1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 21 Ionawr 2020.
4. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo treftadaeth a diwylliant Casnewydd? OAQ54977
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi'n uniongyrchol mewn elfennau allweddol o dreftadaeth a diwylliant cyfoethog Casnewydd. Ar yr un pryd, rydym ni'n gweithredu gydag eraill—yr awdurdod lleol, busnesau preifat, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Cadw, er enghraifft—i hyrwyddo atyniadau niferus y ddinas, gartref a thramor.
Diolch, Prif Weinidog. Fel y dywedasoch, mae gennym ni hanes cyfoethog ac amrywiol iawn yng Nghasnewydd yr ydym ni'n falch iawn ohono, o'n treftadaeth Siartwyr i'n pont gludo ardderchog a'n hanes morwrol, Tŷ Tredegar ysblennydd a'n caer Rufeinig yng Nghaerllion.
Pleser oedd croesawu'r Dirprwy Weinidog i Gaerllion yr wythnos diwethaf ar gyfer ailagoriad Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru. Er bod yr amgueddfa wedi bod ar gau i'r cyhoedd oherwydd gwaith ailwampio, parhaodd yr ymweliadau addysgol, gyda dros 20,000 o ymwelwyr y llynedd. Yng Nghaerllion, mae gennym ni etifeddiaeth Rufeinig gydag amffitheatr, baddonau a barics cystal ag mewn unrhyw le yn y DU. Fodd bynnag, er mwyn gwneud y gorau o'r safle gwych hwn, mae'n rhaid i Amgueddfa Cymru, Cadw a Chyngor Dinas Casnewydd, ynghyd â Llywodraeth Cymru, gydweithio i hyrwyddo Caerllion fel cyrchfan boblogaidd i dwristiaid, nid yn unig yng Nghasnewydd, ond yng ngweddill Cymru a denu ymwelwyr o fannau pellach i ffwrdd.
Yn gyntaf, a wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i gydnabod gwaith addysgol pwysig cynnig Amgueddfa Genedlaethol Cymru i ysgolion a'n pobl ifanc yng Nghaerllion, ac edrych hefyd ar ffyrdd ymarferol y gall Llywodraeth Cymru gynyddu ei hymdrechion i gynorthwyo cyngor Casnewydd, Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Cadw i ddod ynghyd i sicrhau bod yr hyn sydd gennym ni i'w gynnig yng Nghaerllion yn cael ei bwysleisio a'i ddefnyddio'n llawn?
A gaf i ddiolch i Jayne Bryant am hynna? Rwy'n gweld bod y Dirprwy Weinidog yn ymwelydd rheolaidd â Chasnewydd, ar ôl bod i'r bont gludo yn ddiweddar hefyd, ac edrychaf ymlaen at ddatblygu posibiliadau ar gyfer gwneud mwy o'r atyniad hwnnw yng Nghasnewydd yn y dyfodol.
Wrth gwrs, mae Jayne Bryant yn iawn yn yr hyn y mae'n ei ddweud am bwysigrwydd tref Rufeinig hynafol Caerllion—yr amffitheatr Rufeinig fwyaf cyflawn ym Mhrydain, yr unig farics lleng Rufeinig sydd i'w gweld yn unman yn Ewrop—ac mae'n wych gweld bod y gwaith a wnaed i'w drin, rhywfaint o'r gwaith hanfodol ar do'r amgueddfa, wedi ei gwblhau erbyn hyn a'i fod yn gwbl agored i'r cyhoedd.
Hoffwn dalu teyrnged i'r bobl sy'n gweithio yn yr amgueddfa am y ffordd iddyn nhw barhau'r gwasanaethau addysgol hynny, hyd yn oed pan nad oedd yr amgueddfa ei hun ar agor i'r cyhoedd yn y ffordd y bu gynt. Mae'n rhan bwysig iawn o'r hyn y mae'n ei wneud i wneud yn siŵr bod y profiadau byw hynny y mae'n eu cynnig i bobl ifanc—sy'n dod â hanes Caerllion a hanes Cymru yn fyw iddyn nhw—yn parhau ac yn datblygu erbyn hyn. Ac, wrth gwrs, bydd Llywodraeth Cymru, fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol, yn gweithio, mewn partneriaeth â'r awdurdod lleol, gyda Cadw ac eraill, i wneud y gorau posibl o'r safle gwirioneddol bwysig hwnnw.