Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 22 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 1:50, 22 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd. Mae'n bleser gennyf annerch y Siambr hon am y tro cyntaf yn fy rôl newydd fel Gweinidog yr wrthblaid dros yr economi, trechu tlodi a thrafnidiaeth.

Roedd yn ddiddorol clywed y Gweinidog yn dweud yn ei ymateb i Russell George ei fod yn teimlo bod ein heconomi'n gwneud yn dda a bod yn rhaid i ni dderbyn, oes, fod gennym gyfradd ddiweithdra isel. Ond tybed a fyddai'r Gweinidog yn derbyn bod hynny'n adlewyrchu tangyflogaeth—gyda llawer o bobl mewn swyddi rhan-amser. Mae'n adlewyrchu sefyllfa lle mae llawer o deuluoedd yn gweithio'n galed iawn am gyflogau isel iawn, ac er eu bod yn gyflogedig, prin eu bod yn byw'n dda pan fo traean o'n plant yn byw mewn tlodi. Credaf mai un o'r pethau rwy'n mawr obeithio yn y rôl hon yw y byddwn yn osgoi unrhyw hunanfodlonrwydd ar ran Llywodraeth Cymru, oherwydd er bod pethau efallai'n well nag y byddent heb rai o ymyriadau Llywodraeth Cymru, fel y dywedaf, mae traean o'n plant yn byw mewn tlodi o hyd, ac mae gan y rhan fwyaf o'r plant hynny sy'n byw mewn tlodi rieni sy'n gweithio, weithiau dau riant sy'n gweithio.

Hoffwn droi at fuddsoddiad mawr penodol diweddar gan Lywodraeth Cymru. O ystyried maint buddsoddiad a chyfran Llywodraeth Cymru yn Aston Martin, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog pa asesiad y mae wedi'i wneud o'r sefyllfa ddiweddar, y sefyllfa sy'n datblygu, mewn perthynas â sefyllfa'r cwmni?