Parcio ar Balmentydd

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 22 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 1:36, 22 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Mynegwyd pryderon i mi, mewn e-byst a llythyrau, gan etholwyr sy'n poeni am barcio ar balmentydd. Mae llawer o ddatblygiadau tai newydd yn cael eu hadeiladu gyda cherbytffyrdd cul iawn a heb ddigon o le i geir. Mae hynny'n wir mewn perthynas ag un o ddatblygiadau Redrow yn fy etholaeth, Cwm Calon, sy'n ddatblygiad cymharol newydd, ac nid oes gan bobl unrhyw ddewis ond parcio ar y palmentydd oherwydd cynllunio gwael ar ran Redrow. Un mater penodol y mae'n rhaid i unrhyw gamau pellach ei ystyried hefyd yw cerbydau contractwyr a cherbydau gwaith y mae pobl yn eu gyrru adref o'r gwaith. Mae'r rhain wedi achosi rhwystrau sylweddol mewn gwahanol rannau o fy etholaeth, a chredaf ei fod yn fater cynllunio lawn cymaint â mater trafnidiaeth, ac mae angen mynd i'r afael ag ef. Rwy'n teimlo mai'r ffordd ymlaen, yn dilyn y grŵp gorchwyl, fyddai archwilio sut y bydd gwaith ymgynghori pellach yn mynd rhagddo, ac mae'n rhaid cynnwys preswylwyr yn y gwaith hwnnw, a datblygwyr hefyd. Felly, a allwch ddweud wrthyf, pan fydd y grŵp gorchwyl yn adrodd, beth fydd y cynlluniau pellach a sut y bydd hynny'n cael ei ddatblygu wedyn?