– Senedd Cymru am 6:40 pm ar 21 Ionawr 2020.
Grŵp 5 yw'r grŵp nesaf, y grŵp olaf o welliannau, sy'n ymwneud â chychwyn. Gwelliant 10 yw'r prif welliant, yr unig welliant. Dwi'n galw ar Janet Finch-Saunders i gyflwyno gwelliant 10.
Diolch, Llywydd. Gan droi at welliant 10, mae tair rhan i hyn: gohirio cychwyn adran 1, gan gynnwys diwygio canllawiau Gwasanaeth Erlyn y Goron; sefydlu llwybr amgen i ffwrdd o'r system cyfiawnder troseddol; a sefydlu cymorth rhianta.
Mae'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn gyfarwydd â dadleuon y Ceidwadwyr Cymreig pan fu inni gyflwyno y rhain fel gwelliannau ar wahân yng Nghyfnod 2, ond credaf y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru fod yn ymwybodol o'n rhesymeg y tu ôl i'r oedi. Rhaid imi ailadrodd y bydd y Bil hwn yn cael effeithiau pellgyrhaeddol, nid yn unig ar hawliau'r plentyn, ond hefyd ar fywydau eu rhieni. Mae'r Dirprwy Weinidog wedi dweud yn gyson yn ystod hynt ddeddfwriaethol y Bil bod arni eisiau i hyn ennyn newid mewn ymddygiad. Fodd bynnag, gallai fod wedi gwneud hyn drwy godi ymwybyddiaeth neu orfodi sifil, yn hytrach na gwneud rhieni'n destun atebolrwydd troseddol.
Mae effeithiau posibl o fod yn destun y fath atebolrwydd mor ddifrifol a gallent gael effeithiau negyddol difrifol ar rieni, plant a theuluoedd, ac rwyf wedi amlinellu hynny o'r blaen yn fy ngwelliannau yng ngrŵp 1. Nid ydym yn argyhoeddedig y bydd cymorth rhianta wedi ei sefydlu'n briodol erbyn i'r Bil ddod i rym yn llawn. Rydym yn ymwybodol iawn yn y Siambr hon o'r defnydd tameidiog o Dechrau'n Deg, ac mae gwir angen i'r Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y cynnydd o ran capasiti a chyrhaeddiad Plant Iach Cymru, o ystyried y dywedwyd wrthym y cysylltwyd â dim ond ychydig dros hanner y plant o dan y cynllun. Dyna pam mae sefydlu ffordd amgen a chymorth rhianta cyn cyflwyno gwaharddiad ar smacio yn hanfodol.
At hynny, mae cynnwys Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r heddlu, drwy'r canllawiau diwygiedig ynghylch cyhuddo, yn achosi i ni grwydro ychydig i faterion a gadwyd yn ôl. Soniodd Suzy am hyn a'i nodi yng Nghyfnod 2. Mae dyletswyddau'r ddau gorff y tu allan i'n cymhwysedd ni. Felly, drwy basio'r Bil hwn heb weld y canllawiau hyn ymlaen llaw, byddem ni fel deddfwrfa ddatganoledig yn rhoi ystyriaethau difrifol, megis cydberthnasau teuluol, yn nwylo dau gorff nad ydynt wedi'u datganoli. A'i roi'n hollol syml, ni fyddai gennym ni reolaeth dros y canllawiau, a allai yn y pen draw fod yn gwbl anghymesur â'r hyn y mae'r Dirprwy Weinidog yn bwriadu ei wneud.
Ac, yn y pen draw, y rhieni a'r teuluoedd fydd yn dioddef yn sgil polisi sydd heb ei ystyried yn drwyadl. Cyfaddefodd y Dirprwy Weinidog i'r pwyllgor nad oedd y grŵp gweithredu strategol ond yn y camau cynnar o drafod sut beth yn union fyddai natur y canllawiau hyn, gan olygu mai ni wedyn sy'n pasio darn o ddeddfwriaeth nad yw'n rhoi unrhyw reolaeth na mewnbwn ynghylch sut y gallai rhieni gael eu cosbi am smacio eu plant. Mae hynny'n wirioneddol frawychus.
Rwy'n anghytuno'n llwyr â honiadau'r Dirprwy Weinidog y byddem yn rhoi pŵer i gorff nad yw wedi'i ddatganoli o ran y ffordd yr ydym yn deddfu yng Nghymru. Mae'r rhain yn welliannau wedi'u geirio'n ofalus iawn nad ydynt yn ceisio rhoi'r pŵer hwnnw. Ar y llaw arall, atgoffaf yr Aelodau fod Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn gosod cyfyngiadau ar ein gallu, heb ganiatâd Llywodraeth y DU, i orfodi, addasu neu ddileu swyddogaethau awdurdodau a gadwyd yn ôl. Felly, rhaid inni fod yn ofalus ynglŷn â chydsyniad y Goron. Yn hytrach, rydym yn ceisio sicrwydd y gall y Cynulliad weld ychydig ar y canllawiau cyhuddo cyn i'r Bil ddod i rym.
Nawr, wrth gwrs, gellid osgoi canlyniadau posibl y camau hyn pe baech chi wedi penderfynu amddiffyn hawliau'r plentyn drwy orfodaeth sifil. Nid oes yr un ohonom ni eisiau troi rhieni'n droseddwyr yn ddiangen, ac felly mae'n bwysig iawn bod gennym ni'r trefniadau amgen ar waith cyn i ddarpariaethau'r Bil ddechrau. Ein dyletswydd ni fel Cynulliad yw sicrhau ein bod yn cael pethau'n iawn cyn i'r Bil ddechrau, ac felly rwyf yn wirioneddol annog yr Aelodau i gefnogi'r gwelliant penodol hwn. Diolch yn fawr.
Darllenais i'r gwelliant a chefais i fy nrysu braidd gan ei fwriad. Roeddwn i wedi gobeithio y byddai cyfraniad Janet Finch-Saunders i'r ddadl yn fy ngoleuo. Mewn gwirionedd, mae hwnnw wedi fy nrysu i ymhellach, oherwydd yr oedd rhai pwyntiau yn ei chyfraniad pan oedd yn swnio fel pe bai'n galw am ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol i alluogi'r lle hwn i gael rheolaeth dros Wasanaeth Erlyn y Goron a'r heddlu—a byddwn i'n croesawu hynny, wrth gwrs, gyda breichiau agored. Ac os yw Janet wedi dod i'r safbwynt hwnnw, rwyf wrth fy modd.
Mae'r gwelliant ei hun yn ddryslyd, ac yng nghyfraniad Janet ychydig iawn o ffydd y mae hi'n ei ddangos yng ngwasanaeth yr heddlu yng Nghymru ac yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron yma i weithio mewn modd cydweithredol gyda Llywodraeth Cymru, gyda'r weinyddiaeth ddatganoledig. Mae'r profiad o hyn mewn meysydd eraill yn gwbl groes; mae Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r heddlu yn agored iawn i fod yn gydweithredol ac yn gefnogol.
Rwy'n barod i ildio.
Diolch am ildio. Fel y gwnaethoch chi ei nodi, yn y gwaith a wnaed ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac atal, ond hefyd ar gam-drin domestig, yn wir mae'r heddlu yn bendant yn gweithio o fewn fframweithiau polisi sydd wedi'u pennu gan Lywodraeth Cymru. Does gen i ddim rheswm i ragweld y bydden nhw'n gweithio mewn unrhyw ffordd wahanol gyda hyn.
Byddwn i'n cytuno'n llwyr â Huw Irranca-Davies ar hyn.
Gadewch i mi gymryd y tair adran un ar y tro yn fyr. Mae'n rhaid bod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi diwygio ei ganllawiau: wel, rwy'n barod i dderbyn y sicrwydd a roddodd y Gweinidog i mi heddiw ar ran fy mhlaid, ei bod hi yn bendant yn rhagweld y bydd y canllawiau, erbyn y caiff y ddeddfwriaeth hon ei rhoi ar waith, wedi'u diwygio, a'i bod wedi cael sicrwydd gan Wasanaeth Erlyn y Goron i'r perwyl hwnnw, ac rwyf fi yn barod i gredu Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Mae adran (b) yn galw ar Lywodraeth y DU, yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron i sefydlu llwybr dewis amgen yn hytrach nag erlyn. Wel, nid yw erioed wedi bod yn waith Llywodraeth y DU i sefydlu hynny'n uniongyrchol, hyd yn oed yn y dyddiau cyn datganoli. Bydd yr heddlu'n arwain, gydag eraill, i gynnig dewisiadau amgen yn hytrach nag erlyn. Ond nid wyf i'n credu ein bod yn debygol o weld dwsinau a dwsinau o deuluoedd yn wynebu erlyniad na fydden nhw wedi'i wneud fel arall. Mae'r profiad yn Iwerddon wedi dangos bod eu deddfwriaeth wedi arwain at un teulu yn unig, ledled y genedl gyfan, yn ystod holl gyfnod ei gweithredu, yn mynd i mewn i'r broses na fydden nhw fel arall wedi gwneud. A hynny oherwydd bod aelod o'r cyhoedd wedi gweld ymddygiad mewn man cyhoeddus yr oedd hi'n pryderu yn ei gylch, wedi adrodd ar hynny i'r heddlu, a phan wnaethon nhw ymchwilio, fe wnaethon nhw weld, o dan y smac gyhoeddus honno, fod patrwm cam-drin difrifol iawn, na fyddai fel arfer, wrth gwrs, yn wir. Felly, nid yw adran (b) yn gwneud synnwyr fel y mae.
Mae adran (c) yn gofyn i Weinidogion Cymru sefydlu gwasanaethau cymorth rhianta. Wel, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio ar sefydlu gwasanaethau cymorth rhianta mewn sawl ffordd ers blynyddoedd lawer. A ydym ni ar y meinciau hyn yn gwbl ffyddiog eu bod yn gwneud popeth y gallan nhw ei wneud, y dylen nhw ei wneud, ac y byddan nhw yn ei wneud? Wel, wrth gwrs nad ydym ni; ein gwaith ni yw craffu a'n gwaith ni yw codi pryderon. Ond mae'n ymddangos, i ni, yn ffôl i roi ar wyneb y Bil ei bod yn ofynnol i Lywodraeth Cymru wneud rhywbeth y maen nhw wedi bod yn ei wneud ers tua 18 mlynedd beth bynnag.
Rwyf bob amser yn hapus i dderbyn ymyriad gan Darren Millar.
Rwy'n ddiolchgar iawn. Rwyf i wedi fy nrysu ychydig gan yr hyn sy'n ymddangos yn agwedd wahanol iawn ar feinciau Plaid Cymru—ac yn wir, ar feinciau cefn Llafur—tuag at y darn hwn o ddeddfwriaeth o'i gymharu â Bil ymadael yr UE yr oeddem ni'n ei drafod yn gynharach y prynhawn yma, lle y bu rhai datganiadau clir iawn am fwriad polisi Llywodraeth y DU, ac eto rydych chi i gyd eisiau gwelliannau ar y Bil er mwyn dangos bod ymrwymiad clir i'r pethau hynny, oherwydd mae arnoch chi ofn y bydd pobl yn mynd yn ôl ar bethau. Ac eto, ar y Bil penodol hwn, mae rhai arwyddion clir o fwriad polisi gan y Llywodraeth, ac mae'n eithaf amlwg bod y Llywodraeth wedi gwneud ei safbwynt—
Mae'n ddrwg gen' i, Darren, mae angen i mi barhau â fy sylwadau. Rwyf yn derbyn eich pwynt.
Rwy'n gwerthfawrogi hynny, ond nid wyf yn siŵr pam mae'r dull mor wahanol.
Wel, gadewch i mi egluro.
Gwnewch chi hynny.
Mae gwahaniaeth—ac mae'n dibynnu'n llwyr ar bwy mae rhywun yn ei gredu, wrth gwrs. Ond yr hyn mae'r ddau beth hyn yn ei wneud—[Torri ar draws.]
Gadewch i Helen Mary ymateb.
Rwyf i wedi caniatáu i Darren Millar wneud ymyriad; hoffwn i iddo ef, os gwnaiff ef, wrando ar fy ateb. A fy ateb i yw hyn: y pethau sydd gan y Bil yr oeddem ni wedi'i drafod yn gynharach—Bil San Steffan—a hwn yn gyffredin yw, o'u darllen y ffordd anghywir, bod y ddau yn gyfystyr â San Steffan yn cipio pŵer Os byddwn ni'n pasio'r gwelliant hwn, byddai cyrff nad ydyn nhw wedi'u datganoli, y mae Janet Finch-Saunders, yn gwbl briodol, wedi tynnu sylw atyn nhw, yn gallu atal darn o ddeddfwriaeth rhag cychwyn yma, petaent yn gwrthod cydweithredu. Nid oes gennyf i unrhyw reswm—dim rheswm o gwbl—i feddwl y byddai'r heddlu na Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru eisiau gwneud y fath beth, ond mae'r gwelliant hwn yn cyfeirio'n benodol at y ffaith bod angen i Lywodraeth y DU wneud rhywbeth cyn bod modd rhoi deddfwriaeth yr ydym ni wedi'i phasio yn y lle hwn ar waith. Nid yw hynny'n dderbyniol. Yr hyn sydd gan y ddau beth yn gyffredin yw ymgais i leihau grym ac awdurdod y lle hwn ac nid wyf i yn barod i oddef y naill na'r llall ohonyn nhw.
Er y byddai'n well gan fy ngrŵp i petai'r Bil hwn yn cael ei wrthod yn ei gyfanrwydd, byddwn ni’n cefnogi'r gwelliant hwn gan Janet Finch-Saunders. Y gwir amdani yw bod hwn yn ddarn gwael o ddeddfwriaeth. Mae'n dileu'r amddiffyniad o gosb resymol. Rhesymol. Nid yw'r hyn y byddai unrhyw un ohonom ni y Siambr hon wedi'i ystyried yn gosb resymol yn amddiffyniad mwyach. Felly, yr hyn y mae'n ei wneud yw ystyried manylion smacio plentyn, taro plentyn ar ei law. Dyma le mae hwn yn ddarn gwael o ddeddfwriaeth yn ôl unrhyw safonau o gwbl.
Mae gennym ni amddiffyniad y gyfraith ac rwyf i'n gwbl sicr bod pawb yn y Siambr hon yn poeni ynghylch diogelu plant, ond mae ein plant yn dioddef llawer iawn o gam-drin geiriol. Nid yw hyn yn effeithio mewn unrhyw ffordd ar gam-drin plant yn eiriol, sy'n llawer mwy niweidiol yn seicolegol na chael eu taro'n ysgafn ar y llaw.
David, a wnewch chi'n ildio?
Gwnaf, wrth gwrs.
A fyddech chi hefyd yn cytuno bod dieithrio rhieni'n yn fath enfawr o gam-drin plant, sy'n cael ei anwybyddu'n llwyr gan lawer o Aelodau'r Cynulliad hwn? Mae llawer o Aelodau'n ei anwybyddu. Dyma'r unig fath o gam-drin plant sy'n cael ei dderbyn. Dylem ni fod â Bil ar hynny.
Gadewch i mi ystyried sefyllfa lle mae cwpl gyda phlentyn ifanc mewn bwyty neu gaffi. Mae ganddyn nhw gwpanau poeth o goffi neu gynhwysydd o goffi poeth ar y bwrdd ac mae'r plentyn yn mynd i fachu'r coffi, ac mae'r fam, yn reddfol, yn tapio llaw'r plentyn i'w rybuddio yn erbyn hynny. [Torri ar draws.] Ac yna, mae gennych chi selotiaid yn y caffi hwn, a allai fod yn ACau Plaid Cymru neu ACau Llafur, sy'n dewis rhoi gwybod i'r heddlu am yr hyn sydd wedi digwydd. Gallech chi gael y senario lle mae rhiant yn cael ei lusgo allan o'r caffi—
A allwn ni ganiatáu i'r Aelod gario ymlaen mewn rhywfaint o dawelwch, os gwelwch yn dda?
—gan yr heddlu. Dyna'r math o gyfraith rydych chi'n ceisio ei chyflwyno i'r Siambr hon. Rwy'n cefnogi gwelliant Janet, y mae pawb sydd wedi cysylltu â mi ynglŷn â'r Bil hwn yn ei gefnogi'n ysgubol. Mae'n debyg fy mod i wedi cael mwy o ohebiaeth ynghylch y Bil arbennig hwn nag ynghylch unrhyw beth arall sydd wedi cael ei ddwyn drwy'r Siambr hon. A gan academyddion, a gan bobl sy'n gweithio yn y maes hwn. A phob un ohonyn nhw'n condemnio'r Bil hwn. Mae'n ddarn gwael o ddeddfwriaeth.
David, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf. Ie, wrth gwrs fe wnaf.
Fe wnaethoch chi ddweud eich bod wedi cael llawer o ohebiaeth gan weithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y maes hwn. A ydych chi'n ymwybodol bod pob un gweithiwr proffesiynol a roddodd dystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg o feysydd iechyd, addysg, yn gyffredinol, yn cefnogi'r ddeddfwriaeth hon?
Y cyfan y gallaf i ei ddweud yw'r hyn sy'n dod drwy fy negeseuon e-bost a drwy fy mlwch llythyrau, sy'n gwbl groes i'r hyn yr ydych chi newydd ei ddweud.
Wrth gwrs y gwnaf.
Mae pwynt wedi'i wneud ynglŷn â'r gefnogaeth neu fel arall ar gyfer y darn penodol hwn o ddeddfwriaeth. A ydych chi'n derbyn mai ychydig iawn o rieni sy'n ei gefnogi gan fod pleidlais ar ôl pleidlais wedi dangos nad yw rhieni eisiau i'r ddeddfwriaeth hon gael ei phasio, ac yn wir wrth ofyn i aelodau o'r cyhoedd bleidleisio ar hyn, mae dwy ran o dair neu dri chwarter ohonyn nhw yn gyson wedi pleidleisio o blaid cadw'r trefniadau presennol?
Yn hollol. Rydym ni wedi clywed yn y Siambr hon am y broses o drosi'r hyn sydd wedi digwydd yn Iwerddon. Un erlyniad. Dyna'r cyfan a ddeilliodd ohoni. A sawl ymchwiliad? Faint o amser ac ymdrech a fu gan y gwasanaethau cymdeithasol yn ymwneud â'r nifer fawr o achosion a fu, heb os, yn dod ger eu bron—cost hynny oll pan ddylen nhw fod yn ymchwilio i feysydd llawer mwy difrifol o gam-drin plant?
Gwyddom ni yn y wlad hon, pa un ag ydym ni'n hoffi hynny ai peidio, fod diwylliant gwrth-risg yn ein gwasanaethau cymdeithasol. Dyna pam yr ydym ni'n gweld plant yn derbyn gofal pan na ddylen nhw fod wedi bod yn derbyn gofal, oherwydd gorfrwdfrydedd y gwasanaethau cymdeithasol, yn aml, a dyna'n union y byddwn ni'n ei gael gyda'r Bil hwn am gost enfawr i'r wlad hon.
Wel, fel y dywedais i pan gawsom ni ddadl ar y Bil hwn ym mis Medi, rwy'n rhiant i chwech, pob un ohonyn nhw bellach yn oedolion cyfrifol a gofalgar, yn rhiant bedydd, taid, ewythr a hen ewythr. Mae tair o fy merched yn feichiog ar hyn o bryd hefyd. Mae dwy o'r rhain bellach yn byw ychydig filltiroedd i ffwrdd yn Lloegr. Maen nhw wedi dweud wrthyf i eu bod yn ddiolchgar na fydd y Bil hwn yn berthnasol iddyn nhw. Fodd bynnag, mae ein merch feichiog arall, sy'n dal i fyw yng Nghymru, yn poeni am yr hawl i fusnesa y mae'r Bil hwn yn bygwth ei chyflwyno, ac felly hefyd ei ffrindiau, ei chydweithwyr a'i grwpiau cyfoedion.
Canfu arolwg cenedlaethol annibynnol yn Seland Newydd—a gynhaliwyd yn annibynnol—lle y mae smacio eisoes yn drosedd, fod 70 y cant yn dweud na fydden nhw'n adrodd am riant y bydden nhw'n ei weld yn smacio ei blentyn, ond byddai 20 y cant yn troi'n fusneslyd.
Mae'n ymddangos bod y bobl sydd y tu ôl i'r Bil hwn yn byw yn swigen anghynrychioliadol Bae Caerdydd lle mae barnu pobl eraill a phenderfynu ar yr hyn sy'n dda iddyn nhw'n cael blaenoriaeth dros wrando ar y bobl y maen nhw i fod i'w cynrychioli. Maen nhw'n honni eu bod yn amddiffyn plant ac maen nhw'n dweud bod angen cyrsiau rhianta cadarnhaol ar y rhai hynny sy'n anghytuno â nhw. Fodd bynnag, mae mwyafrif llethol y rhieni eisoes yn gwybod am yr ymyriadau rhianta cadarnhaol y maen nhw'n eu hargymell ac maen nhw'n eu defnyddio, gan hefyd gadw'r opsiwn o smacio ysgafn yn eu dull o rianta cadarnhaol i'w ddefnyddio ar adegau prin pan fo perygl neu fel dewis olaf.
Fel y dywed Gwasanaeth Erlyn y Goron, ni ellir defnyddio amddiffyniad cosb resymol:
ar gyfer mân ymosodiadau a gyflawnir gan oedolyn ar blentyn sy'n arwain at anafiadau fel crafiadau, sgriffiadau, mân gleisiau, chwyddo, toriadau arwynebol neu lygad du, y cyhuddiad priodol fel arfer fyddai gwir niwed corfforol.
Mae'r amddiffyniad cosb resymol dim ond ar gael, maen nhw'n nodi, mewn achosion lle: mae'r anaf yn fyrhoedlog ac yn ddibwys.
Canfu arolwg diweddar o gynghorwyr lleol Cymru fod saith o bob 10 yn erbyn gwaharddiad smacio, gan gynnwys mwyafrif o bob un o'r prif bleidiau, a bod naw o bob 10 yn dweud nad oes gan gynghorau yr adnoddau i ymdopi ag un, ac mae pryder wedi'i godi nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi—
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Un funud, Helen Mary.
—asesiad o gost y Bil hwn i'r gwasanaethau cymdeithasol o ran cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau a baich cynyddol ar weithwyr cymdeithasol.
Nid wyf yn siŵr a yw'r Aelod yn ymwybodol, o ran cyfraddau ymateb i'r arolwg hwnnw, mai dim ond llai na 13 y cant o'r aelodau awdurdodau lleol a arolygwyd a ymatebodd o gwbl. Byddai rhywun yn disgwyl, o dan yr amgylchiadau hynny, y bydden nhw'n aelodau a oedd yn gwrthwynebu. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn eithaf gofalus ynglŷn â sut yr ydym ni'n defnyddio'r ffigurau hynny, ac rwyf eisoes wedi gwneud y pwynt ynghylch arolwg Seland Newydd, sef yr union beth hwnnw—roedd yn bôl piniwn a gomisiynwyd gan y sefydliad a oedd wedi gwrthwynebu'r gwaharddiad yn y lle cyntaf.
Fel arfer, byddai 13 y cant yn cael ei ystyried yn ymateb uchel ar gyfer y rhan fwyaf o ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru a llawer o'r polau a'r arolygon eraill yr ydym ni fel Aelodau yn eu dyfynnu'n aml.
Wrth siarad yma ar y Bil hwn ym mis Medi, dyfynnais uwch-swyddog profiadol gyda heddlu Cymru, a ddywedodd:
Rwyf i wedi fy nghyfyngu rhag siarad yn gyhoeddus'
—fel llawer o weithwyr proffesiynol eraill yng Nghymru ar gyflogres Llywodraeth Cymru— ond mae'n rhaid i mi wneud rhywbeth— er fy mod yn amlwg yn gwerthfawrogi nad yw swyddog heddlu ar gyflogres Llywodraeth Cymru— ond mae'n rhaid i mi wneud rhywbeth i geisio annog y Cynulliad i beidio â chefnogi cynlluniau i wahardd smacio.
Fe ddywedodd, 'Mae'r amddiffyniad cosb resymol ond yn cwmpasu'r math ysgafnaf o smacio. Mae'n atal rhieni rhag cael eu trin fel troseddwyr heb reswm da. Byddai dileu'r amddiffyniad'—dywedodd y swyddog heddlu hwn—'yn dileu unrhyw ddisgresiwn sydd gennym ni. Bydd yn arwain at brofiad trawmatig i deuluoedd gweddus.'
Dywedais yma ym mis Medi fy mod wedi cael llawer o ohebiaeth gan etholwyr ynglŷn â'r Bil hwn, ac fe gefais, pob un ohonyn nhw yn gofyn imi ei wrthwynebu. Nid oedd yr un yn gofyn i mi ei gefnogi. Bedwar mis yn ddiweddarach, nid wyf wedi cael yr un cais gan unrhyw etholwr i gefnogi'r Bil hwn—dim un—ond rwyf i wedi derbyn nifer o negeseuon e-bost gan etholwyr yn gofyn i mi gefnogi gwelliant 10, a gynigiwyd heddiw gan Janet Finch-Saunders, a fyddai'n atal y gwaharddiad ar smacio rhag dod i rym tan fod Llywodraeth y DU, yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi sefydlu llwybr fel dewis amgen yn hytrach nag erlyn ar gyfer y rhai hynny y mae'r newidiadau i'r gyfraith yn effeithio arnyn nhw. Mae hyn yn dilyn argymhelliad i'r perwyl hwn yn adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar y Bil, sy'n cydnabod bod plismona a chyfiawnder yng Nghymru yn gyfrifoldeb nad yw wedi'i ddatganoli, a dyna'r rheswm dros y geiriad.
Er mwyn cynrychioli fy etholwyr, fe rannaf i rai o'u sylwadau diweddar, fel a ganlyn: 'Yr oedd y ddau ohonom ni ymhlith y 76 y cant o oedolion sy'n byw yng Nghymru a bleidleisiodd yn yr arolwg ComRes yn 2017 i wrthwynebu troseddoli smacio. Mae'r gyfraith eisoes yn amddiffyn plant rhag trais, a bydd y Bil hwn yn llethu'r heddlu a gweithwyr cymdeithasol â gormod o gofnodion tra bydd achosion go iawn o gam-drin plant difrifol yn cael eu hanwybyddu.'
Un arall: 'Hyderwn y byddwch chi'n cefnogi gwelliant Janet Finch-Saunders, sy'n galw am ddewis amgen yn hytrach nag erlyn. Er nad ydym ni'n cymeradwyo taro plentyn pan fydd yn camymddwyn, nid yw smacio ysgafn yn niweidiol ac ni ddylid ei wneud yn drosedd. Rydym ni'n deall bod angen amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin, ond nid yw smacio'n gam-drin.'
Un arall: 'Nid oes unrhyw un yn cefnogi cam-drin plant, ond bydd y gyfraith hon yn wrthgynhyrchiol. Mae'n gwbl annemocrataidd gan fod pob pôl piniwn yr wyf i wedi'i weld yn dangos bod rhieni wedi'i wrthod. Rwy'n eich annog i ystyried pa effaith a gaiff hyn ar yr heddlu, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau'r llysoedd. Gallai hefyd arwain at chwalu teuluoedd cariadus yn ddiangen.'
Un arall: 'Os caiff ei basio ar ei ffurf bresennol, effaith y Bil arfaethedig fyddai gadael rhieni cariadus yn agored i gael eu troi'n droseddwyr oherwydd smac ysgafn i'w plentyn, yn cyflwyno ymchwiliadau diangen gan yr heddlu ac ymchwiliadau amddiffyn plant gan wasanaethau gorbrysur ar gyfer achosion dibwys iawn a gadael achosion go iawn o gam-drin plant heb eu datrys.'
Un arall: 'Mr Isherwood, a fyddech cystal â chefnogi gwelliant 10, a gyflwynwyd gan Janet Finch-Saunders, i sicrhau nad yw'r gwahardd smacio yn dod i rym, gan y byddai'r gwaharddiad hwn yn troi rhieni da yn droseddwyr. A wnewch chi amddiffyn rhyddid teulu, os gwelwch yn dda?'
Un arall: 'Mae'r Bil hwn yn sarhad ar bob rhiant normal, yn ogystal â bod yn ymyrraeth ddiangen ar fywyd teuluol.'
Dau arall: 'Rydym ni, fel meddygon teulu sydd wedi ymddeol yn ddiweddar, yn ymwybodol o'r llwyth gwaith trwm sydd gan weithwyr proffesiynol yn y sectorau gofal cymdeithasol a gofal iechyd o ran canfod risg ac amddiffyn plant rhag cam-drin gwirioneddol a sylweddol. Ein hofn ni yw y gallai'r Bil, ar ei ffurf bresennol, arwain at lethu gwasanaethau amddiffyn plant wrth i adnoddau gael eu dargyfeirio i ffwrdd o amddiffyn plant sy'n wynebu risg go iawn tuag at ymchwilio ac erlid rhieni cariadus cyfrifol.'
A dyfyniad terfynol: 'Rwy'n erfyn arnoch chi i gefnogi gwelliant 10. Rwy'n pryderu'n fawr y gallai hyn arwain at droseddoli rhieni cariadus ac achosi i deuluoedd chwalu.'
Sampl bach yn unig yw'r rheini o'r rhai sydd wedi eu derbyn yn y dyddiau diwethaf.
Bod heb gyfyngiadau sy'n cyfrannu at fywydau di-drefn sydd wedi'u niweidio, aflonyddwch a drwgweithredu, nid bod â chyfyngiadau. Yn lle troseddoli rhieni normal, gweddus a chariadus sy'n defnyddio smacio o bryd i'w gilydd, mae'n rhaid i ni gydnabod y gwahaniaeth amlwg rhwng smacio a cham-drin plentyn, y mae'r mwyafrif helaeth o rieni'n gallu ei gydnabod. Mae'r ddadl hon yn tynnu ein sylw'n llwyr, pan ddylem ni fod yn canolbwyntio ar adroddiadau cynyddol ynghylch plant yn cael eu cam-drin yn rhywiol, eu hecsbloetio a'u gorfodi i weithio, yn hytrach. Gadewch i ni ddangos i bobl Cymru ein bod ni'n gwrando, gadewch i ni ddangos i rieni Cymru nad sefydliad rhith-wirionedd yw hwn, fel y mae'r Senedd hon yn rhy aml yn ei gyflwyno, a gadewch i ni gefnogi gwelliant 10 a rhoi cyfle i'r darn hwn o ddeddfwriaeth wneud rhywfaint o dda.
Neil McEvoy.
[Anghlywadwy.]
Y Dirprwy Weinidog i ymateb.
Diolch.
Gwrandewais yn astud ar yr hyn a ddywedodd y rhanddeiliaid a'r tri phwyllgor yn ystod Cyfnod 1 am bwysigrwydd sicrhau bod digon o amser ar gael i ddiddymu'r amddiffyniad cosb resymol cyn y newid yn y gyfraith. O ganlyniad, fe wnes i gyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 i ddarparu sicrwydd ynghylch y dyddiad ar gyfer y newid yn y gyfraith ac am gyfnod o ddwy flynedd rhwng y Cydsyniad Brenhinol a dechrau gweithredu'r ddeddf. Credaf mai dyma'r ffordd fwyaf priodol o hyd i gyflwyno'r newid hwn.
Bydd y sicrwydd hwn, o ran yr amserlen, yn caniatáu i'n holl bartneriaid allweddol, gan gynnwys yr heddlu, y gwasanaethau cymdeithasol a Gwasanaeth Erlyn y Goron, gynllunio ar gyfer newidiadau i ganllawiau, hyfforddiant a chasglu data a gallu ei wneud mewn modd mwy effeithiol oherwydd eu bod yn gwybod yr union gyfnod o amser sydd ganddynt. Bydd hefyd yn darparu pwyslais i'n hymgyrch codi ymwybyddiaeth.
Rwyf wedi gwrando ar y dadleuon a gyflwynwyd gan Janet Finch-Saunders ac Aelodau eraill, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod, fel y dywedwyd eisoes—ac mae Helen Mary Jones wedi gwneud y pwynt hwn yn gryf iawn—os derbynnir y gwelliant hwn, bydd yn gwneud cychwyn y Bil yn amodol ar i rywbeth arall ddigwydd gyntaf, boed hynny'n aros i ganllawiau Gwasanaeth Erlyn y Goron gael eu diwygio, neu sefydlu llwybr ar gyfer dargyfeirio o'r system cyfiawnder troseddol, neu ddarparu gwasanaethau cymorth magu plant. Drwy wneud dechreuad y ddeddfwriaeth hon yn amodol ar ddiwygio canllawiau Gwasanaeth Erlyn y Goron, byddem yn caniatáu i gyrff nad ydynt wedi eu datganoli fod y cymrodeddwyr terfynol ar ein deddfwriaeth, ac rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn.
Hefyd, rydych chi'n awgrymu ein bod ni'n caniatáu i Lywodraeth y DU leisio barn ynghylch pa bryd y cychwynnir deddfwriaeth Cymru mewn maes a ddatganolwyd yn benodol i'r Senedd o dan Ddeddf Cymru 2017, a pham yn y byd y byddem ni eisiau gwneud hynny? Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gwbl annibynnol ar y Llywodraeth a bydd yn gwneud ei benderfyniadau ei hun ynghylch sut a phryd y bydd yn diwygio ei ganllawiau. Gadewch i ni beidio ag anghofio, yn ystod Cyfnod 1, bod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi sicrhau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y bydd diwygiadau'n cael eu gwneud i'w canllawiau.
Mae ansicrwydd ynglŷn â'r prawf a gymhwysir gan y newid arfaethedig o ran pryd y gallai'r cychwyniad ddigwydd yn gyfreithlon. Os caiff y gwelliant hwn ei basio, byddai'n anodd iawn, os nad yn amhosibl, barnu pryd y gellid dechrau adran 1. Mae hyn yn groes i'r hyn y mae rhanddeiliaid a phwyllgorau wedi gofyn amdano, ac mae'n codi ansicrwydd mawr a allai beryglu'r Bil. Gofynnwyd i ni roi sicrwydd, a dyna'r hyn yr ydym wedi rhoi.
Rwyf eisiau eich sicrhau bod gennym ni berthynas waith dda iawn gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r heddlu. Cyfeiriodd Huw Irranca-Davies at sut maen nhw wedi gweithio'n agos gyda ni mewn meysydd eraill, ac yn sicr mae gennym ni berthynas waith dda erbyn hyn. Rydym wedi gweithio gyda hwy i ddarparu'r amcangyfrifon o'r costau yn yr asesiad o effaith rheoleiddiol, ac maen nhw'n aelodau gweithredol o'r grŵp gweithredu strategol a'i grwpiau gorchwyl a gorffen. Maen nhw'n cymryd rhan lawn yn ein holl baratoadau.
Ni ddylai'r gwaith a wnawn yn y grwpiau hyn effeithio ar amseriad cychwyn y Bil. Mewn gwirionedd, mae i'r gwrthwyneb: mae cyfnod o ddwy flynedd rhwng Cydsyniad Brenhinol a chychwyniad sydd yn golygu y gall y grwpiau hyn gynllunio eu gwaith yn ôl amserlen hysbys a'i gyflawni mewn da bryd cyn i'r gyfraith ddod i rym.
O ran cymorth magu plant, mae ystod eang o wasanaethau eisoes ar gael i rieni a gofalwyr ledled Cymru i gefnogi magu plant mewn modd cadarnhaol, gan gynnwys cyngor wyneb yn wyneb drwy ymweliadau iechyd, y gwasanaeth ymwelwyr iechyd cyffredinol, a thrwy ein rhaglenni cymorth teulu, Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf. Hefyd, mae ein hymgyrch 'Magu plant. Rhowch Amser Iddo' yn rhoi cyngor cadarnhaol i rieni ar fagu plant drwy wefan, Facebook ac amrywiaeth o adnoddau eraill, ac fe'u defnyddir yn helaeth.
Rwyf wedi dyrannu £325,000 i'r ymgyrch 'Magu plant. Rhowch Amser Iddo' eleni, ac rwy'n bwriadu darparu lefel debyg o fuddsoddiad y flwyddyn nesaf. Ond yn sicr, nid wyf yn hunanfodlon. Mae'r Aelodau yn gwybod fy mod wedi ymrwymo i adolygu'r ddarpariaeth bresennol o ran cymorth i rieni, ac mae gwaith yn mynd rhagddo eisoes ar yr union fater hwn drwy'r grŵp gweithredu arbenigol ar fagu plant. Bydd y grŵp hwn o arbenigwyr ar fagu plant a gweithwyr proffesiynol yn ystyried pa gymorth, os o gwbl, sydd ei angen o ran magu plant, a chyngor a gwybodaeth ychwanegol i gefnogi newid mewn ymddygiad ynghyd â'r ddeddfwriaeth hon, yn ogystal â nodi unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth bresennol. Yn ôl yr arwyddion cynnar o'r ymarfer a gynhaliwyd i fapio cymorth magu plant, ceir amrywiaeth dda ar y cyfan o gymorth a ddarperir gan awdurdodau lleol ar draws gwahanol ystodau oedran, ond, fel y dywedais yn gynharach, bydd y grŵp yn ystyried sut y gellid gwella hyn i gyflawni'r effaith fwyaf.
Dim ond i sôn am rai o'r cyfraniadau a wnaed yn y fan yma heno, rwyf am bwysleisio unwaith eto bod yr holl weithwyr proffesiynol eisiau i'r gyfraith fod yn eglur. Maen nhw'n gofyn i'r gyfraith fod yn glir. Mae ymwelwyr iechyd, pobl yn y rheng flaen, yn awyddus i gael yr eglurder hwnnw. Ond rwyf hefyd eisiau ei gwneud yn gwbl glir nad oes unrhyw beth yn y ddeddfwriaeth hon sy'n atal y rhiant rhag amddiffyn plentyn sydd mewn perygl. Os yw plentyn yn rhedeg tuag at heol, wrth gwrs y caiff rhiant ddal gafael ar y plentyn. Os yw plentyn yn debygol o gael ei sgaldio gan goffi poeth, wrth gwrs y caiff y rhiant dynnu'r plentyn oddi wrth y perygl. Mae hyn yn gwbl dderbyniol. [Torri ar draws.] Os yw plentyn mewn perygl, mae'n rhaid i'r rhiant weithredu er mwyn achub y plentyn. Yn yr enghraifft a ddefnyddiodd yr Aelod, byddech yn tynnu'r plentyn oddi wrth y perygl a byddai hynny'n gwbl dderbyniol.
A'r pwynt arall yr wyf yn dymuno ei wneud yw bod yr holl—. [Torri ar draws.]
Gadewch i'r Dirprwy Weinidog barhau a chael gwrandawiad, os gwelwch yn dda.
Os caf i barhau, mae Aelodau wedi cyfeirio at farn y cyhoedd, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i ddweud bod 58 y cant eisoes yn credu nad yw'n gyfreithlon i daro plentyn. Felly, mewn gwirionedd, mae mwyafrif yn credu bod y gyfraith hon ar waith eisoes ac, ar y cyfan, mae barn y cyhoedd yn newid. Mae mwy a mwy o bobl yng Nghymru yn credu nad yw cosbi corfforol yn dderbyniol ac rydym ni'n cadw golwg ar hynny, a byddwn yn parhau i gadw golwg arno ar ôl i'r ddeddfwriaeth hon gael ei phasio. A'r hyn sy'n arbennig o arwyddocaol, rwy'n credu, yw mai'r rhieni sy'n magu plant—rhieni sydd â phlant ifanc—sydd fwyfwy mewn mwyafrif yn credu nad yw'n dderbyniol niweidio eu plentyn yn gorfforol.
Ac felly, rwyf wir yn teimlo bod y ddeddfwriaeth hon yn cyd-fynd ag ysbryd yr oes. Mae'n cyd-fynd â barn y cyhoedd. Ac rwy'n gwybod y bu safonau gwahanol yn y gorffennol a bod pobl yn gweithredu mewn ffordd wahanol, ond nawr rydym wedi symud ymlaen ac mae gennym ni lawer mwy o wybodaeth; mae gennym ni lawer mwy o ymchwil sy'n dangos y niwed posibl. Ac felly, rwy'n teimlo ein bod ni'n gwneud yr union beth iawn wrth gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon heddiw, ac rwy'n eich annog felly i beidio â chefnogi gwelliant 10, a fyddai'n achosi anawsterau mawr o ran dwyn y ddeddfwriaeth hon i rym.
Janet Finch-Saunders i ymateb i'r ddadl.
Gadewch i ni symud at y bleidlais.
Iawn. Diolch, Janet.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 10? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Rydym ni'n symud i'r bleidlais felly, ac agor y bleidlais ar welliant 10. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 10.
Rydym ni felly wedi cyrraedd diwedd ein ystyriaeth Cyfnod 3 o'r Bil Plant (Diddymu Amddifyniad Cosb Resymol) (Cymru). Dwi'n datgan bod pob adran o'r Bil a phob Atodlen wedi eu derbyn, a daw hynna â'n trafodion am y Cyfnod 3 yma i ben.