Grŵp 4: Pwerau gwneud Rheoliadau yn y Bil (Gwelliant 9)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:38 pm ar 21 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 6:38, 21 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Y sefyllfa naturiol ar y meinciau hyn, wrth gwrs, yw ein bod wastad eisiau cadw llygad ar beth bynnag y mae'r Llywodraeth yn ei wneud. Yn hynny o beth, mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â'r hyn y mae Janet Finch-Saunders yn ceisio'i gyflawni gyda'r gwelliant hwn, ond yn yr achos yma mae'n ymddangos yn ddianghenraid. Mae hyn yn ddiddymiad syml, nid yw hyn yn ddarn cymhleth o ddeddfwriaeth, ac os yw'r Dirprwy Weinidog yn fodlon bod hyn yn ddianghenraid, yna rydym yn fodlon ei chefnogi a pheidio â chefnogi'r gwelliant.