Part of the debate – Senedd Cymru am 5:04 pm ar 15 Ionawr 2020.
Rwy'n credu bod yr adroddiad rydym yn ei drafod heddiw yn un buddiol ac arwyddocaol iawn, oherwydd mae addysg mor hanfodol bwysig a hanes yn rhan mor fawr, a rhaid iddo fod yn rhan mor fawr o addysg. Yn amlwg, mae angen i bob un ohonom gael dealltwriaeth mor dda ag y gallwn o hanes y byd, ein hanes lleol, ein hanes cenedlaethol, os ydym am wir ddeall y gorffennol ac wrth gwrs, ei berthnasedd i'r presennol a'r dyfodol. Mae hefyd yn bwysig iawn, yn fy marn i, i'n hymdeimlad o le a'n hymdeimlad o hunaniaeth, sy'n wirioneddol bwysig o ran cael sylfaen i fynd allan i'r byd, fod gennym yr ymdeimlad hwnnw o hanes, ac yn arbennig, fe gredaf, yr ymdeimlad hwnnw o hanes lleol a chenedlaethol.
Yr hyn yr hoffwn ei bwysleisio heddiw, Ddirprwy Lywydd, yw fy mod yn credu y dylai addysgu hanes ddechrau mewn sawl ystyr gyda hanes lleol cyn datblygu i fod yn hanes rhanbarthol a chenedlaethol, ac o'r fan honno'n hanes Ewropeaidd a rhyngwladol, oherwydd rwy'n credu ei bod yn haws denu plant a phobl yn gyffredinol at hanes os ydych yn defnyddio eu hamgylchedd lleol, enwau lleoedd, enwau ardaloedd, hanes diwydiannol, ac yn wir, hanes cymunedau amrywiol.
Wrth dyfu i fyny yng Nghasnewydd, ac wrth fynd i ysgol gynradd mewn ardal aml-ethnig, mae'n siomedig, rwy'n meddwl—gwn fod hyn amser maith yn ôl—ond mae'n siomedig edrych yn ôl a myfyrio ar y ffaith nad oedd dim o hynny yn fy addysg ar y pryd. Ychydig iawn a gofiaf am hanes lleol er ein bod wedi cael hanes diwydiannol y dociau, hanes diwydiannol y glo a'r dur a ddeuai drwy'r dociau hynny, gwrthryfel y siartwyr yng Nghasnewydd, a oedd mor arwyddocaol o ran y frwydr am ddemocratiaeth yn llawer pellach i ffwrdd na Chasnewydd ei hun, ac wrth gwrs, yr amrywiaeth lle cawsom donnau o fewnfudo, fel fy mam fy hun yn dod i Gasnewydd fel rhan o'r allfudo a mewnfudo Gwyddelig, ac wrth gwrs, Gorllewin India ac Asia.
Ni chafodd dim o hynny ei adlewyrchu'n fawr iawn, os o gwbl, yn fy addysg yn yr ysgol gynradd yn ôl yr hyn a gofiaf. Ac o ran y Gymraeg, os cofiaf yn iawn, nid wyf yn credu ein bod ni hyd yn oed wedi dysgu'r anthem genedlaethol yn Gymraeg. Felly, roedd cymaint yn brin, a gwn ein bod wedi gwneud llawer o gynnydd ers hynny, ond credaf fod cryn dipyn o waith i'w wneud eto a chredaf fod yr adroddiad hwn yn ymgorffori llawer o hynny ac yn ei nodi mewn modd cryno a phenodol iawn, ac rwy'n credu bod yr argymhellion yn bwysig iawn ac rwy'n croesawu'r ymateb gan Lywodraeth Cymru i lawer o'r argymhellion hynny, er nad pob un ohonynt.
Credaf ei bod yn bwysig mewn perthynas ag amrywiaeth ein bod yn ystyried y dystiolaeth a gafodd y pwyllgor, Ddirprwy Lywydd, a'n bod yn cynnwys y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig a Race Council Cymru i helpu i adrodd hanes y mewnfudo a phrofiadau'r poblogaethau lleiafrifol ethnig hynny wrth ein plant heddiw, nid yn yr ysgolion mwyaf amrywiol yn unig, ond mewn ysgolion yn gyffredinol.
Rwyf hefyd yn meddwl y gallwn groesgyfeirio yma at adroddiad arall y mae'r pwyllgor diwylliant wedi'i gyflawni ar 'Minnau hefyd!' a defnyddio'r celfyddydau a diwylliant i fynd i'r afael ag allgáu cymdeithasol. Oherwydd mae ein hamgueddfeydd yn amlwg yn berthnasol iawn, a'n sefydliadau diwylliannol a chelfyddydol yn fwy cyffredinol, yn yr ymdrech i addysgu ein plant a dylai hynny fod yn wir mewn perthynas â hanes. Felly, dylem fynd â'r plant allan i'r amgueddfeydd gymaint ag y gallwn ac i sefydliadau eraill, ac yn wir, dylem ddod â'r sefydliadau hynny i mewn i'n hysgolion. Felly, rwy'n credu bod angen inni wneud y cysylltiadau gweddol amlwg hynny, yn fy marn i, o ran sut y datblygwn hyn oll.
Felly, i mi, Ddirprwy Lywydd, dylai ddechrau gyda hanes lleol, rwy'n credu, o safbwynt y cynnydd sydd angen inni ei wneud oherwydd rwy'n credu ei bod yn llawer haws ennyn diddordeb ein plant a'n pobl ifanc ar y sail honno ac yna gallwn ddatblygu'r straeon o'r pwynt hwnnw.