Part of the debate – Senedd Cymru am 6:06 pm ar 15 Ionawr 2020.
Mae trais rhywiol yn ail yn unig i lofruddiaeth ar y raddfa droseddu, ac mae wedi'i gondemnio'n briodol ac yn cael ei gosbi'n llym iawn pan gaiff cyflawnwyr eu heuogfarnu. Ond yr un peth y mae'r cynnig hwn yn ei anwybyddu ar y llaw arall, os yw trais rhywiol yn drosedd mor ddifrifol, yw bod cyhuddo rhywun yn anghywir o drais rhywiol yn fater difrifol iawn hefyd. Mae pawb yn gwybod am y stigma sydd ynghlwm wrth honiadau o'r fath. Ac rwy'n cael rhywfaint o anhawster i dderbyn telerau'r cynnig lle dywedai
'nad yw goroeswyr, yn rhy aml, yn cael eu credu'.
Wel, efallai fod hynny'n wir, ond hefyd, fel y gwyddom o achos Carl Beech, a llawer o rai eraill, mae'r gwrthwyneb hefyd yn wir—fod llawer o ddioddefwyr honedig yn gwneud honiadau ffug ac felly'n darostwng y dioddefwyr i drawma na ellir mo'i amgyffred.
Felly, yr hyn sy'n fy mhoeni am y ffordd y mae'r cynnig hwn wedi'i eirio yw nad yw'n ymddangos ei fod yn talu unrhyw sylw o gwbl i un o egwyddorion mwyaf sylfaenol cyfiawnder Prydain, sef y rhagdybiaeth o ddiniweidrwydd—rhywbeth sydd wedi'i ymgorffori yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau dynol, yn erthygl 6(2). Ymddengys mai cyhuddo yw euogfarnu. Soniwn am
'arfer gorau rhyngwladol ar gynyddu cyfraddau euogfarnu'.
Wel, os tybiwn fod yn rhaid i ni gael cwota o euogfarnau, mae hynny i bob golwg yn tanseilio union sail y system gyfiawnder ei hun. Mae'n ddigon posibl nad oes digon o euogfarnau am nad yw'r dystiolaeth yn dal dŵr, ac yn aml iawn, fel y gwyddom, caiff pobl eu heuogfarnu'n anghywir, ac ar y llaw arall, ceir pobl sy'n osgoi cosb am droseddau am nad ydynt wedi gallu dod o hyd i ddigon o dystiolaeth yn y llys i argyhoeddi rheithgor.
Rwy'n credu mai fi yw'r unig Aelod o'r Cynulliad hwn sydd wedi cael y profiad diflas o gael fy nghyhuddo'n dwyllodrus o drais rhywiol, gyda fy ngwraig, yn ôl yn 2001. Cefais fy arestio'n gyhoeddus iawn gerbron cyfryngau'r byd i gyd, ac mae hwnnw'n brofiad go annymunol. Ar yr un diwrnod, anfonwyd chwe heddwas i Swydd Gaer lle roeddem yn byw ar y pryd, er mwyn i'n tŷ gael ei ysbeilio a'i chwilio. A chafodd fy ngwraig y profiad gwarthus o orfod ffonio ei mam a oedd yn 88 oed ar y pryd, a gofyn iddi fynd i agor y tŷ i dderbyn y ddirprwyaeth hon, oherwydd cawsom ein carcharu, ar ôl ein harestio, mewn gorsaf heddlu yn Llundain ar gyhuddiadau ffug o gam-drin rhywiol. Cafodd hyn i gyd ei drefnu, wrth gwrs, gan Max Clifford. Gwnaeth fargen â'r sawl a wnaeth gyhuddiadau ffug yn ein herbyn gyda News of the World, fel y gallai hi gael £50,000. Yn y pen draw aeth i'r carchar am dair blynedd am dyngu anudon a cheisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Roeddwn yn rhyfeddu, 10 mlynedd yn ddiweddarach, pan gysylltodd rhywun â mi yn gwbl annisgwyl i ofyn ai'r un un oedd y person a oedd wedi cyhuddo ei mab ar gam o drais rhywiol â'r sawl a gyhuddodd fy ngwraig a minnau. Ac wele, dyna oedd wedi digwydd: Nadine Milroy-Sloan. Aeth i'r carchar am yr eildro—am bedair blynedd y tro hwnnw. A gwyddom o Operation Midland fod yr honiadau mwyaf hurt yn aml iawn, mae'n ymddangos—pan ddarllenwch wrth edrych yn ôl beth roedd yr heddlu wedi'i gredu—wedi arwain at ddinistrio bywydau pobl yn llwyr. Rydym yn gwybod, yn achos Operation Midland fod pobl fel y Maeslywydd yr Arglwydd Bramall wedi'u cyhuddo o gam-drin bechgyn, a phennaeth MI5, pennaeth MI6, y Prif Weinidog Edward Heath, y cyn Ysgrifennydd Cartref, Uncle Tom Cobbley a'r cyfan. Ac yn ystod cyfweliadau dagreuol gyda'r heddlu, cyhuddodd Carl Beech ei ddiweddar lystad hyd yn oed, uwch-gapten yn y fyddin, o'i dreisio, a dywedodd ei fod wedi ei drosglwyddo i gadfridogion i'w arteithio mewn canolfannau milwrol ac wedi dioddef camdriniaeth rywiol sadistig gan ffigurau eraill a oedd yn rhan o'r sefydliad yn y 1970au a'r 1980au. Ni allwn wadu bod hon yn broblem ddifrifol hefyd. Felly, hoffwn pe bai'r cynnig hwn wedi cael ei lunio mewn ffordd fwy cytbwys i gyfeirio at ddioddefwyr eraill y saga druenus hon hefyd, sef y rhai sy'n cael eu cyhuddo ar gam. Mae fy hen gyfaill Harvey Proctor wedi bod ar y teledu lawer gwaith yn y misoedd diwethaf fel un arall o ddioddefwyr Operation Midland, ac mae'r trawma—rwy'n siŵr y byddai pawb sydd wedi'i weld ar y teledu yn gweld—wedi gadael ei ôl yn y llinellau ar ei wyneb.
Nawr, wrth dynnu sylw at bobl sydd wedi dioddef y profiad hwn, nid yw'n fwriad gennyf fychanu'r trawma a'r anghyfiawnder a gyflawnir yn erbyn dioddefwyr trais rhywiol mewn unrhyw fodd. Mae llawer o bobl yn cael eu targedu o dan yr amgylchiadau rwyf wedi'u disgrifio am eu bod yn adnabyddus; mae'n bosibl gwneud arian o hyn os ydych chi'n ddigon penderfynol a diegwyddor. Ond nid pobl fel fi yw dioddefwyr go iawn honiadau ffug—yn y tymor hir, rydym wedi goroesi ac adfer a ffynnu—dioddefwyr go iawn honiadau ffug yw'r rhai sydd wedi dioddef trais rhywiol go iawn, ond y mae eu hygrededd gerbron rheithgor wedi'i leihau yn sgil yr honiadau ffug proffil uchel y profir wedyn eu bod yn gwbl hurt.