Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 21 Ionawr 2020.
Diolch, Llywydd. Er gwaethaf pryderon ynghylch diogelwch y cyhoedd, fe wnaeth yr Ysgrifennydd cyfiawnder ar y pryd yn San Steffan, Chris Grayling, fwrw ymlaen â'r rhan o breifateiddio'r gwasanaeth prawf yn 2014. Flwyddyn yn ddiweddarach, llofruddiwyd Conner Marshall o'r Barri gan David Braddon, a oedd dan oruchwyliaeth cwmni adsefydlu cymunedol sy'n cael ei redeg yn breifat. Mae'n ymddangos mai hwn fu un o'r penderfyniadau polisi mwyaf trychinebus gan Lywodraeth San Steffan. Mae mam Conner, Nadine, a oedd yn y Senedd heddiw, wedi arwain ymgyrch ddiflino i gael cyfiawnder i Conner. Prif Weinidog, sut orau allwn ni ei gofio ef ac anrhydeddu ei gwaith hithau?