Part of the debate – Senedd Cymru am 4:19 pm ar 15 Ionawr 2020.
Fel eraill, hoffwn ddiolch i ysgrifenyddiaeth y pwyllgor a Chadeirydd y pwyllgor am y gwaith a wnaethant i gynorthwyo'r pwyllgor yn yr ymchwiliad hwn. Hoffwn ddiolch hefyd i'r Gweinidog am dderbyn holl argymhellion y pwyllgor. Rwy'n credu bod gweld y Llywodraeth yn derbyn argymhellion fel hyn yn rhywbeth sydd i'w groesawu'n fawr.