1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 21 Ionawr 2020.
1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella'r gwasanaeth iechyd dros y flwyddyn sydd i ddod? OAQ54972
Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna.
Ymhlith ein blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod mae buddsoddi'r symiau uchaf erioed ar draws ein system iechyd a gofal cymdeithasol, hyfforddi'r nifer uchaf erioed o weithwyr clinigol proffesiynol i greu gweithlu'r dyfodol ac amddiffyn Cymru rhag unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i roi'r GIG ar werth.
Wel, Prif Weinidog, fel y gwyddoch, mae'r pwysau presennol sy'n wynebu GIG Cymru wedi dod i'r amlwg yn yr wythnosau diwethaf—'pwysau'r gaeaf', fel yr ydym ni'n hoffi eu galw, er mai'r realiti yw eu bod nhw yno yn ystod y rhan fwyaf o'r flwyddyn. Nawr, yng ngeiriau Dr Phil Banfield, Cadeirydd pwyllgor ymgynghorol Cymdeithas Feddygol Prydain Cymru, dywedodd
Mae'n amlwg o'r datblygiadau diweddaraf bod pethau'n mynd yn waeth nid yn well.
Aeth ymlaen hefyd i ddweud
Bydd gofal yn dioddef os na wneir rhywbeth am hyn nawr. Mae'n rhaid cymryd hyn o ddifrif. Mae'n gwbl bosibl y gallai bywydau gael eu colli'n ddiangen.
Prif Weinidog, mae Cymdeithas Feddygol Prydain hefyd yn mynd ymlaen i awgrymu, fel y mae llawer ohonom ni yn y Siambr hon wedi awgrymu, y gwahanol bethau y mae angen eu gwneud i leddfu pwysau'r gaeaf a'r mathau o feysydd y mae angen i ni eu hystyried, o gynyddu nifer y gwelyau mewn ysbytai, i gynyddu gallu pobl i ddod allan o'r ysbyty a chael eu cynorthwyo yn y gymuned, i sicrhau mai dim ond y bobl y mae angen iddyn nhw fynd i'r ysbyty sy'n mynd i'r ysbyty. Felly, mae pedair blynedd wedi mynd heibio, ac roedd hyn yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. A allwch chi ddweud wrthym ni, os gwelwch yn dda, yn y flwyddyn sydd gennym ni ar ôl, a fyddwch chi'n gallu mynd i'r afael â'r mater difrifol iawn hwn o'r diwedd? Ac mae'n ddifrifol, oherwydd rwyf i eisiau cloi ar yr un nodyn hwn. Mae Dr Banfield, sy'n cynrychioli llawer iawn o bobl yn y GIG iechyd, yn mynd ymlaen i ddweud bod y pwysau ar staff yn annioddefol, a bod bywydau cleifion mewn perygl. Nid yw hon yn sefyllfa dderbyniol.
Wel, Llywydd, gadewch i mi gytuno â rhywbeth a ddywedodd yr Aelod ar ddechrau ei chwestiwn, oherwydd mae naw o'r 11 mis diwethaf yn y GIG yng Nghymru wedi bod y misoedd prysuraf o'r math hwnnw a gofnodwyd erioed. Felly, mae hi'n iawn i ddweud bod y pwysau yn y GIG yng Nghymru yn ddi-baid; bod y galw'n tyfu drwy'r amser. Ond mae hi wedyn yn mynd ymlaen i ganolbwyntio ar yr ochr gyflenwi yn unig, fel pe byddai'r ateb i'r gwasanaeth iechyd yw parhau i ehangu'r gwasanaethau a ddarperir yn unig, gan fynd ar drywydd galw bythol gynyddol. Ac nid yw hwnnw'n ateb i'r gwasanaeth iechyd. Rydym ni'n gwneud hynny i gyd. Rydym ni'n parhau bob blwyddyn. Mae gennym ni'r nifer uchaf erioed o weithwyr proffesiynol yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Erbyn hyn mae gennym ni fwy o bobl yn gweithio yn y GIG yng Nghymru nag yn holl Fyddin Prydain. Cyflogir mwy na 92,000 o bobl i ddarparu'r gwasanaeth y mae Angela Burns yn cyfeirio ato. O ganlyniad i gynllunio ar gyfer pwysau'r gaeaf, bydd 400 yn fwy o welyau, neu wasanaethau sy'n cyfateb i welyau, ar gael y gaeaf hwn nag a fyddai wedi bod ar gael fel arall.
Cyfeiriodd yr Aelod at y gwasanaethau sydd ar gael i gadw pobl allan o'r ysbyty. Fy nealltwriaeth i, o wybodaeth reoli, yw y byddwn ni wedi gweld gostyngiad i nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal ym mis Rhagfyr y llynedd oherwydd yr ymdrechion aruthrol a wneir gan ein hawdurdodau lleol i ddarparu'r gwasanaethau hynny. Ond pan fydd llanw cynyddol o bobl yn dod drwy'r drws; pan fydd y bobl hynny yn aml yn oedrannus, pan fo'u hanghenion yn aml yn gymhleth, pan fo angen iddyn nhw fod yn yr ysbyty—. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd Angela Burns, ond dim ond rhywun sydd angen bod mewn ysbyty ddylai fod yn yr ysbyty. Ond mae nifer y bobl dros 75 oed sy'n cyflwyno eu hunain wrth ddrws ffrynt GIG Cymru, sydd wedyn angen—a gwir angen—gwely mewn ysbyty, wedi bod ar ei uchaf erioed yn ystod y gaeaf hwn.
Felly, lle bynnag y gallwn ni, rydym ni angen gwasanaethau sy'n dargyfeirio pobl o'r lefel uchaf o ddwyster yn y sector ysbytai, gan leihau angen, defnyddio fferyllfeydd cymunedol cyn i chi fynd at y meddyg, yr holl bethau hynny—maen nhw i gyd yn digwydd yn y GIG yng Nghymru, ond maen nhw'n digwydd yn erbyn patrwm o alw sy'n golygu bod yn rhaid i chi redeg hyd yn oed yn gyflymach dim ond i sefyll yn llonydd.
Her sylfaenol ydy symud tuag at system sydd yn wirioneddol ataliol ei natur. Dŷn ni ddim yn gweld hynny o ran polisi ar hyn o bryd; dŷn ni ddim yn ei weld o o ran y ffordd mae cyllidebau yn cael eu rhannu. A wnaiff y Prif Weinidog sylweddoli bod angen blaenoriaethu go iawn rŵan yr angen i ffeindio ffyrdd o bontio at fath newydd o NHS, o allu buddsoddi yn yr ataliol—yn cynnwys isadeiledd ataliol, adnoddau chwaraeon, adnoddau ymarfer corff, adnoddau cadw'n heini, ac ati—neu, fel arall, pwll diwaelod fydd yr NHS? Mae angen y trawsnewidiad yna nad ydym ni'n ei weld ar hyn o bryd.
Wel, wrth gwrs dwi'n cytuno, Llywydd. A beth rŷm ni'n gallu ei wneud i atal pobl heb gael—. Sori.
—i atal pobl rhag bod angen mynediad at y gwasanaeth iechyd, mae hwnnw, wrth gwrs, yn fuddsoddiad priodol yn y dyfodol; nid yw'n ateb i'r sawl sydd dros 75 oed sydd angen gwasanaethau yn y fan a'r lle. Mae'r adolygiad seneddol, y cymerodd pleidiau ar draws y Siambr hon ran ynddo, yn darparu pont o'r math hwnnw. Mae'n disgrifio sut y gallwch chi newid y system gam wrth gam—oherwydd dyna'r unig ffordd y gallwch chi ei wneud—fel bod mwy o bwyslais ar atal, ac felly llai o angen i bobl geisio cymorth yn rhan fwyaf dwys y system. Nid yw hynny'n helpu pobl y mae eu hanghenion am y math hwnnw o gymorth yn bodoli nawr, ac na allwch chi beidio â rhoi sylw i'r anghenion hynny.
Ac nid cyfrifoldeb y gwasanaeth iechyd gwladol yw atal; mae atal yn rhywbeth y gallwch chi ei gyflwyno dim ond pan fo gennych chi'r holl wasanaethau cyhoeddus wedi ymrwymo i wneud hynny a phan fo gennych chi berthynas gyda'r defnyddiwr lle mae hwythau hefyd yn chwarae eu rhan. Rydym ni'n siarad yn aml ar lawr y Cynulliad am gyd-gynhyrchu, a'r angen i gofnodi'r cyfraniad y mae defnyddwyr yn ei wneud, ac nid oes unrhyw amgylchiadau lle mae cofnodi'r cyfraniad hwnnw yn bwysicach nag os ydym ni wir yn mynd i gael gwasanaethau ataliol. Oherwydd yn anad dim, mae hynny'n dibynnu ar yr hyn y gall unigolion ei wneud i sicrhau bod y niwed a fyddai'n digwydd fel arall yn eu bywydau eu hunain yn cael ei osgoi.
Gweinidog, rwy'n gweld bod astudiaeth fyd-eang wedi datgelu bod sepsis yn lladdwr mwy na chanser erbyn hyn, a bod enghreifftiau ohono ar gynnydd yng Nghymru a Lloegr. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o hyn, a sut mae eich Llywodraeth yn mynd i sicrhau bod GIG Cymru yn barod am hyn yn ystod y flwyddyn nesaf?
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn atodol pwysig yna. Dylwn ei gwneud yn eglur bod niferoedd sepsis yng Nghymru yn gostwng a ddim yn codi, felly nid yw'r ffigurau a gyhoeddwyd yn ffigurau ar gyfer Cymru—maen nhw wedi gostwng yng Nghymru ers 2016. Ac mae hynny oherwydd gwaith arloesol iawn a wnaed gan glinigwyr yma yng Nghymru, o dan arweiniad rhai clinigwyr craff ac ymroddedig iawn, sydd wedi datblygu'r system arwyddion rhybudd cynnar sydd gennym ni ar gyfer sepsis yma yng Nghymru, sydd bellach yn cael ei mabwysiadu mewn rhannau eraill o'r gwasanaeth iechyd yn fwy cyffredinol, sy'n sicrhau bod pobl yn effro i'r arwyddion cynnar hynny y gellir eu drysu'n ddigon hawdd fel arwydd o rywbeth heblaw sepsis, i ddilyn y chwe cham y mae angen i chi eu cymryd fel clinigydd i brofi ai sepsis yw'r hyn yr ydych chi'n ei weld o'ch blaen, ac yna cymryd camau cyflym. Mae'n fater pwysig iawn, ond rwy'n credu y gallwn ni hawlio'n wirioneddol ein bod ni wedi bod y tu blaen i'r ddadl hon yng Nghymru, a dyna pam mae'r ffigurau yng Nghymru wedi bod yn gostwng.
Prif Weinidog, rwyf i wedi codi gyda chi eich hun y sefyllfa ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg lawer gwaith, o ran trosglwyddiadau ambiwlansys. Ac mae'n deg dweud eu bod nhw, dros y blynyddoedd diwethaf, wedi datblygu model rhagorol, lle maen nhw'n derbyn y cleifion o'r ambiwlans, er mwyn rhyddhau'r ambiwlansys. Ond wrth gwrs mae hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol bod buddsoddiad ar y pen arall o ran y rhai sydd mewn gwelyau yn gallu gadael; eu bod nhw'n cael y cymorth priodol gan y gwasanaethau cymdeithasol, ac yn y blaen. Nawr, mae'n amlwg bod hynny wedi bod yn gweithio eleni, ond ceir pwysau sylweddol, felly rwyf i wedi cael fy hysbysu am nifer o enghreifftiau.
Rwy'n credu bod dau fater, mewn gwirionedd, yr hoffwn i eu hystyried. I ba raddau y mae'r model hwnnw a ddatblygwyd yng Nghwm Taf wedi cael ei gyflwyno ymhlith byrddau iechyd eraill? Ond yn ail, pa werthusiad sy'n cael ei gynnal o'r pwysau sy'n amlwg yn bodoli ar y cydgysylltiad gyda'r ochr gwasanaethau cymdeithasol, fel bod gwelyau—bod pobl yn gallu gadael yr ysbyty pan fyddan nhw'n barod i wneud hynny, gan ryddhau lle, yn amlwg, a hefyd rhyddhau'r gwasanaeth ambiwlans wedyn? Ac yn olaf ynglŷn â hynny mae'n debyg, mae'r gydnabyddiaeth, rwy'n credu, o broffesiynoldeb ac ymroddiad ein gwasanaethau ambiwlans. Oherwydd, ar yr adeg hon o'r flwyddyn, mae eu hymatebion a'u hymrwymiad heb eu hail.
Wel, Llywydd, rwy'n falch iawn o gofnodi gwerthfawrogiad Llywodraeth Cymru i bawb sy'n gweithio ar reng flaen ein gwasanaethau iechyd o dan y pwysau di-baid sydd wedi bod yno, nid yn unig dros y gaeaf, ond fel y dywedodd Angela Burns, dros fisoedd lawer cyn hynny. Mae llawer y gall pobl eraill ei ddysgu o brofiad Cwm Taf o drosglwyddo pobl o ambiwlansys i ysbytai a dyna pam mae gennym ni ddull cenedlaethol o ddatblygu gwasanaethau ambiwlans.
Mae Mick Antoniw yn iawn, wrth gwrs, i gyfeirio at y pwysau sydd yn ein gwasanaethau cymdeithasol, yn ogystal â'r gwasanaeth iechyd. Soniais yn fy ateb i Angela Burns bod 400 o wasanaethau gwelyau neu'n cyfateb i welyau yn cael eu cynhyrchu dros y gaeaf hwn yn ychwanegol i'r gwasanaethau arferol. Mae tua 160 o'r rheini mewn gofal cymdeithasol mewn gwirionedd, yn cynnig lleoedd lle gellir gofalu am bobl yn ddiogel yn y gymuned, naill ai wedi'u rhyddhau'n gyflym o'r ysbyty neu'n atal derbyniad yn y lle cyntaf.
Ond, fel yr wyf i hefyd wedi ei ddweud o'r blaen ar lawr y Cynulliad, mae'r hyn y mae awdurdodau lleol yn ei wynebu, mewn rhai ffyrdd, yn ganlyniad i'r llwyddiant y maen nhw wedi ei gael o ran lleihau'r angen am ofal preswyl yma yng Nghymru. Rwy'n cofio darllen rhagfynegiadau ar ddechrau datganoli a oedd yn dweud wrthym y byddai miloedd yn fwy o bobl hŷn mewn gofal preswyl yng Nghymru erbyn heddiw, a bod angen i ni ddechrau paratoi ar gyfer hynny. Mewn gwirionedd, yr hyn y mae awdurdodau lleol wedi ei wneud yw cryfhau gwasanaethau cymunedol fel nad yw'r ffrwydrad hwnnw yn yr angen am ofal preswyl wedi digwydd.
Ond pan eich bod chi'n gofalu am fwy o bobl—pobl fwy bregus, pobl â lefelau uwch o angen a gwasanaeth mwy dwys yn y gymuned—yna mae'r her o gadw'r bobl hynny'n iach, eu cadw nhw'n egnïol, eu dychwelyd nhw i'w cartrefi pan fyddan nhw'n cael achos o ofal acíwt, yn her wirioneddol. Rydym ni'n olrhain hynny wrth gwrs; rydym ni'n trafod drwy'r byrddau partneriaeth rhanbarthol a chyda'n cyd-Aelodau wrth gwrs, a byddwn yn dysgu'r gwersi o'r gaeaf hwn, wrth i ni ddechrau cynllunio—fel y byddwn ni'n fuan—ar gyfer gaeaf y flwyddyn nesaf.