Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 22 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:01, 22 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Mae fy Nirprwy Weinidog newydd fy atgoffa ein bod yn ariannu'r academi entrepreneuriaid cymdeithasol. Rydym hefyd yn ariannu Busnes Cymru, wrth gwrs, i ofalu am anghenion busnesau cymdeithasol yng Nghymru. Ac rydym hefyd yn cefnogi Canolfan Cydweithredol Cymru, lle gwneir gwaith gwych i gefnogi mentrau cydweithredol ledled y wlad. Rwy'n credu bod mentrau cydweithredol yn gwbl hanfodol ar gyfer sbarduno twf cynhwysol—twf teg—ar draws pob cymuned yng Nghymru, yn ogystal â chyfrannu at yr agenda bwysig honno rwyf eisoes wedi'i chrybwyll, sef gwaith teg.