Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 15 Ionawr 2020.
Diolch i'r pwyllgor am yr adroddiad pwysig yma. Fe hoffwn i gymryd y cyfle brynhawn yma i holi'r Gweinidog am ambell i beth sydd yn codi o'i hymatebion hi i adroddiad y pwyllgor—yn gyntaf, yr adolygiad thematig mae Estyn yn mynd i fod yn ei wneud, sy'n edrych ar drefniadau addysgu hanes Cymru mewn ysgolion: ydy'r cylch gwaith wedi'i gytuno, a beth ydy'r amserlen ar gyfer cyhoeddi'r gwaith yma? Mae angen i hwn ddigwydd yn sydyn. Dwi'n rhagdybio y bydd yr adroddiad yn cadarnhau beth yr ydym ni'n ei wybod yn barod, sef bod yna bocedi o arfer da iawn ond mai diffyg cysondeb ydy'r nodwedd amlycaf, efo rhai ysgolion yn methu â chyflwyno dim oll i'w disgyblion am hanes Cymru. Mae angen y dystiolaeth yna—dwi'n cytuno bod angen iddo fo ddigwydd yn sydyn.
Fel mae eraill wedi sôn, mae'r ymateb i argymhelliad 2 yn hynod o siomedig. Gofyn am ganllaw mae'r argymhelliad sy'n nodi corff cyffredin o wybodaeth ar gyfer yr holl ddisgyblion sy'n astudio hanes. Fel dywedais i ddoe, wrth drafod cymorth cyntaf, dwi yn deall gweledigaeth a chysyniad y cwricwlwm newydd ac yn croesawu'r hyblygrwydd y bydd o'n ei roi i athrawon, ond dwi yn credu bod rhai materion, sy'n cynnwys hanes Cymru, yn haeddu mwy o eglurder a mwy o sicrwydd yn eu cylch nhw. Fel mae pethau, dydy'r sicrwydd y bydd bob plentyn yn cael dysgu yn llawn am hanes ein gwlad ddim ar gael, a bydd y cwricwlwm newydd ddim yn gwella'r sefyllfa heb gael canllaw clir. Heb y canllaw yna, mae peryg i'r sefyllfa waethygu, a dyna sydd yn peri gofid mawr i mi. Dwi wedi awgrymu newid 'hanes', sy'n dod o dan y pennawd dyniaethau, yn 'hanes Cymru a'r byd', fel o leiaf y byddai'n rhaid rhoi persbectif Cymreig i'r dysgu. Ydy hyn yn rhywbeth y byddai'r Gweinidog yn barod i'w ystyried?
Dwi'n falch gweld eich bod chi yn eich ymateb i adroddiad y pwyllgor yn comisiynu adnoddau newydd—newyddion da iawn. Beth ydy'r manylion am hyn, os gwelwch yn dda, a beth ydy'r amserlen ar gyfer eu cyhoeddi nhw? Dwi'n gweld o'ch ymateb chi i'r adroddiad eich bod chi'n dweud y bydd hyn i gyd yn cael ei lywio o ganlyniad i arolwg Estyn, sydd eto yn rheswm da iawn dros gael amserlen dynn a chyhoeddiad buan o'r arolwg hwnnw. Mae cael corff o adnoddau pwrpasol yn cyfeirio at ddigwyddiadau a phynciau allweddol yn hanes Cymru a'r byd yn allweddol, ac mae yna, wrth gwrs, lawer wedi cael eu cyhoeddi yn barod. Dwi'n gwybod eu bod nhw ar gael ar Hwb ac yn y blaen, ond sut ydych chi'n bwriadu tynnu'r cwbl ynghyd a sut bydd yr adnoddau yn sicrhau bod ein pobl ifanc ni yn dod i wybod hanfodion ein hanes hir, ac nid jest talpiau di-gyswllt?
Tra'r oeddwn yn mynd ar daith eithaf hir dros y Nadolig, mi gefais i gyfle i wrando ar un o bodlediadau hanes Cymru y diddanwr Tudur Owen. Mi wnes i wrando ar bennod o'r enw 'Pwy oedd Owain Glyndŵr?', efo'r haneswyr Rhun Emlyn ac Eurig Salisbury yn ein tywys ni drwy un o gyfnodau mawr, dramatig ein hanes ni. Roeddwn i'n gwrando yn astud ac yn dysgu llawer o wybodaeth ddifyr, newydd ac, yn wir, ces i fy swyno'n llwyr efo'r profiad o wrando ar yr haneswyr ifanc yma yn siarad mor ddeallus ac angerddol am eu pwnc. Mi oedd y daith drosodd mewn dim o beth.
Mae ein hanes ni'n llawn cyffro, ond ar hyn o bryd mae'r mwyafrif ohonom ni yn cael ein hamddifadu ohono fo. Byddai Plaid Cymru mewn Llywodraeth yn unioni hynny. Yn y cyfamser, dwi'n erfyn ar y Llywodraeth bresennol i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn cael dysgu hanes Cymru a'r byd, a hynny ymhob ysgol ar draws ein gwlad.