Part of the debate – Senedd Cymru am 6:53 pm ar 21 Ionawr 2020.
—gan yr heddlu. Dyna'r math o gyfraith rydych chi'n ceisio ei chyflwyno i'r Siambr hon. Rwy'n cefnogi gwelliant Janet, y mae pawb sydd wedi cysylltu â mi ynglŷn â'r Bil hwn yn ei gefnogi'n ysgubol. Mae'n debyg fy mod i wedi cael mwy o ohebiaeth ynghylch y Bil arbennig hwn nag ynghylch unrhyw beth arall sydd wedi cael ei ddwyn drwy'r Siambr hon. A gan academyddion, a gan bobl sy'n gweithio yn y maes hwn. A phob un ohonyn nhw'n condemnio'r Bil hwn. Mae'n ddarn gwael o ddeddfwriaeth.