Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 21 Ionawr 2020.
Diolch i'r Aelod am hynna, Llywydd. Y disgwyl yw y bydd tendrau ar gyfer deuoli rhannau 5 a 6 o'r A465 yn cael eu derbyn y mis nesaf. Bydd y Gweinidogion wedyn yn ystyried achos busnes llawn y prosiect. Ar yr amod bod hynny'n parhau'n foddhaol, rydym ni'n disgwyl i gontract gael ei osod yn ystod haf 2020, gydag adeiladu i ddechrau erbyn diwedd y flwyddyn.