Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 22 Ionawr 2020.
Mae'n gwestiwn diangen, gan fod dyfodol Aston Martin yn arbennig o ddisglair. Nid wyf wedi clywed unrhyw un o lefarwyr Plaid Cymru yn croesawu’r ffaith bod Aston Martin wedi ymgartrefu yng Nghymru. Roedd hon yn enghraifft o lwyddiant ysgubol i Lywodraeth Cymru. Roedd yn foment hanesyddol pan allasom gyhoeddi'r ffaith bod Aston Martin yn dod i Gymru, gan mai dyma'r tro cyntaf i geir gael eu cynhyrchu yn ein gwlad ers dros 50 mlynedd. Oedd, roedd gwerthiant yn isel, ond roedd costau gweithredu a chostau gwerthu uwch hefyd yn cyfrannu at y gostyngiad mewn elw. Fodd bynnag, gwyddom o ffigurau gwerthiant y DBX fod sefyllfa'r cwmni'n gwella. Ac wrth iddynt gyhoeddi a chyflwyno mwy o fodelau, bydd hynny'n cynyddu nifer y gwerthiannau ymhellach.