Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 22 Ionawr 2020.
Yn sicr, ac rwy’n siŵr y byddai'r Aelod yn croesawu’r ffaith ein bod, o ganlyniad i’r gwaith caled gan fusnesau a sefydliadau, ac wrth gwrs, Llywodraeth Cymru, bellach wedi cyflawni’r gyfradd ddiweithdra isaf erioed yng Nghymru, y lefel isaf ers dechrau cadw cofnodion, 3 y cant yn is na chyfartaledd y DU, sef 3.8 y cant. Yn ychwanegol at hynny, rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn croesawu'r ffaith bod gwerth ychwanegol gros a gwerth ychwanegol gros y pen yng Nghymru yn tyfu'n gyflymach na lefel y DU a bod gennym gyfradd uwch na'r DU o fusnesau yn dechrau yng Nghymru.