Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 21 Ionawr 2020.
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna a dechreuaf trwy gytuno ag ef bod dinistrio'r gwasanaeth prawf, y cyfeiriwyd ato'n aml fel prif drysor system cyfiawnder troseddol Cymru a Lloegr, yn fefl ar hanes y Llywodraeth Geidwadol flaenorol ac yn fefl a arweiniodd at ganlyniadau ymarferol mor ddinistriol yn yr achos y mae Adam Price wedi cyfeirio ato. Talaf deyrnged enfawr i'r ymgyrch a arweiniwyd gan fam Conner. Gwn pa effaith y mae hynny wedi ei chael ar y teulu ehangach ac ar ei dyfodol ei hun. Rwy'n gwybod hynny, oherwydd iddi gyfarfod ddwywaith â'm rhagflaenydd fel Prif Weinidog i gyflwyno'n uniongyrchol iddo ef ei phrofiad hi a'i theulu ac i ofyn am ein cymorth i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i unioni'r camweddau a wnaed, a ddilynwyd yn ddyfal gan fy rhagflaenydd.
Gofynnodd yr Aelod beth allem ni ei wneud i nodi ein gwahaniaeth yma yng Nghymru. Wel, rwyf i wedi dadlau ers tro y dylai'r gwasanaeth prawf gael ei ddatganoli yma yng Nghymru. Rhoddais dystiolaeth gyntaf ym 1995, ar ran Cymdeithas Genedlaethol y Swyddogion Prawf, i gomisiwn a oedd yn paratoi deddfwriaeth ar gyfer datganoli a dadleuais y dylai'r gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid fod wedi bod ar y rhestr gynnar o wasanaethau i'w datganoli, oherwydd mae'r pethau y mae swyddog prawf yn dibynnu arnyn nhw i gyflawni ei gyfrifoldebau'n effeithiol i gyd wedi eu datganoli eisoes. Os ydych chi'n chwilio am wasanaeth iechyd meddwl, mae'n cael ei reoli yng Nghymru. Os ydych chi'n chwilio am gwrs i rywun fynd arno i wella ei ragolygon cyflogaeth, mae wedi ei ddatganoli i Gymru. Os ydych chi'n chwilio am rywle i rywun fyw, mae gwasanaethau tai wedi eu datganoli i Gymru. Mae'r cyfochri rhwng y gwasanaeth prawf a'r gwasanaethau sydd wedi eu datganoli eisoes mor gryf fel y dylid datganoli'r gwasanaeth prawf fel y byddai'r staff ymroddgar sy'n dal i weithio yn y gwasanaeth prawf, o dan amodau amhosibl o anodd yn aml, mewn sefyllfa well i wneud y gwaith y maen nhw eisiau ei wneud, a gallem ni gael gwasanaeth prawf o'r math yr hoffem ni ei weld yma yng Nghymru.