Part of the debate – Senedd Cymru am 6:52 pm ar 21 Ionawr 2020.
Gadewch i mi ystyried sefyllfa lle mae cwpl gyda phlentyn ifanc mewn bwyty neu gaffi. Mae ganddyn nhw gwpanau poeth o goffi neu gynhwysydd o goffi poeth ar y bwrdd ac mae'r plentyn yn mynd i fachu'r coffi, ac mae'r fam, yn reddfol, yn tapio llaw'r plentyn i'w rybuddio yn erbyn hynny. [Torri ar draws.] Ac yna, mae gennych chi selotiaid yn y caffi hwn, a allai fod yn ACau Plaid Cymru neu ACau Llafur, sy'n dewis rhoi gwybod i'r heddlu am yr hyn sydd wedi digwydd. Gallech chi gael y senario lle mae rhiant yn cael ei lusgo allan o'r caffi—