Part of the debate – Senedd Cymru am 4:14 pm ar 15 Ionawr 2020.
Rydym yn cael brawddegau rhy ddeniadol braidd, ac sy'n cystadlu yn erbyn ei gilydd yn ôl pob golwg, gan y Prif Weinidog: dylem ddefnyddio'r cyllid rhataf yn gyntaf—sy'n swnio’n synhwyrol iawn—ac yna mae'r pwyllgor yn dweud y dylem baru ffynonellau cyllid â phrosiectau, sydd hefyd yn ymddangos yn synhwyrol iawn. Ond fel arfer, yn y sector preifat, pan fydd pobl yn siarad am baru cyllid â phrosiectau, maent yn paru cyllid risg uchel, enillion uchel â phrosiectau lle mae'r risg yn uchel, ac yn yr un modd, â chyllid lle mae’r enillion yn isel. Ond mewn gwirionedd, yn y dystiolaeth a glywodd ein pwyllgor, yr hyn a argymhellwyd i ni oedd y gwrthwyneb. Roedd Gerry Holtham yn dweud ei bod yn bwysig iawn os oedd prosiect yn un risg uchel, eich bod chi'n benthyca ar ei gyfer trwy giltiau, i bob pwrpas, oherwydd ychydig iawn y byddech yn ei dalu fel sicrwydd yn erbyn risg uchel. Pe baech chi'n mynd at ffynonellau amgen—y sector preifat o bosibl, MIM neu fel arall—dylech ei wneud lle byddai gan y sector preifat gyfraddau cymharol isel o gymharu â phrosiectau eraill y gallai eu hariannu.
Yn y senario honno, mae'r Llywodraeth yn derbyn ein hargymhelliad, ond nid wyf yn siŵr iawn fod y mater wedi'i ddatrys, oherwydd, ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ofyniad gwirioneddol iddo fod, oherwydd nid oes unrhyw arwydd ein bod yn mynd yn agos at y terfynau benthyca o £150 miliwn y flwyddyn neu gyfanswm o £1 biliwn, er eu bod yn gymharol isel fel cyfran o refeniw Llywodraeth Cymru ar 1 y cant ac ychydig yn llai na 7 y cant.
Felly, pan fyddwn yn siarad am MIM ac yn ei gymharu â PFI, credaf mai'r hyn sy'n bwysig yw nad ydym yn defnyddio MIM yn y ffordd y defnyddiwyd PFI, ar rai adegau yn y gorffennol o leiaf, i guddio benthyca a gwthio benthyciadau'r Llywodraeth oddi ar y mantolenni er mwyn osgoi rheolau'r Trysorlys i gael pethau cyfalaf, na fyddech yn eu cael fel arall, pan fydd cost hynny’n waeth o lawer oherwydd, i bob pwrpas, rydych chi'n talu'r sector preifat i fenthyca i chi ar gyfraddau sylweddol uwch ac yna’n eu had-dalu gydag elw. Nid yw hynny'n gwneud unrhyw synnwyr.
Dylem droi at y sector preifat pan fydd ganddynt arbenigedd neu eu bod yn well am wneud rhywbeth nag y byddai'r sector cyhoeddus yn uniongyrchol, neu mewn rhai achosion, efallai y byddwn eisiau cael dull consortiwm partneriaeth o weithredu, lle mae'r sectorau cyhoeddus a phreifat yn cynnig sgiliau a galluoedd gwahanol. Os yw'r sector cyhoeddus yno ac yn berchen ar ran o brosiect, bydd y sector preifat yn llawer mwy sicr o ymrwymiad y sector cyhoeddus iddo, yn enwedig mewn pethau fel cynllunio a rheoleiddio, lle gallai meddu ar ddealltwriaeth a chefnogaeth y sector cyhoeddus fod yn bwysig iawn i'r sector preifat.
Mewn rhai amgylchiadau, rwy’n credu y byddai'n dda i'r Llywodraeth gael sedd ar y bwrdd, cyfranddaliad mewn prosiect o bosibl—efallai y bydd yn cael llif gwell o wybodaeth ac mae hynny'n gadarnhaol. Weithiau, pan fyddwch yn cyfuno sgiliau a thalentau, yn bendant dyna'r ffordd y byddech chi eisiau mynd, ond nid yw'n ateb i bob dim pan fyddwch chi ond yn contractio gyda'r sector preifat am eich bod chi eisiau rhywbeth a’ch bod yn talu'r sector preifat amdano.
Os ydych chi'n gyfranddaliwr ynddo, byddwch yn lliniaru gwrthdaro o’r fath rywfaint, ond nid ydych yn datrys y broblem fod y sector cyhoeddus yn talu am rywbeth y mae ei eisiau a'r sector preifat yn ei ddarparu er mwyn gwneud elw—nid ydych ond yn lliniaru hynny ar yr ymyl a bydd gwrthdaro o hyd y mae'n rhaid inni fod yn ofalus iawn wrth ei reoli. Yr hyn sy'n bwysig iawn yn fy marn i yw cael rhywun sy'n gyfrifol o fewn y sector cyhoeddus, boed yn Weinidog neu'n swyddog a enwir ar gyfer prosiect hir a chymhleth, rhywun sydd â pherchnogaeth arno ac sy'n deall sut i reoli'r contract trwy gydol y prosiect.
Nawr, pan wnaethom yr adroddiad hwn, buom yn siarad am fenthyca darbodus a chefnogi hynny, ond roeddwn yn pryderu bod benthyca darbodus yn golygu benthyca diderfyn, neu’r perygl o hynny fan lleiaf. Dywedodd y Gweinidog cyllid mewn tystiolaeth ar gyfer yr adroddiad hwn y dylai gosod y terfyn hwnnw fod yn fater i ni, ond byddem yn gwneud hynny mewn trafodaeth â'r Cynulliad Cenedlaethol.
Rwy'n pryderu bod hwnnw'n ofyniad hynod o radical, y dylem ni, yng Nghymru, allu benthyg cymaint ag y dymunwn ac nad oes a wnelo Llywodraeth y DU ddim â'r peth. Rhaid i unrhyw dalaith yn yr Unol Daleithiau gael cyllideb gytbwys. Yn yr Undeb Ewropeaidd, boed yn Sbaen, yr Eidal, neu’r Almaen, rhaid iddynt gytuno eu benthyca gyda'r Comisiwn Ewropeaidd a gellir dwyn camau gorfodi yn eu herbyn neu osod dirwyon os ydynt yn benthyca mwy nag y mae cyfraith yr UE yn ei ganiatáu. Yn yr un modd, yma, nid wyf yn credu ei bod yn realistig i Lywodraeth Cymru allu benthyca beth bynnag y mae ei eisiau tra'i bod yn rhannu system lywodraethol ac arian cyfred yn y DU. Hyd yn oed pan oedd Llywodraeth yr Alban—[Torri ar draws.]—hoffwn barhau, gan mai ychydig iawn o amser sydd gennyf—yn ceisio mynd am annibyniaeth, roedd yn rhaid iddi ddatrys y cwestiwn bryd hynny ynglŷn â sut rydych chi'n cytuno ar fenthyca tra'ch bod yn rhannu arian cyfred. Naill ai drwy'r bwrdd arian cyfred, ac nid oes gennych fenthyciwr pan fetho popeth arall, neu mae angen i chi ymdrin â gweddill y DU.
Felly, yn yr achos hwn, cefais fy nghalonogi gan dystiolaeth y Gweinidog y bore yma, lle ymddengys mai blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw negodi terfyn uwch ar y benthyca a'r ddyled gyda Llywodraeth y DU. O ystyried pa mor isel yw'r terfynau yn awr, mae hynny'n rhywbeth y buaswn yn ei gefnogi, ac rwy’n gobeithio gweld cefnogaeth ar draws y Siambr, ac mae hwnnw'n amcan realistig, ond nid yw cael benthyca diderfyn heb unrhyw reolaeth o gwbl yn amcan realistig. Diolch.