Part of the debate – Senedd Cymru am 6:36 pm ar 21 Ionawr 2020.
Diolch, Llywydd. Siaradaf am welliant 9, a gyflwynwyd hefyd gan fy nghyd-Aelod Suzy Davies yng Nghyfnod 2. Mae hwn yn diwygio adran 4 o ran y pwerau sydd gan Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau. Fel y dywedodd Suzy yng Nghyfnod 2, nid yw'r hyn sydd bellach yn adran 4 yn bŵer cychwyn ar wahân i adran 1, ac mae'n debygol y bydd angen pwerau rheoleiddio arnoch i gyflwyno'r adroddiadau i effeithiolrwydd y Bil yn ogystal â'r ymgyrch ymwybyddiaeth. Fe y mae wedi'i drafftio, mae'n bosibl na fydd adran 4 yn rhoi digon o bwerau i'r Dirprwy Weinidog yn ystod y Bil i gyflawni ei hamcanion. Fel y cyfryw, mae'r gwelliant hwn yn sicrhau gallu'r Cynulliad i gyflwyno unrhyw beth y dymuna'r Dirprwy Weinidog ei gyflwyno o dan adran 1 o'r Bil gerbron y Senedd hon.
Yn ei hymatebion yng Nghyfnod 2, dywedodd y Dirprwy Weinidog fod y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi dod i'r casgliad na ddylid cael gweithdrefn Cynulliad, ac nad oedd angen pwerau ehangach yn ei barn hi. Er fy mod yn derbyn y pwyntiau hyn, nid ydym yn glir o hyd a fyddai'r ddarpariaeth y mae'n bwriadu ei chyflwyno yn fwy addas i weithdrefnau cadarnhaol neu weithdrefnau negyddol.
Yn olaf, cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog y byddai'n parhau i arolygu'r pwerau wrth nesáu at Gyfnod 3. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe bai'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau heddiw am ei barn am oblygiadau pwerau cyfyngedig, yn enwedig os oes cysylltiadau rhwng y Bil hwn a deddfwriaeth arall a allai fod angen pŵer ehangach.