfuddiannol, ac mae wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru barhau i ddefnyddio’r model hwn i ariannu projectau sy'n gofyn am gysondeb dros oes y contract yn ogystal â phrojectau lle gall y sector preifat sicrhau'r gwerth mwyaf am arian.

Cyfeiriwyd at sawl model cyllid arall yn ystod ymchwiliad y pwyllgor, ac mae’r Aelodau’n credu y dylai Llywodraeth Cymru barhau i archwilio dulliau ariannu eraill er mwyn bod yn fwy arloesol gyda'r cyllid sydd ar gael ac er mwyn datgloi rhagor o fuddsoddiad preifat ar gyfer projectau cyfalaf yng Nghymru.

Yn olaf, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru wrthym ni hefyd ei bod yn ceisio cael pwerau benthyca darbodus—prudential borrowing powers—i gefnogi ei rhaglen seilwaith cyfalaf, a chytunodd mwyafrif aelodau'r pwyllgor y dylai'r Llywodraeth barhau i bwyso am y pwerau hynny.

Dwi wedi rhedeg trwy'r adroddiad yn sydyn iawn. Dwi'n edrych ymlaen at glywed sylwadau Aelodau ac, wrth gwrs, ymateb y Gweinidog. Diolch.