Grŵp 5: Cychwyn (Gwelliant 10)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:49 pm ar 21 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 6:49, 21 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Rwyf i wedi caniatáu i Darren Millar wneud ymyriad; hoffwn i iddo ef, os gwnaiff ef, wrando ar fy ateb. A fy ateb i yw hyn: y pethau sydd gan y Bil yr oeddem ni wedi'i drafod yn gynharach—Bil San Steffan—a hwn yn gyffredin yw, o'u darllen y ffordd anghywir, bod y ddau yn gyfystyr â San Steffan yn cipio pŵer Os byddwn ni'n pasio'r gwelliant hwn, byddai cyrff nad ydyn nhw wedi'u datganoli, y mae Janet Finch-Saunders, yn gwbl briodol, wedi tynnu sylw atyn nhw, yn gallu atal darn o ddeddfwriaeth rhag cychwyn yma, petaent yn gwrthod cydweithredu. Nid oes gennyf i unrhyw reswm—dim rheswm o gwbl—i feddwl y byddai'r heddlu na Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru eisiau gwneud y fath beth, ond mae'r gwelliant hwn yn cyfeirio'n benodol at y ffaith bod angen i Lywodraeth y DU wneud rhywbeth cyn bod modd rhoi deddfwriaeth yr ydym ni wedi'i phasio yn y lle hwn ar waith. Nid yw hynny'n dderbyniol. Yr hyn sydd gan y ddau beth yn gyffredin yw ymgais i leihau grym ac awdurdod y lle hwn ac nid wyf i yn barod i oddef y naill na'r llall ohonyn nhw.