Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 21 Ionawr 2020.
Her sylfaenol ydy symud tuag at system sydd yn wirioneddol ataliol ei natur. Dŷn ni ddim yn gweld hynny o ran polisi ar hyn o bryd; dŷn ni ddim yn ei weld o o ran y ffordd mae cyllidebau yn cael eu rhannu. A wnaiff y Prif Weinidog sylweddoli bod angen blaenoriaethu go iawn rŵan yr angen i ffeindio ffyrdd o bontio at fath newydd o NHS, o allu buddsoddi yn yr ataliol—yn cynnwys isadeiledd ataliol, adnoddau chwaraeon, adnoddau ymarfer corff, adnoddau cadw'n heini, ac ati—neu, fel arall, pwll diwaelod fydd yr NHS? Mae angen y trawsnewidiad yna nad ydym ni'n ei weld ar hyn o bryd.