1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 22 Ionawr 2020.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch, Lywydd. Weinidog, a ydych chi'n credu bod cefnogaeth Llywodraeth Cymru i fusnes yn cynrychioli gwerth am arian?
Yn sicr, ac rwy’n siŵr y byddai'r Aelod yn croesawu’r ffaith ein bod, o ganlyniad i’r gwaith caled gan fusnesau a sefydliadau, ac wrth gwrs, Llywodraeth Cymru, bellach wedi cyflawni’r gyfradd ddiweithdra isaf erioed yng Nghymru, y lefel isaf ers dechrau cadw cofnodion, 3 y cant yn is na chyfartaledd y DU, sef 3.8 y cant. Yn ychwanegol at hynny, rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn croesawu'r ffaith bod gwerth ychwanegol gros a gwerth ychwanegol gros y pen yng Nghymru yn tyfu'n gyflymach na lefel y DU a bod gennym gyfradd uwch na'r DU o fusnesau yn dechrau yng Nghymru.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Roedd fy nghwestiwn yn ymwneud yn benodol â gwerth da am arian mewn perthynas â chymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau. Yn dilyn y gwaith a edrychai ar gymorth ariannol Llywodraeth Cymru i fusnesau, mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, wrth gwrs, wedi cwestiynu cefnogaeth Llywodraeth Cymru i fusnesau ac wedi dweud ei bod yn destun pryder ac yn annerbyniol fod Llywodraeth Cymru wedi methu cyflawni ei hymrwymiad ei hun i adrodd yn gyhoeddus ar ei chynnydd yn cyflawni ei strategaeth economaidd flaenorol. Roedd y pwyllgor yn eithaf deifiol, yn fy marn i, pan ddywedodd fod y methiant wedi rhwystro atebolrwydd a chraffu effeithiol gan y Senedd hon. Felly, tybed a yw'r methiant yn deillio o embaras eich Llywodraeth ynglŷn â'i chyflawniad ar yr economi dros yr 20 mlynedd diwethaf. Ac er atebolrwydd a thryloywder, a allwch amlinellu pa gamau penodol y byddwch yn eu cymryd yn y dyfodol i adrodd ar yr allbynnau a gyflawnir bob blwyddyn gan weithgarwch cymorth busnes Llywodraeth Cymru?
A gaf fi ateb y pwynt olaf yn gyntaf, Lywydd? Rydym wedi defnyddio cymorth y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i archwilio dangosyddion perfformiad allweddol ac i fonitro allbynnau datblygu economaidd yng Nghymru. Ond o ran edrych ar y cyflawniad mewn perthynas â chyflogaeth a'r economi dros yr 20 mlynedd diwethaf, yn ogystal â'r ffaith bod gennym bellach y lefel isaf o ddiweithdra ers dechrau cadw cofnodion, mae gennym hefyd y nifer uchaf erioed, neu'n agos at y nifer uchaf erioed, o bobl mewn gwaith; mae cyfraddau anweithgarwch wedi bod yn gostwng yn gyson dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Bellach, yn nhymor y Cynulliad hwn yn unig, mae gennym 75,000 o gyfleoedd prentisiaeth wedi'u sefydlu a'u cymryd gan bobl uchelgeisiol yng Nghymru. Mewn cyferbyniad â hynny, dros y ffin yn Lloegr, mae ffigurau prentisiaethau wedi cwympo oddi ar glogwyn, gan eu bod wedi cael gwared ar ddull sefydledig o ddarparu cymorth prentisiaethau a chyflwyno mecanwaith rhyfedd o drethu busnesau am gyflogi pobl.
Rwy'n hyderus ein bod, o ganlyniad i'n hymyriadau, gan gynnwys y rheini a wnaed gan Busnes Cymru, wedi gallu sefydlu cymuned fusnes gref a gwydn yng Nghymru sy'n cyflogi'r nifer uchaf erioed o bobl ac yn cynyddu cyfraddau gwerth ychwanegol gros a chynhyrchiant ar gyfradd uwch a chyflymach na'r DU.
Wel, diolch am eich ateb, Weinidog, ond rydym ar y bedwaredd strategaeth economaidd—ac yn anffodus, mae pob un ohonynt wedi methu gwella economi Cymru, a dywedaf hynny ac edrychaf ar eich Gweinidog addysg sydd wedi dweud o'r blaen ei bod yn pryderu bod dod yn olaf ym mhob tabl gwasanaeth cyhoeddus bellach yn dod yn arfer. O ran cynhyrchiant economaidd, yn anffodus, rydym ar waelod y tabl, ac o ran enillion wythnosol, rydym ar waelod y tabl eto. Ac o ran anghydraddoldeb rhanbarthol, mae Ynys Môn ymhell y tu ôl i Gaerdydd, a dywed eich Dirprwy Weinidog ei hun mai'r gwir amdani yw na wyddom mewn gwirionedd beth rydym yn ei wneud ar yr economi.
Yr hyn y buaswn yn awgrymu sydd ei angen arnom yw Llywodraeth Cymru ffres ac uchelgeisiol sy'n falch o adrodd yn gyhoeddus ar ei chynnydd mewn perthynas â darparu'r cyfeiriad economaidd newydd sydd ei angen ar ein gwlad, yn hytrach na chuddio tu ôl i graffu cyhoeddus. Mae arnom angen Llywodraeth sy'n cefnogi busnesau bach, er enghraifft drwy ddileu ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach, a Llywodraeth a fydd yn cyflwyno band eang cyflym iawn ar gyfer pob busnes, ac sydd â'r seilwaith rheilffyrdd a ffyrdd cywir i helpu busnesau i dyfu.
Felly, a fyddech yn cytuno â mi fod angen Llywodraeth Cymru arnom sydd â'r un uchelgais a gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer economi Cymru ag sydd gan Lywodraeth newydd y DU, ac sy'n manteisio ar gyfleoedd Brexit a gwerthu Cymru i'r byd a rhyddhau potensial Cymru? A ydym—Weinidog, hoffwn ofyn pryd fydd gennym y math o gymorth busnes y gall y Llywodraeth ei hun fod yn falch ohono a dangos gwerth cyffredinol am arian mewn perthynas â'i chefnogaeth ariannol ei hun i fusnesau?
Yr hyn y mae'r bobl yn dymuno'i gael yw mynediad at swyddi o ansawdd uchel. Dyna'n union y mae'n strategaeth economaidd wedi'i gyflawni ac yn ei gyflawni. Rydym yn creu'r nifer uchaf erioed o swyddi, swyddi o ansawdd uwch, swyddi y gall pobl gael mynediad atynt. Mae gennym system hyfforddi sgiliau sy'n destun cenfigen i weddill y Deyrnas Unedig, a gallwch gymryd, fel y dywedais yn awr, y cyfraddau cwblhau prentisiaethau, er enghraifft, sy'n parhau i fod yn uwch na chyfartaledd Lloegr—yn uwch o lawer na chyfartaledd Lloegr. Mae gennym hefyd fynediad at fanc datblygu sydd, unwaith eto, yn destun cenfigen i weddill y DU. Mae llywodraethau yn yr Alban a thu hwnt yn edrych ar Fanc Datblygu Cymru, gan archwilio sut y gallant efelychu'r gwasanaethau a gynigir yma yn ein gwlad.
Buaswn yn croesawu unrhyw fynegiant o optimistiaeth ynghylch dyfodol disglair, ond mae'n rhaid i chi gynnal hynny gydag arian, mae'n rhaid i chi ei gynnal â buddsoddiad. A'r gwir amdani yw, dros y 10 mlynedd diwethaf, fod £1 biliwn wedi'i ysbeilio o'r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru. Nawr, wrth inni agosáu at y gyllideb ym mis Mawrth, rwy'n addo hyn, Lywydd: byddaf yn gweithio law yn llaw â Llywodraeth y DU i ddarparu gwell seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru os gwnânt yr hyn y maent i fod i'w wneud, sef buddsoddi ynddo'n iawn. Mae'n rhaid rhoi terfyn ar y tanfuddsoddi yn seilwaith rheilffyrdd Cymru, a gall hynny ddigwydd yn y gyllideb ym mis Mawrth.
Llefarydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones.
Diolch yn fawr, Lywydd. Mae'n bleser gennyf annerch y Siambr hon am y tro cyntaf yn fy rôl newydd fel Gweinidog yr wrthblaid dros yr economi, trechu tlodi a thrafnidiaeth.
Roedd yn ddiddorol clywed y Gweinidog yn dweud yn ei ymateb i Russell George ei fod yn teimlo bod ein heconomi'n gwneud yn dda a bod yn rhaid i ni dderbyn, oes, fod gennym gyfradd ddiweithdra isel. Ond tybed a fyddai'r Gweinidog yn derbyn bod hynny'n adlewyrchu tangyflogaeth—gyda llawer o bobl mewn swyddi rhan-amser. Mae'n adlewyrchu sefyllfa lle mae llawer o deuluoedd yn gweithio'n galed iawn am gyflogau isel iawn, ac er eu bod yn gyflogedig, prin eu bod yn byw'n dda pan fo traean o'n plant yn byw mewn tlodi. Credaf mai un o'r pethau rwy'n mawr obeithio yn y rôl hon yw y byddwn yn osgoi unrhyw hunanfodlonrwydd ar ran Llywodraeth Cymru, oherwydd er bod pethau efallai'n well nag y byddent heb rai o ymyriadau Llywodraeth Cymru, fel y dywedaf, mae traean o'n plant yn byw mewn tlodi o hyd, ac mae gan y rhan fwyaf o'r plant hynny sy'n byw mewn tlodi rieni sy'n gweithio, weithiau dau riant sy'n gweithio.
Hoffwn droi at fuddsoddiad mawr penodol diweddar gan Lywodraeth Cymru. O ystyried maint buddsoddiad a chyfran Llywodraeth Cymru yn Aston Martin, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog pa asesiad y mae wedi'i wneud o'r sefyllfa ddiweddar, y sefyllfa sy'n datblygu, mewn perthynas â sefyllfa'r cwmni?
Iawn. A gaf fi, yn gyntaf oll, groesawu Helen Mary Jones i'r rôl? Credaf mai chi yw’r trydydd llefarydd ar ran Plaid Cymru i ymgymryd â'r rôl benodol hon yn ystod fy nghyfnod fel Gweinidog yr economi, a gobeithiaf fod hon yn enghraifft o dri chynnig i Gymro, y byddwch yn para tan yn yr etholiad nesaf, ac y cawn lawer o gyfleoedd i drafod yr economi a'r system drafnidiaeth yn ein gwlad.
Buaswn yn cytuno, o ran ffigurau cyflogaeth, eu bod yn aml yn cuddio heriau eraill, a bod gennym her o hyd o ran tangyflogaeth ac o ran presenoliaeth, a dyna'n union pam fod y Llywodraeth hon yn benderfynol o fwrw ymlaen â'r agenda gwaith teg.
Mewn perthynas ag Aston Martin, Lywydd, mae hwn yn fuddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn falch iawn ohono, a buaswn yn hoff iawn o weld yr Aelod yn croesawu’r buddsoddiad y mae’r Llywodraeth wedi’i wneud yn Aston Martin a’r buddsoddiad y mae’r cwmni’n ei wneud yng Nghymru, gan y byddant yn cyfrannu, dros y 30 mlynedd nesaf, £0.5 biliwn i economi Cymru. Bydd hyn yn arwain at gyflogi 1,000 o bobl yn ne Cymru, a llawer iawn mwy o gyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi.
Nawr, wrth gwrs, mae llawer o ddyfalu wedi bod yn ddiweddar ynglŷn â sefyllfa ariannol Aston Martin, yn enwedig gan y bu sïon y gellid cymryd cyfran fawr yn y cwmni. Cawn sicrwydd cyson mai safle Bro Tathan yw dyfodol Aston Martin, mai dyna yw eu prif ffocws ar hyn o bryd ac yn y blynyddoedd i ddod, wrth iddynt ddatblygu'r cyfleuster yn ne Cymru fel cartref trydaneiddio yng Nghymru.
Gwyddom hefyd, Lywydd, fod bron i 2,000 uned o'r model newydd, y DBX, eisoes wedi eu harchebu. Mae hynny'n llwyddiant ysgubol i frand moethus mor fuan ar ôl cyhoeddi datblygiad cerbyd SUV o'r math hwn ac mor fuan ar ôl ei gyflwyno. Mae dyfodol y cwmni'n ddisglair iawn yn wir. Byddant yn cyflwyno car newydd bob blwyddyn am y saith mlynedd nesaf, gan gynyddu nid yn unig nifer yr unedau y maent yn eu cynhyrchu, ond eu proffidioldeb hefyd.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei eiriau caredig ynglŷn â fy mhortffolio newydd ac ynglŷn â'r hyn y mae wedi'i ddweud wrthym am sefyllfa Aston Martin. Ond buaswn yn awgrymu bod rhai cwestiynau angen eu hateb o hyd, a bod rhai pryderon yn codi. Y gwir yw bod gwerthiant Aston Martin wedi gostwng 16 y cant yn gyffredinol rhwng Gorffennaf 2019 a Medi 2019. Mae Llywodraeth Cymru wedi addo £18.8 miliwn, sy'n fuddsoddiad sylweddol iawn, ac wrth gwrs, yn gyfnewid, fel y dywedodd y Gweinidog, mae Aston Martin wedi dweud y byddant yn gwneud safle Sain Tathan yn gartref trydaneiddio. Ond rydym yn gweld adroddiadau bellach y bydd y cwmni'n rhoi'r gorau i ddatblygu'r car trydan blaenllaw, ac mae angen i ni wybod a yw hynny'n wir gan ein bod yn awyddus, rwy'n siŵr, i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru gefnogi'r economi werdd.
Yn benodol, hoffwn ofyn i'r Gweinidog, yng ngoleuni'r sicrwydd 30 mlynedd a roddwyd gan Lywodraeth Cymru a fydd yn golygu y byddai arian trethdalwyr Cymru yn talu'r rhent ar ran Aston Martin pe baent yn penderfynu gadael ffatri Sain Tathan—a gobeithiaf yn fawr fod y Gweinidog yn iawn ac na fydd hynny byth yn digwydd, ond pe baent yn gwneud hynny—credaf fod angen mwy o dryloywder arnom o ran y trefniadau a'r ymrwymiadau i Aston Martin, yn enwedig y sicrwydd 30 mlynedd. Beth fyddai'r gost i bwrs y wlad pe bai'n rhaid i Aston Martin adael?
Mae'n gwestiwn diangen, gan fod dyfodol Aston Martin yn arbennig o ddisglair. Nid wyf wedi clywed unrhyw un o lefarwyr Plaid Cymru yn croesawu’r ffaith bod Aston Martin wedi ymgartrefu yng Nghymru. Roedd hon yn enghraifft o lwyddiant ysgubol i Lywodraeth Cymru. Roedd yn foment hanesyddol pan allasom gyhoeddi'r ffaith bod Aston Martin yn dod i Gymru, gan mai dyma'r tro cyntaf i geir gael eu cynhyrchu yn ein gwlad ers dros 50 mlynedd. Oedd, roedd gwerthiant yn isel, ond roedd costau gweithredu a chostau gwerthu uwch hefyd yn cyfrannu at y gostyngiad mewn elw. Fodd bynnag, gwyddom o ffigurau gwerthiant y DBX fod sefyllfa'r cwmni'n gwella. Ac wrth iddynt gyhoeddi a chyflwyno mwy o fodelau, bydd hynny'n cynyddu nifer y gwerthiannau ymhellach.
Wel, rwy'n siomedig, Lywydd, na chlywodd y Gweinidog yr hyn a ddywedais, gan i mi ddweud fy mod yn mawr obeithio y byddai hyn yn llwyddiant, ond rwy'n credu bod yna bryderon. Mae'n rhaid i'r Gweinidog gydnabod bod yna bryderon. Mae Aston Martin o dan faich dyled o $1 biliwn, £138 miliwn yn unig a oedd ganddynt mewn arian parod ddiwedd y llynedd, ac nid yw hynny'n swnio i mi fel cwmni y gallwn fod 100 y cant yn sicr ei fod yn ddiogel.
Nawr, buaswn yn awgrymu wrth y Gweinidog fod y math hwn o fuddsoddiad mewn gwirionedd yn adlewyrchu dull hen ffasiwn o benderfynu ble mae angen inni wario ein harian datblygu economaidd. Efallai fod lle i gwmnïau blaenllaw, ond does bosibl na ddylem fod yn rhoi’r lefel hon o fuddsoddiad—fel y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'i ddweud yn y gorffennol, nid yw’r dull hen ffasiwn o ddenu cwmnïau rhyngwladol mawr i mewn yn gweithio’n arbennig o dda, a buaswn yn cytuno bod angen i ni ganolbwyntio ein buddsoddiad ar dyfu cwmnïau canolig eu maint, ar edrych ar gyfraniad yr economi sylfaenol a'r economi werdd.
Felly, os yw'r Gweinidog mor hyderus fod dyfodol Aston Martin yn ddiogel—a gobeithiaf ei fod yn iawn, gadewch i mi ddweud hynny'n gwbl glir, a phawb arall ar y meinciau hyn—mae'n rhaid i mi bwyso ar y Gweinidog i gyhoeddi ei ohebiaeth ag Aston Martin cyn iddynt lunio'r cytundeb. Rwy'n deall yn iawn y gallai'r sgyrsiau sy'n mynd rhagddynt fod yn fasnachol gyfrinachol, ond ar ôl i'r cytundeb gael ei gwblhau, dylai'r pethau hyn fod yn gyhoeddus fel y gall pob un ohonom graffu ar y lefel hon o fuddsoddiad a sicrhau ei fod mor ddiogel ag y byddai'r Gweinidog am i ni feddwl, ac rwy'n mawr obeithio ei fod.
Edrychwch, rydym wedi ei glywed. Ni fyddai Plaid Cymru wedi cefnogi buddsoddiad yn Aston Martin Lagonda. Rydym wedi ei glywed yma. Mae'n glir iawn: ni fyddai Plaid Cymru wedi buddsoddi mewn 1,000 o swyddi mewn cwmni blaenllaw ar gyfer economi Cymru. Credaf ei bod yn bwysig yn awr fod pobl Cymru yn cydnabod mai dyna safbwynt Plaid Cymru. Byddech wedi gwario'r arian yn rhywle arall.
Rydym eisoes wedi treblu gwerth cronfa'r economi sylfaenol, cronfa sydd wedi'i chynllunio i hybu arloesedd yn yr economi sylfaenol, ac mae'n swnio'n debyg i mi, yn hytrach na chroesawu—nad wyf wedi'i glywed o hyd—Aston Martin i Gymru, fod yna ddymuniad i'w gweld yn methu. Nawr, y gwir amdani yw bod brand Aston Martin Lagonda wedi bod gyda ni ers sawl degawd. Fe'i hystyrir yn fyd-eang yn un o'r brandiau modurol o'r ansawdd uchaf, ac ymhell o—[Torri ar draws.] Mae'n newyddion da. Mae'n newyddion da, a dylai'r Aelodau yn y Siambr hon ddechrau croesawu'r ffaith bod gennym y ffigurau cyflogaeth uchaf erioed yn y wlad hon, fod gennym y ffigurau diweithdra isaf erioed yn y wlad hon, fod cyfradd cynhyrchiant y wlad hon yn codi'n gyflymach na'r DU, a dylai pobl roi'r gorau i fychanu Cymru.
Llefarydd Plaid Brexit, David Rowlands.
Diolch, Lywydd. Wel, a gaf fi ddechrau drwy ddweud bod Plaid Brexit yn dal i'ch llongyfarch ar ddenu cwmni mor eiconig i Gymru, ac y cewch ein cefnogaeth barhaus yn eich gwaith gyda'r cwmni hwnnw?
A fyddai'r Gweinidog yn ystyried cefnogi'r defnydd o fentrau cydweithredol i adfywio canol ein trefi a'n strydoedd mawr?
Buaswn, yn sicr, ac mae hyn yn rhywbeth y gwn fod y Dirprwy Weinidog yn edrych arno'n frwdfrydig iawn, yn ogystal â fy Nirprwy Weinidog, yn enwedig mewn perthynas â thyfu'r economi sylfaenol—y meysydd o weithgarwch economaidd cyffredin, os mynnwch, sy'n cyfrannu cymaint at gyflogaeth yng Nghymru.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Y rheswm y gofynnais y cwestiwn yw i gydnabod cwmnïau cydweithredol fel sector deinamig, ffyniannus o economi Cymru. Nid yn unig fod llawer o gwmnïau cydweithredol unigol yn gwneud yn dda, mae'r sector yn gyffredinol yn perfformio'n well na mathau eraill o fusnesau. Mae wyth o gwmnïau cydweithredol Cymru ymhlith y 100 uchaf, o ran trosiant, o gwmnïau cydweithredol y DU. Mae gan yr wyth cwmni hynny'n unig drosiant o fwy na £165 miliwn.
Gyda dirywiad ein strydoedd mawr a chanol ein trefi, onid yw'n bryd edrych ar hyrwyddo cwmnïau cydweithredol lle ceir bylchau yng nghyfansoddiad manwerthu tref? Mae Plaid Brexit yn credu y dylai Llywodraeth Cymru roi cefnogaeth ariannol a gweinyddol i fentrau o'r fath, ac annog Banc Datblygu Cymru a Busnes Cymru hyd yn oed i roi adrannau penodol ar waith i fynd i'r afael â sefydlu cwmnïau cydweithredol. Gallai fod modd alinio cwmnïau cydweithredol â sefydliadau undebau credyd hefyd.
Mae fy Nirprwy Weinidog newydd fy atgoffa ein bod yn ariannu'r academi entrepreneuriaid cymdeithasol. Rydym hefyd yn ariannu Busnes Cymru, wrth gwrs, i ofalu am anghenion busnesau cymdeithasol yng Nghymru. Ac rydym hefyd yn cefnogi Canolfan Cydweithredol Cymru, lle gwneir gwaith gwych i gefnogi mentrau cydweithredol ledled y wlad. Rwy'n credu bod mentrau cydweithredol yn gwbl hanfodol ar gyfer sbarduno twf cynhwysol—twf teg—ar draws pob cymuned yng Nghymru, yn ogystal â chyfrannu at yr agenda bwysig honno rwyf eisoes wedi'i chrybwyll, sef gwaith teg.