Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 22 Ionawr 2020.
Oni ddylai Gweinidog yr economi fod wedi bod yn gliriach yn ei lythyr at arweinydd ei blaid yng Nghyngor Caerdydd ei bod yn gwbl annerbyniol, wrth geisio codi arian ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, i dâl gael ei strwythuro yn y fath fodd fel na chaiff ond ei dalu gan bobl o'r tu allan i ardal ei gyngor, tra bod pawb o fewn yr ardal wedi'u heithrio'n llwyr?