1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 21 Ionawr 2020.
6. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu dioddefwyr troseddau yng Nghymru? OAQ54975
Llywydd, rydym ni'n gweithio'n agos gyda'r pedwar heddlu a'n comisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru a phartneriaid eraill, gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, i gefnogi dioddefwyr troseddau ac i leihau'r risg y gallai pobl ddioddef troseddau.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Nifer o fisoedd yn ôl, gofynnais i chi a fyddech chi'n cefnogi fy ngalwad i dadau plant sy'n cael eu cenhedlu drwy weithred o dreisio gael eu gwahardd rhag cael yr hawl i weld y plant hynny. Ar y pryd, fe wnaethoch wrthod rhoi ateb pendant i mi, gan ddweud nad oedd yn fater datganoledig, er eich bod chi'n galw'n aml yn y lle hwn ar Lywodraeth San Steffan i weithredu ar faterion nad ydyn nhw wedi eu datganoli i'r lle hwn. Mae Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd Cymru wedi'i ddatganoli, fodd bynnag, a gall wneud argymhellion i'r llysoedd teulu yng Nghymru efallai na allai llys teulu yn Lloegr neu yn rhywle arall yn y DU ei wneud, ac mae gwasanaethau cymdeithasol wedi eu datganoli hefyd.
Sut y gall dioddefwr trais fyth ganfod unrhyw beth yn agos at ddiweddglo os oes yn rhaid iddi boeni y gallai ei hymosodwr, ryw ddiwrnod, ddychwelyd a bod yn rhan o fywyd ei phlentyn, ac y gallai ei phlentyn gael ei orfodi i fod mewn cysylltiad â'r sawl a dreisiodd ei fam ei hun? Felly, rwy'n gofyn i chi am yr eildro: a ydych chi'n cytuno â mi—ac mae gennych chi rai o'r cyfrifoldebau sydd eu hangen i allu gwneud hyn—na ddylai'r llys teulu roi unrhyw hawliau mynediad i dadau plant sy'n cael eu geni yn sgil trais weld y plant hynny, ac a wnewch chi ymdrechu i gyflwyno gwaharddiad o'r fath yng Nghymru? Os na wnewch chi, pam?
Llywydd, mae'n debyg na allaf i fynd ymhellach nag a wneuthum yn fy ateb diwethaf i'r Aelod. Hoffwn gydnabod pwysigrwydd y pwyntiau y mae'n eu gwneud a'r ddadl y mae hi wedi ei sbarduno ynghylch y mater hwn. Y rheswm pam na allaf gynnig y sicrwydd y mae'n dymuno i mi ei ddarparu yw nad yw'r pwerau i wneud hynny wedi eu lleoli yn y Cynulliad hwn. Roedd hynny'n wir y tro diwethaf iddi ofyn y cwestiwn i mi ac mae'n wir eto heddiw. Ni ellir gwneud newid i'r gyfraith o'r math y mae wedi fy holi yn ei gylch yn y fan yma, ni waeth faint o weithiau y mae'n gofyn i hynny ddigwydd. Felly, ni allaf roi sicrwydd iddi, oherwydd ni fyddai'n onest i wneud hynny.
Ni all gwleidyddion wneud y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn y llys teulu. Maen nhw'n cael eu gwneud yn y llys teulu gyda chyngor y gweithwyr proffesiynol sy'n adrodd ar achosion unigol. Wrth gwrs, dylen nhw roi ystyriaeth ddifrifol iawn i'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu gwneud. Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Ond mater i—[Torri ar draws.] Mae'r Aelod yn ceisio ymyrryd, Llywydd, o'r man lle mae'n eistedd, ond nid yw'r pwynt y mae'n ei wneud yn ddim gwell o'i ailadrodd nag yr oedd y tro cyntaf iddi ei wneud. Mae hi'n gofyn i mi roi sicrwydd ynghylch rhywbeth nad yw'r grym gen i i'w warantu. Ni wnaf i wneud hynny, oherwydd byddai hynny'n golygu cynnig sicrwydd ffug i bobl sydd, yn gwbl briodol, yn pryderu am y pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu codi ac sydd, fe ailadroddaf, yn haeddu cael eu cymryd o ddifrif.