Part of the debate – Senedd Cymru am 4:48 pm ar 15 Ionawr 2020.
Dywedodd Martin Luther King nad ni sy'n gwneud hanes ond yn hytrach, hanes sy'n ein gwneud ni, ac mae'n sicr yn wir fod hanes ein cymunedau yn ffurfio meddylfryd a gwerthoedd ein cymunedau, felly mae deall o ble y daethom a beth a wnawn yn hanfodol bwysig.
Mae hwn wedi bod yn orchwyl aruthrol. Mae'n faes rwyf wedi ysgrifennu amdano o bryd i'w gilydd, am y diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth o'n hanes cymunedol a'n hanes gwleidyddol a chymdeithasol, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd yn rhywbeth a gaiff ei unioni yn ein cwricwlwm a'n haddysg. Ond nid wyf yn bychanu rhai o'r pwyntiau a wnaeth Bethan a'r her o hyfforddi a pharatoi athrawon i allu cyflwyno'r cwricwlwm ac yn arbennig, i fod â hyblygrwydd a dealltwriaeth i ddarparu'r rhan gymunedol o hanes a'r deunyddiau a'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer hynny.
Rhoddaf ychydig o enghreifftiau o'r cymunedau rwy'n eu cynrychioli, ac rwyf wedi siarad am hyn wrth ymweld ag ysgolion, er mwyn ceisio canfod beth yw lefel y ddealltwriaeth. Ac mae'n faes lle mae'n rhaid gwneud llawer iawn o waith. Llantrisant yn fy nghymuned i—mae pawb yn gwybod am Dr William Price, meddyg enwog, Siartydd, neo-dderwydd ac ecsentrig. Cafodd effaith fawr ar yr arfer o amlosgi, ac arweiniodd hynny at yr amlosgfa gyntaf, yr amlosgfa weithredol gyntaf, ym Mhrydain yn 1924 yng Nglyn-Taf. Pan ofynnais am y peth, mewn gwirionedd, yr unig beth yr ymddangosai fod pobl yn ei wybod oedd bod 20,000 o bobl wedi dod i'w angladd ac erbyn canol dydd, nid oedd cwrw ar ôl yn yr un o'r 29 o dafarndai yn y dref. Ac eto, roedd ei her ar amlosgi yn dynodi newid arwyddocaol mewn perthynas â'r gyfraith yng nghyswllt cyfraith eglwysig a seciwlareiddio'r gyfraith—sy'n sylfaenol bwysig.
Saethyddion Llantrisant—brwydr Crécy, y rôl a chwaraewyd a'r hyn a etifeddwyd ganddynt hyd y dydd heddiw drwy olyniaeth drwy'r llinell fenywaidd a phwysigrwydd yr hawliau a'r breintiau parhaus yn awr a'r hyn y mae hynny'n ei olygu i hanes yr ardal. Brown Lenox—rhan mor bwysig a chwaraeodd yn natblygiad Pontypridd ac yn y chwyldro diwydiannol, eto i gyd ymddengys mai'r cyfan y mae pobl yn ei wybod yw mai hwy a adeiladodd y cadwyni ar gyfer y Titanic, er nad yw hynny'n wir mewn gwirionedd, eu hadeiladu ar gyfer y Queen Mary a'r Queen Elizabeth a wnaethant. Ond mae'n rhan o'r chwedloniaeth honno.
Ac yn bwysig, pethau fel dyfarniad Cwm Taf—1901, dyfarniad pwysig gan y llys a ddileodd hawliau undebau llafur sylfaenol, a arweiniodd at Ddeddf Anghydfodau Llafur 1906, cam sylfaenol yn y broses o ddemocrateiddio ein cymdeithas a rhoi grym a chydnabyddiaeth i hawl gweithwyr i gael llais. Ac yn ardal Pontypridd ei hun, un o sylfaenwyr y mudiad manwerthu cydweithredol, William Hazell—mudiad a barhaodd mewn gwirionedd o fewn y sector manwerthu hyd at 1985, ar ôl streic y glowyr, pan gaewyd glofa Lady Windsor.
Nawr, mae'r rheini i gyd yn bethau—ac mae llawer, llawer mwy o'r rhain—ond y cwestiwn yw: sut y cânt eu haddysgu yn ein hysgolion? Pwy sy'n gwybod amdanynt mewn gwirionedd? Ble mae'r deunyddiau? Pan fyddant yn dod i ysgolion, yn aml ni fydd athrawon yn hanu o'r ardal y maent yn addysgu ynddi. Sut y gallwn sicrhau y ceir hyfforddiant o'r fath, fod y deunyddiau ac yn y blaen ar gael, er mwyn i bobl allu bwrw iddi go iawn, ac yna'r trefniadau gyda gweddillion y sefydliadau hyn sy'n aml yn dal i fodoli mewn cymdeithasau treftadaeth?
Felly, dyna'r her fawr i mi mewn gwirionedd, oherwydd rwy'n credu bod yr holl ymrwymiadau yno o ran pwysigrwydd ein cymunedau, o ran deall ein hanes, o ble rydym yn dod, y bobl allweddol yn hynny, yn hanes ehangach Cymru ac o fewn hanes rhyngwladol ehangach, ac ymddengys i mi fod problemau mawr iawn yn codi gyda'n gallu i gyflawni hyn mewn gwirionedd a'n gallu i'w gyflawni'n gyson a sut y gallwn ei gyflawni, ac rwy'n tybio bod yr un peth yn wir, os edrychwn o gwmpas, am bob un o'n cymunedau ledled Cymru, lle bydd gennym ein henghreifftiau o'r hanes hwnnw a bydd gennym yr un pryderon yn ôl pob tebyg o ran y lle a roddir i hynny.
Mae'n her fawr, ond credaf ei bod yn her y mae'n rhaid inni ymateb iddi. Credaf fod hwn yn adroddiad rhagorol, yn adroddiad gwirioneddol bwysig a hanesyddol i'r Cynulliad hwn, ac rwy'n gobeithio y rhoddir ystyriaeth ddifrifol iawn i'r agweddau arno sydd mor bwysig i'n system addysg yn y dyfodol a'n plant a'n dinasyddion yn y dyfodol. Diolch.