Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 15 Ionawr 2020.
Mae'r argymhellion ar amrywiaeth yn yr adroddiad, y gellir eu cyfiawnhau'n llwyr, ac rwy'n falch iawn fod y Gweinidog wedi derbyn y rheini, yn meddu ar arwyddocâd ehangach ynglŷn â lle rydym yn ffitio i'n bywydau ein hunain yn ogystal â'n lle yn y bydysawd, os mynnwch—cwestiynau a adlewyrchir mewn crefyddau o amgylch y byd. Ond hyd yn oed mewn amgylchedd seciwlar fel ein hun ni, rwy'n siŵr y byddwn i gyd wedi treulio munud neu ddwy yn ddiweddar yn gofyn y cwestiynau, 'A ydw i'n Gymro? A ydw i'n Brydeiniwr? A ydw i'n Ewropead?'
Rwy'n credu ei bod hefyd yn deg dweud nad yr ysgol yw'r ateb i bob dim o ran ein dealltwriaeth o hanes. Mae'n gynnyrch dysgu gydol oes, a gallwn hyd yn oed gydnabod cyfraniad yr holl gynhyrchwyr ffilm a theledu a llenorion ffuglen hanesyddol hyd yn oed, gan gynnwys y rhai yng Nghymru, sy'n cydnabod drama fawr ein straeon, boed yn lleol neu'n fyd-eang, ac sy'n dal ein sylw—rhywbeth sy'n allweddol i ddysgu—ac yn cadw ein diddordeb. Ni waeth am gywirdeb, gwnewch hanes yn berthnasol, dangoswch y rhan y mae bodau dynol yn ei chwarae.
Nid wyf yn credu bod Macmillan yn hollol gywir pan gwynodd am 'Ddigwyddiadau, fachgen, digwyddiadau'. Rwy'n credu bod hanes wedi'i adeiladu ar benderfyniadau; penderfyniadau pobl eraill fel arfer ac yn aml iawn wrth gwrs, penderfyniadau dynion. Ond gallwn gael dadl arall am hynny.
Mae gan y cwricwlwm newydd hwn botensial i drin astudio hanes fel modd o ddeall ac archwilio'r natur ddynol lawn cystal ag astudio llenyddiaeth. Nid wyf yn credu y dylid cyfyngu hanes Cymru i wersi penodol chwaith. Ond mae hanes yn fwy na ffynhonnell o ddeunydd er mwyn i athrawon y dyniaethau allu cyfeirio at ddigwyddiadau diddorol o hanes Cymru i ddarlunio pwyntiau anthropolegol eraill. Rwy'n credu ein bod eisoes yn clywed bod gormod o'n hysgolion yn dibynnu ar athrawon sy'n dysgu dosbarthiadau y tu hwnt i'w harbenigedd, ac rydym wedi cytuno nad dyma'r profiad gorau i'n disgyblion. Nawr, rydym yn gofyn i'n hathrawon gael ehangder o wybodaeth a phrofiad i fynegi'r cwricwlwm drwy wersi y gellir parhau i'w galw'n hanes neu fathemateg a sicrhau bod disgyblion yn dal i gael digon o wybodaeth bynciol i ddangos peth dyfnder ac arbenigedd er mwyn mynd ar drywydd astudiaethau, hyfforddiant neu waith pellach mewn meysydd penodol.
Mae pobl ifanc yn parhau i fod eisiau cymwysterau ar ddiwedd addysg orfodol, a bydd yn dal i fod angen sicrhau ansawdd yr arholiadau neu asesiadau eraill a'u cymharu â'r rhai cyfatebol agosaf yn y DU a thu hwnt. Gydag arholiadau, daw manylebau, ac mae hynny'n awgrymu bod angen rhyw elfen o ragnodi—y llinyn arian hwnnw roedd David yn sôn amdano—i sicrhau bod manylebau'n cael eu cyflawni.
Nid anogaeth i addysgu ar gyfer arholiadau'n unig yw hyn. Rwy'n cydnabod ac yn deall pam y mae'r Gweinidog wedi gwrthod argymhelliad 2, ond gofynnaf iddi hi a'r pwyllgor hyd yn oed, i ystyried y darlun hwn o'r her. Mae hyn yn mynd i swnio'n dipyn o ymffrost mam, felly ymddiheuriadau am hynny a'r canlyniad tebygol y bydd hyn yn rhywbeth na ddylid cyffwrdd ag ef. Felly, fy mab, iawn? Fe raddiodd gyda gradd ddosbarth cyntaf mewn hanes modern diweddar o brifysgol Grŵp Russell. Dyna fy wyneb mam falch. Ond fe wnaeth ei addysg orfodol trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgol yn y dref sy'n gartref i senedd Owain Glyndŵr, ac roedd yn dwli ar ei athro hanes. Prin iawn oedd yr hanes Cymru a astudiodd, neu hyd yn oed ddimensiwn Cymreig i'r hanes Prydeinig a wnaeth, gan nad oedd gofyn dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o hanes Cymru yn ei addysg orfodol. Ac mae hynny'n wahanol iawn i fy nyddiau ysgol fy hun, gyda llaw, er fy mod yn gofyn i mi fy hun hyd yn oed yn awr beth a ddysgais am fy nghynefin mewn gwirionedd.
Bydd y Gweinidog yn dweud y bydd adolygiad Estyn a'r cwricwlwm newydd yn ateb yr her honno, ond gyda'r gweithlu presennol yn gyfarwydd â'r cwricwlwm hanes cul iawn presennol sydd wedi gwasgu hanes Cymru allan, sut y gallwn warchod rhag tair risg?
Y gyntaf yw hon: pwy fyddai'n beio'r gweithlu presennol, nad yw wedi cael fawr o brofiad o ddysgu hanes Cymru efallai, heb sôn am yr amgylchedd addysgol tra gwahanol hwn, am geisio'r llwybr hawsaf posibl ar gyfer cyrraedd isafswm derbyniol a dim mwy? Nid oes fawr o ddiben cael adnoddau, fel yn argymhelliad 6, os nad oes gan athrawon amser i fanteisio i'r eithaf ar yr adnoddau hynny, waeth pa mor dalentog a hyblyg ydynt.
Yr ail yw y bydd ein hathrawon newydd wedi meithrin y sgiliau addysgol hyn sy'n fwy trawsbynciol er mwyn cyflawni'r nodau y cawn ein hatgoffa amdanynt yn ymateb y Gweinidog i argymhelliad 7, ond sy'n llai arbenigol yn y maes gwybodaeth, er gwaethaf ei gobeithion i'r gwrthwyneb a nodir yn yr un ymateb. Dim ond hyn a hyn y gallwch ei ffitio i mewn i flwyddyn o astudio TAR wedi'r cyfan.
Yn drydydd ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd. Y trydydd yw y gellid ystyried hanes Cymru fel ateb i'r agwedd hunaniaeth leol yn y cwricwlwm, ac y caiff ei adlewyrchu mewn gwaith cwrs a dysgu drwy brofiad yn hytrach na chael ei ystyried hefyd fel pwnc priodol ar gyfer yr elfen profi academaidd, sy'n gorfod bod yn gydran o gymwysterau TGAU neu eu holynwyr, a fydd yn dal i fod yn bwysig am y rhesymau a roddais yn gynharach, ac nid wyf yn credu y byddai unrhyw un ohonom eisiau hynny. Diolch.