Part of the debate – Senedd Cymru am 6:40 pm ar 15 Ionawr 2020.
Felly, mae'n bwysig iawn nad ydym yn dweud nac yn gwneud unrhyw beth sy'n bwydo'r diwylliant hwn sy'n tybio, pan fydd menywod yn gwneud yr honiadau hyn, eu bod yn dweud celwydd, oherwydd, fel y mae Delyth ac eraill wedi dweud, dyna'r rhagdybiaeth waelodol. Nid ydym yn gwneud y rhagdybiaethau hynny am ddioddefwyr troseddau treisgar eraill. Ac rwy'n ofni bod hyn yn adlewyrchu diwylliant misogynistaidd. Oni bai ein bod yn credu bod menywod yn fwy tebygol—a menywod yw'r rhan fwyaf o'r dioddefwyr, er bod rhai, wrth gwrs, yn ddynion—o ddweud celwydd na dynion, ni allwn dderbyn yr hyn sy'n digwydd. Ac nid wyf am ailadrodd yr ystadegau a gyflwynwyd eisoes, ond rwy'n credu mai 3.2 y cant o erlyniadau llwyddiannus yw'r ffigur diweddaraf, a dim ond yr achosion hynny lle gwnaed honiadau yw hynny, ac rydym wedi clywed gan sawl cyfrannwr i'r ddadl hon pa mor anodd yw gwneud yr honiadau hynny, pa mor anodd yw rhoi gwybod.
Fe wnaeth Mark Isherwood bwyntiau da iawn yn ei gyfraniad, fel y gwna bob amser, ond mae arnaf ofn nad wyf yn gallu credu'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei ddweud yn awr, pan fo cyllideb y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi'i lleihau draean ers 2010, fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth. Nawr, ni allwch erlyn yn llwyddiannus, ac nid ydym yn gwybod—. Soniodd y Gweinidog am yr adolygiad; mae eraill wedi sôn am yr adolygiad; gwnaeth Mark hynny ei hun. Ac mae hynny i'w groesawu'n fawr, oherwydd bydd ffactorau cymhleth yn codi ynglŷn â pham y mae lefel yr euogfarnau wedi gostwng, ond bydd lefel yr euogfarnau'n gostwng yn rhannol oherwydd nad oes gan Wasanaeth Erlyn y Goron adnoddau i fynd ar ôl yr achosion anoddaf. Felly, os ydynt ond yn mynd ar drywydd llwyddiannau hawdd, rhywfaint o'r rheswm am hynny, rwy'n siŵr, yw oherwydd bod adnoddau mor dynn. Felly, hyd nes y gwelwn fwy o adnoddau yn y system, mae arnaf ofn nad oes gennyf fawr o ddiddordeb yn yr hyn y mae'r Llywodraeth ganolog yn ei ddweud.
Rwyf am grybwyll cyfraniad Delyth, oherwydd mae'r hyn a ddywedodd am y cywilydd, y stigma, yr ofn sydd gan bobl ynglŷn ag adrodd mor bwysig, ac mae angen inni newid hynny. Ac mae angen inni sicrhau nad yw ein hymateb yn digwydd mewn gwactod, a dyma'r rheswm pam ein bod yn cefnogi datganoli cyfiawnder troseddol, fel y gallwn gael dull cyson o weithredu. Rwy'n credu mai Mark a ddywedodd nad yw trosedd yn parchu ffiniau. Wel, nac ydy, ond mae'r ffordd rydym yn ymdrin â throsedd yn parchu ffiniau; mater gwleidyddol ydyw—gydag 'g' fach, nid mater pleidiol wleidyddol. Ac rwy'n credu—ac rwy'n falch fod y Llywodraeth yn cefnogi ein cynnig—fod yn rhaid inni gael dull cyson o weithredu ar draws y gwasanaethau cyhoeddus, ac ni allwn sicrhau hynny oni bai bod yr holl wasanaethau cyhoeddus hynny'n atebol yn ddemocrataidd ac yn agored i'r un cyfeiriad.
Mae'n ddrwg iawn gennyf os oes unrhyw un yn credu bod cyflwyno'r mater hwn yn fater pleidiol wleidyddol neu fod cymhelliant gwleidyddol yn sail iddo. Y cyfan y gallaf ei ddweud yw bod dwsinau o oroeswyr wedi cysylltu â mi a fy nghyd-Aelodau heddiw, ac mae rhai ohonynt wedi siarad yn gyhoeddus. Cysylltodd un goroeswr penodol â mi ar ôl iddi fy nghlywed i a Leanne Wood yn gwneud sylwadau ar y materion hyn yn gyhoeddus. Ac maent wedi diolch i ni am gyflwyno'r mater. Ac nid wyf yn poeni mewn gwirionedd os oes rhai pobl yn y Siambr yn sinigaidd ynglŷn â'n cymhellion, oherwydd mae'r hyn y mae'r goroeswyr yn ei feddwl yn llawer pwysicach i mi na hynny.
Mae cymaint mwy yr hoffwn ei ddweud; rwy'n gwybod nad oes gennyf amser. Hoffwn wneud sylw byr am gyfraniad y Dirprwy Weinidog—rwy'n ymwybodol iawn o'i hargyhoeddiadau personol yn y materion hyn, ac roeddwn yn bwriadu talu teyrnged hefyd i Joyce Watson am ei blynyddoedd o ymgyrchu ar y materion hyn, yn yr un modd â fy nghyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru. Ond rwyf am ddweud wrth y Gweinidog fod yn rhaid i ni sicrhau—. Nid oes gennym y dulliau eto. Nid yw'r pwerau wedi'u datganoli eto, a bydd angen inni gael y dadleuon hynny a sicrhau eu bod yn cael eu datganoli. Ond mae yna bethau y gallwn eu gwneud yn awr, ac un o'r pethau y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud yn awr yw buddsoddi go iawn, gan nodi cyfraniad Rhun ap Iorwerth am y diffyg mynediad at wasanaethau cwnsela. Mae hyn yn rhywbeth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud yn awr, mae angen iddi ei wneud yn awr. Rydym wedi gweld gormod o wasanaethau—gwasanaethau lleol, dan arweiniad goroeswyr—yn colli eu cyllid i sefydliadau mwy o faint na fyddant yn deall y dioddefwyr yn y ffordd y maent hwy'n eu deall.
Ac rwyf am orffen y cyfraniad hwn, Lywydd, a diolch am eich amynedd, drwy ddweud yn syml fod yn rhaid i bob un ohonom wneud popeth a allwn. Nid yw'n ddigon da inni eistedd o gwmpas ac aros i'r gwasanaethau cyfiawnder troseddol gael eu datganoli. A rhaid i ni, sydd â'r gwaith o ddwyn y Llywodraeth i gyfrif, graffu arnoch o ran y modd y defnyddiwch eich pwerau yn awr. Ac rwyf am orffen drwy ddweud, wrth y menywod, wrth y dioddefwyr: rwy'n eich credu chi, ac rwy'n credu bod y rhan fwyaf o'r bobl yn yr ystafell hon yn eich credu hefyd.