Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 21 Ionawr 2020.
Gweinidog, rwy'n gweld bod astudiaeth fyd-eang wedi datgelu bod sepsis yn lladdwr mwy na chanser erbyn hyn, a bod enghreifftiau ohono ar gynnydd yng Nghymru a Lloegr. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o hyn, a sut mae eich Llywodraeth yn mynd i sicrhau bod GIG Cymru yn barod am hyn yn ystod y flwyddyn nesaf?