Part of the debate – Senedd Cymru am 4:09 pm ar 15 Ionawr 2020.
Gwnaf i ddim siarad yn hir. Mae'r rhan fwyaf o'r pwyntiau pwysig wedi cael eu gwneud gan Gadeirydd y pwyllgor, ond mi oedd hwn yn ymchwiliad pwysig, dwi'n meddwl, achos rydym ni'n sôn yn fan hyn am fodd o ddatgloi potensial Cymru. Rydym ni'n sôn am un o'r ffyrdd allweddol o ddod â ni allan o'r rhigol rydym ni ynddi hi, dwi'n teimlo, fel gwlad ar hyn o bryd.
Mae buddsoddi yn isadeiledd Cymru'n gwbl hanfodol, dwi'n meddwl, ar gyfer y dyfodol: isadeiledd er mwyn gallu delifro gwasanaethau cyhoeddus gwell, yn cynnwys addysg; isadeiledd i gysylltu Cymru er mwyn creu a rhannu llewyrch o gwmpas y wlad; isadeiledd digidol i wneud yn siŵr bod Cymru yn gallu chwarae ei rhan yn llawn yn yr unfed ganrif ar hugain a thu hwnt; ac, wrth gwrs, yn wyneb yr argyfwng hinsawdd, yr isadeiledd gwyrdd i'n gwneud ni yn ffit i ymateb i'r argyfwng hinsawdd yna. Mae angen cyllid cyfalaf, wrth gwrs, er mwyn gallu gwneud hynny, ac mae'n dda gweld pan fo cyllid cyfalaf yn gallu cael ei ddyrannu o fewn cyllidebau blwyddyn i flwyddyn, ond, wrth gwrs, dydy hynny ddim yn ddigon wrth inni edrych ar sut i ddad-wneud blynyddoedd lawer o ddiffyg buddsoddiad yn isadeiledd Cymru.
Mae angen symiau mawr arnom ni, ac er mwyn datgloi'r symiau mawr yna mae angen bod yn greadigol ynglŷn â sut i wneud hynny. A beth wnaethon ni fel pwyllgor, fel rydym ni wedi'i glywed yn cael ei amlinellu'n barod, oedd edrych ar draws ystod o fodelau a gweld bod yna sgôp go iawn i fuddsoddi yn ein dyfodol mewn ffyrdd dydyn ni ddim wedi bod yn eu gwneud hyd yma. Ac, fel dywedodd y Cadeirydd hefyd, rydym ni'n feddwl agored iawn fel pwyllgor ynglŷn â'r sgôp i feddwl am ffyrdd a modelau newydd o gyllido buddsoddiad—modelau dydyn ni ddim hyd yma wedi gallu eu mireinio nhw.
Felly, mae'n rhaid, fel mae'r argymhellion yn eu rhestru, cynllunio'n ofalus ac i'r hirdymor sut i flaenoriaethu buddsoddiad. Mae'n rhaid cael darlun cwbl glir o beth ydy'r heriau, beth ydy'r rhwystrau rydym ni'n trio eu goresgyn, a sut mae'r cynlluniau sydd yn cael eu datblygu yn ymateb i'r heriau hynny. Mae eisiau dewis modelau cyllid cywir ar gyfer y sefyllfaoedd cywir, fel rydym ni wedi'i glywed yn cael ei grybwyll yn barod—cydweithio â llywodraeth leol, er enghraifft, yn y gwaith o sicrhau ein bod ni'n dewis y modelau iawn, a gwneud yn siŵr bod y model sydd yn cael ei ddewis yn adlewyrchu'r risg, fel sydd wedi cael ei grybwyll gan aelodau eraill o'r pwyllgor, a'r gwahanol fathau a gwahanol lefelau o risg sydd ynghlwm wrth brosiectau o wahanol natur.
Dyna, dwi'n meddwl, oedd un o broblemau mawr cynlluniau PFI yn y gorffennol. Mi oedd yna, heb os, dwi'n meddwl, wobrwyo buddsoddwyr preifat lle roedd y risg a oedd yn cael ei gymryd, mewn gwirionedd, yn isel iawn. Mae Mike Hedges wedi cyfeirio at beth o'r cytundebau hynny oedd yn gwobrwyo'n hael iawn am elfennau meddal o gytundebau. Gallwn ni ddim gwneud hynny, ac wrth inni symud tuag at fodelau newydd—MIM, er enghraifft—mae'n rhaid bod yn llawer mwy soffistigedig ynglŷn â sut mae'r cytundebau hynny yn cael eu llunio, ac mae hynny'n gorfod golygu buddsoddi mewn sgiliau sydd yn gallu dod â'r gwerth mwyaf i'r pwrs cyhoeddus drwy lunio cytundebau mewn ffyrdd effeithiol.
Ond mi wnaf i orffen efo'r pwynt yma: un peth mae'n rhaid inni fod yn barod i'w wneud ydy benthyca a buddsoddi mewn ffyrdd uwchlaw beth sydd wedi cael ei wneud yn y gorffennol. Mae'r gyfran o gyllideb Cymru sydd yn cael ei defnyddio i ad-dalu benthyciadau yn llawer iawn rhy isel—werth inni fod yn blaen. Mae'n rhaid inni fod mewn sefyllfa lle rydym ni'n gallu datgloi cyfalaf, sicrhau yn rhesymol pa gyfran o'n cyllideb rydym ni'n hapus ac yn gyfforddus i'w defnyddio i ad-dalu'r benthyciadau hynny, er mwyn symud ymlaen tuag at isadeiledd rydym ni'n gallu bod yn hyderus ynddo fo, sy'n mynd i roi cyfle inni gyrraedd potensial nad ydyn ni ddim wedi'i wneud o'r blaen. Mi ddylai'r Llywodraeth yma fod yn curo ar ddrws Downing Street yn ddyddiol yn mynnu'r pwerau yma er mwyn inni gael buddsoddi yn y modd hwn. Ond o leiaf rŵan, ac efo'r Llywodraeth wedi cytuno i'r argymhellion yma, mae yna, dwi'n meddwl, uchelgais yn datblygu ar y cyd i ddatgloi ein potensial ni.