Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 15 Ionawr 2020.
Rwy'n credu ei bod yn iawn ac yn briodol fod y defnydd o bwerau benthyca a drosglwyddwyd i Lywodraeth Cymru gan Ddeddf 2014 a Deddf 2017 yn destun gwaith craffu. Yn fy marn i, mae'r ymchwiliad wedi dangos, er bod y dull strategol cyffredinol sy'n cael ei weithredu gan Lywodraeth Cymru yn ddull da ac effeithiol o wneud y mwyaf o werth cyhoeddus y ffynonellau cyllid cyfalaf sydd ar gael iddi, ar yr un pryd mae angen bod yn fwy ystwyth ac efallai'n fwy deallus yn y cynlluniau tymor canolig a hirdymor ar gyfer rheoli'r cyllid hwn.
Roeddwn yn falch o weld bod y rhan fwyaf o'r tystion yn teimlo bod y cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru yn syniad da. Awgrymodd llawer o bobl fod gwelliannau y gellid eu gwneud iddo, ond ynddo'i hun câi ei ystyried yn rhan sefydledig o'r fframwaith ariannu cyffredinol a weithredir gan Lywodraeth Cymru, a chredaf fod hynny'n ystyriaeth bwysig i ni edrych arni wrth ddadlau a thrafod sut y mae Llywodraeth Cymru yn rheoli cyfleoedd cyllid cyfalaf.
Ond yn fwy na dim i mi, Ddirprwy Lywydd—prif ganfyddiad y pwyllgor oedd bod angen i Lywodraeth Cymru fod yn fwy craff wrth reoli'r rhaglen buddsoddi cyfalaf. Dyfynnwyd yr Athro Holtham eisoes y prynhawn yma, ac roeddwn yn teimlo ei fod wedi disgrifio hyn yn dda—fod angen i gynllunio fod yn y tymor hwy, gan ddeall risg mewn ffordd ddyfnach. Ac rwy'n credu bod hwnnw'n ganfyddiad pwysig iawn i'r pwyllgor hwn. Mae Aelodau eraill y prynhawn yma wedi trafod yr un pwynt mewn gwahanol ffyrdd, ac mae wedi bod yn rhy hawdd yn rhy hir i Lywodraeth Cymru ac i Weinidogion ddweud yn syml, 'Fe ddefnyddiwn y ffynhonnell rataf yn awr ac fe wnawn hyn dros y tymor hwn a'r llall', yn hytrach nag edrych ar sut rydych yn rheoli gwariant cyfalaf dros dymor llawer hwy, a pharu'r risg sy'n gysylltiedig â'r cyfalaf sydd ar gael. Rwy'n falch o weld nad oedd y Gweinidog wedi mynd ati mewn ffordd rhy ideolegol i ymdrin â rhai o'r materion hyn, a'i bod wedi mabwysiadu agwedd ddidostur o bragmatig at y ffordd yr ymdriniwn â'r materion hyn. Ac rwy'n credu bod honno'n ymagwedd dda iawn.
Er fy mod yn gweld bod y cynllun MIM newydd sy'n cael ei argymell gan y Llywodraeth yn sicr yn welliant ar fodelau cynharach, model PFI ydyw o hyd; rwy'n credu ein bod yn twyllo ein hunain os credwn ei fod yn rhywbeth gwahanol. PFI ydyw. Nid wyf yn gweld sut y gellir dadlau nad yw hynny'n wir, ond rwy'n cytuno â'r Llywodraeth ei bod yn iawn ac yn briodol inni sicrhau ein bod yn paru arian o'r math hwn â phrosiectau penodol. Hon fydd y ffordd orau o ariannu rhai o'n rhaglenni cyfalaf ond nid ein rhaglen gyfalaf i gyd, ac rwy'n sicr yn cytuno â'r hyn a ddywedwyd am y gwasanaethau meddal lle nad ydym am weld rhannau helaeth o'r sector cyhoeddus yn cael eu preifateiddio.
A gaf fi orffen ar un pwynt nad yw siaradwyr yn y ddadl hon wedi mynd i'r afael ag ef hyd yn hyn, sef sut y mae Llywodraeth Cymru yn rheoli ei hasedau? Mae'n rhaid i mi ddweud nad wyf wedi fy argyhoeddi—ac mewn gwirionedd, ni chefais fy argyhoeddi yn y 13 blynedd y bûm yma—fod gan Lywodraeth Cymru afael gadarn ar reolaeth yr asedau yn ei pherchnogaeth ac o dan ei rheolaeth. Rwy'n synnu'n gyson i ddarganfod bod Llywodraeth Cymru yn berchen ar siop yng Nglynebwy neu'n landlord ar floc o fflatiau yng Nglynebwy, neu ble bynnag, ac yn berchen ar eiddo ym mhob man. Nid wyf erioed wedi cael fy argyhoeddi gan unrhyw Weinidog, naill ai mewn Llywodraeth neu y tu allan i'r Llywodraeth, fod y Llywodraeth yn deall beth y mae'n berchen arno, gwerth yr hyn y mae'n berchen arno a sut i reoli ei hasedau yn y ffordd orau ar draws y Llywodraeth. Ac rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y mae angen i'r Llywodraeth fynd i'r afael ag ef yn fwy trylwyr. Yn y gorffennol, mae Gweinidogion wedi gweld rheoli asedau yn syml fel ffordd o werthu swyddfeydd mewn gwahanol rannau o'r wlad; rydym wedi gweld hynny'n digwydd ar wahanol adegau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ond rwy'n gobeithio yn y dyfodol y bydd Llywodraeth Cymru yn gweld ei hasedau fel rhan werthfawr, nid yn unig o'r ystâd gyhoeddus yng Nghymru, ond yn y byd cyhoeddus, ac fel dull mwy deallus a phellgyrhaeddol o reoli ei hasedau, boed hynny'n gysylltiedig â gwireddu neu ddiddymu'r asedau hynny, neu eu defnyddio mewn ffordd fwy trwyadl er mwyn cyflawni ei rhagolygon polisi. Ond rwy'n credu, yn gyffredinol, fod hwn yn adroddiad sy'n ceisio bod yn gadarnhaol iawn a chredaf fod y pwyllgor ei hun yn gweithredu mewn ffordd gadarnhaol iawn. Rwy'n falch iawn fod y Llywodraeth wedi derbyn holl argymhellion y pwyllgor.