3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:21 pm ar 21 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 4:21, 21 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog Emeritws. Rydym ni mewn system cyfraith gyffredin. Yn y 1690au mynegwyd sofraniaeth seneddol gyntaf gan y llysoedd, a'r rheswm na ellir ei hamgodio yw mai'r Senedd ei hun yw'r mynegiant eithaf ac uchaf o'r gyfraith. Dyna'r system sydd gennym ni, oni bai ein bod yn symud i system wahanol.