Trafnidiaeth Gyhoeddus

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 22 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghanol De Cymru? OAQ54944

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:07, 22 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rydym yn parhau i weithio gyda Thrafnidiaeth Cymru a chydag awdurdodau lleol i weddnewid ein rhwydwaith trafnidiaeth, nid yn unig yng Nghanol De Cymru, ond ledled Cymru gyfan, fel y gall fod yn gwbl gynaliadwy ac yn addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP

(Cyfieithwyd)

Ie, diolch am yr ateb. Roeddwn yn ceisio dweud, cafwyd rhywfaint o drafodaeth ddoe ynglŷn â'r tâl tagfeydd arfaethedig—y byddwch yn helpu i lunio'r adroddiad gyda chyngor sir Caerdydd, ac mae hynny'n newyddion da, y bydd rhywfaint o gyswllt ystyrlon, gobeithio, rhyngoch.

Nawr, a gaf fi godi un o'r nifer o faterion y mae'n bosibl y bydd angen i chi eu hystyried? Mae'n gysylltiedig â rhywbeth y mae cwpl o Aelodau o'ch plaid eich hun yn y Cymoedd wedi'i godi yn ddiweddar, sef pobl na allant gyrraedd Caerdydd mewn pryd ar gyfer gwaith oherwydd problemau'n ymwneud â gwasanaethau hwyr neu newidiadau i wasanaethau, ac maent weithiau'n wynebu gweithdrefnau disgyblaeth yn eu gweithle. Mae hyn yn ymddangos ar ei hôl hi braidd, mewn llawer o swyddfeydd, gellir cofnodi a monitro allbwn. Nid wyf yn gweld yr angen, ym mhob achos, i bobl fod yn y gwaith am 9 o'r gloch. Tybed a oes unrhyw gyfle i gymell cwmnïau yng Nghaerdydd i ganiatáu gweithio mwy hyblyg, a allai, o bosibl, edrych ar y broblem o safbwynt y galw, a lleihau'r galw am drafnidiaeth yn ystod oriau brig i mewn i Gaerdydd.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:08, 22 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'r Aelod yn swnio fel rhywun sy'n cefnogi'r agenda gwaith teg mewn gwirionedd. Yr hyn rydym yn ei wneud drwy'r contract economaidd yw annog cyflogwyr i ymddwyn yn fwy cyfrifol, nid yn unig ar gyfer yr amgylchedd ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ond ar gyfer eu gweithlu presennol. O ganlyniad i'r contract economaidd, rydym yn disgwyl i fusnesau allu dangos sut y maent yn gwella llesiant ac iechyd meddwl eu gweithwyr, ac rydym eisoes yn canfod bod yr ymyrraeth benodol hon yn cymell busnesau i gymhwyso'r math hynny o strwythurau gweithio hyblyg y mae'r Aelod wedi'u hamlinellu.

Mae'r Aelod hefyd yn sôn am y gwaith y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gomisiynu mewn perthynas â dyfodol rheoli ffyrdd a rheoli galw. Rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol fod gwaith yn cael ei wneud oherwydd bydd gan Lywodraeth y DU gwestiwn mawr iawn i ymgodymu ag ef yn y blynyddoedd sydd i ddod, sef beth y maent yn bwriadu ei wneud gyda threth car a threth tanwydd. Bydd y newid i gerbydau allyriadau isel iawn yn golygu y bydd y dreth bosibl a gymerir o ran treth car a threth tanwydd yn gostwng yn ddramatig. Ar hyn o bryd, mae oddeutu £35 biliwn y flwyddyn. Mae hynny rhwng 4 y cant a 5 y cant o refeniw i Drysorlys y DU. Os yw'r newid i geir trydan yn digwydd yn gyflymach wrth inni symud tuag at ddiwedd y degawd fel rydym yn disgwyl iddo ei wneud, bydd y refeniw hwnnw'n gostwng yn ddramatig, a bydd yn rhaid i Lywodraeth y DU wneud rhywbeth er mwyn mynd i'r afael â hynny. Dyna pam rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod ein gwaith yn cydweddu ag unrhyw waith a wneir gan Drysorlys y DU neu'r Adran Drafnidiaeth.

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 2:10, 22 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Yn amlwg, gyda'r argyfwng hinsawdd sy'n ein hwynebu, rydym i gyd yn deall yr angen i ddatgarboneiddio ein teithio ar frys. Mae'r papur gwyn y mae Cyngor Caerdydd wedi'i gynhyrchu, sy'n edrych ar deithio o amgylch y ddinas, yn amlwg yn rhan o'r agenda honno. Ond hoffwn gysylltu fy hun â rhai o'r sylwadau a godwyd gan rai o fy nghyd-Aelodau Llafur eraill ar y meinciau cefn o Gymoedd de Cymru. Fy mhryder i yw na all hon, os aiff rhagddi, fod yn dreth ar rai o'r cymunedau mwyaf heriol o amgylch Caerdydd lle nad yw trafnidiaeth gyhoeddus, ar hyn o bryd, yn effeithiol o ran cael pobl i mewn i'r ddinas ac i'w gweithle. Hyd yn oed pan fydd y metro wedi'i sefydlu ac yn weithredol, Weinidog, rwy'n pryderu bod yr ystadegau'n dangos y bydd nifer fawr o bobl yn dal i ddefnyddio'u ceir i fynd i mewn i'r ddinas—oni bai, wrth gwrs, ein bod yn gallu datrys problem teithio ar fysiau. Felly, hoffwn wybod eich barn, yn benodol, am y cyfeiriad yn y papur gwyn at y prosiect bysiau cyflym rhanbarthol a sut y gallai teithio ar fws fod yn rhan hanfodol o'r agenda hon.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:11, 22 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i Vikki am ei chwestiwn? Cytunaf yn llwyr, o ran y cynigion sydd wedi'u gwneud, ei bod yn gwbl hanfodol fod angen inni archwilio ac ystyried yr holl faterion cydraddoldeb a thegwch yn fanwl, nid yn unig o ran sut y gallai tâl atal tagfeydd fod yn berthnasol, ond hefyd sut y gellir gwario unrhyw refeniw a godir ohono. O ran y weledigaeth o well gwasanaethau bysiau, nid yn unig o fewn y ddinas, ond hefyd yn y rhanbarth, rwy'n croesawu'n gynnes y weledigaeth gref, feiddgar y mae'r cyngor wedi gallu ei darparu.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 2:12, 22 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Yn amlwg, mae gan y Llywodraeth amryw o ysgogiadau y gall eu defnyddio ym maes trafnidiaeth gyhoeddus a modelau trafnidiaeth y gall eu cefnogi. Buaswn yn awgrymu bod cyswllt awyr Ynys Môn, yn amlwg, yn un model o drafnidiaeth gyhoeddus sy'n cael ei gefnogi gan y Llywodraeth, ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae'r gwasanaeth wedi gwella'n ddramatig dros y 12 i 18 mis diwethaf, ac mae nifer fawr wedi manteisio ar y llwybr hwn. Yn ei chyfweliad ar Sharp End, nododd Ysgrifennydd yr amgylchedd mewn gwirionedd fod hwn yn faes gwariant cyhoeddus y dylai'r Llywodraeth ei ailystyried oherwydd y datganiad argyfwng hinsawdd. A yw hwnnw'n un o bolisïau’r Llywodraeth, ailystyried y cymhorthdal y mae'n ei ddarparu ar gyfer y llwybr hedfan hwnnw, o gofio'r sylwadau a wnaeth Ysgrifennydd yr amgylchedd ar Sharp End ddydd Llun?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:13, 22 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Yng ngoleuni'r ffaith ein bod wedi datgan argyfwng hinsawdd, wrth gwrs, mewn blynyddoedd i ddod, pan fyddwn yn ystyried a ddylid parhau â'r gwasanaeth hwn, byddwn yn rhoi mwy o sylw i'r allyriadau a achosir o ganlyniad i weithredu'r gwasanaeth. Ond yn y cyfamser, rwy'n falch fod yr Aelod wedi cydnabod gwelliannau yn y gwasanaeth hwnnw. Mae'n darparu gwasanaeth gwerthfawr i lawer o bobl yng Nghymru, ond yn union fel rydym yn ei wneud gyda phob math arall o gymorth trafnidiaeth drwy strategaeth drafnidiaeth Cymru, heb amheuaeth byddwn yn edrych ar drafnidiaeth carbon isel fel maes blaenoriaeth i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru.

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Rwyf am ddychwelyd at y bysiau, sy'n ffordd hollbwysig o deithio mewn ardaloedd fel y Rhondda Fach sydd heb unrhyw orsaf drenau ac sydd â ffordd osgoi sy'n dod i ben hanner ffordd i fyny'r cwm. Ni fyddai hyn mor ddrwg, wrth gwrs, pe bai'r gwasanaeth bws yn wych, ond nid dyna'r sefyllfa. Yn wir, credaf ei bod yn deg dweud, ar brydiau, ei fod yn druenus. Gall y llwybrau i Gaerdydd gymryd dwy awr, gan fod y rhan fwyaf o deithiau—gydag ambell eithriad—yn gallu aros mewn bron i 100 safle bws ar hyd y ffordd. Mae noson allan yng Nghaerdydd yn amhosibl i unrhyw un sy'n byw yn y Rhondda Fach os ydynt yn dibynnu ar drafnidiaeth cyhoeddus. Felly, yn ddealladwy, mae pobl yn teimlo eu bod wedi'u datgysylltu'n llwyr, ac maent yn haeddu gwell. A allwch chi ddarparu rhagor o wybodaeth am y ffordd y mae'r Llywodraeth yn bwriadu gwella trafnidiaeth bysiau ar gyfer lleoedd fel y Rhondda Fach, a'r Rhondda yn fwy cyffredinol yn wir? A ydych yn hyderus mai'r system arfaethedig ar ffurf system fysiau Llundain, sy'n ceisio annog gweithredwyr i wneud cais am y gwaith o ddarparu gwasanaethau, yw'r ateb i'r problemau hyn?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:14, 22 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i Leanne Wood am ei chwestiwn? Rwy'n rhannu ei phryderon ynghylch diffyg cyfleoedd i lawer o bobl mewn llawer o ardaloedd anghysbell allu cyrraedd y gwaith a gwasanaethau, oherwydd diffyg gwasanaethau bws neu oherwydd eu bod yn rhy ddrud i bobl eu defnyddio. Mae'n wir y bydd y Bil bysiau yn gwneud gwahaniaeth sylweddol drwy roi mwy o bŵer i awdurdodau lleol fel eu bod yn gallu ymyrryd, a gweithredu gwasanaethau eu hunain yn wir. Bydd yn sicrhau bod y prif gymhelliad ar gyfer gweithredu gwasanaethau bws yng Nghymru yn newid o wneud elw i fodloni disgwyliadau teithwyr. Rwy'n hyderus y bydd y Bil yn cyfrannu'n fawr at y gwaith o wella gwasanaethau bysiau lleol yng Nghymru. Yn ogystal â hynny, fel y dywedais mewn ymateb i Dai Rees, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn cynllunio gwasanaethau'n fwy rhanbarthol fel y gallwn gael pobl o Rondda Fach i Gaerdydd yn gyflymach a chyda gwasanaethau mwy dibynadwy, a hefyd, ein bod yn sicrhau bod y gyfundrefn gymorthdaliadau yn y dyfodol yn ychwanegol at gyllid ac nid yn disodli cyllid.

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 2:16, 22 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Oni ddylai Gweinidog yr economi fod wedi bod yn gliriach yn ei lythyr at arweinydd ei blaid yng Nghyngor Caerdydd ei bod yn gwbl annerbyniol, wrth geisio codi arian ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, i dâl gael ei strwythuro yn y fath fodd fel na chaiff ond ei dalu gan bobl o'r tu allan i ardal ei gyngor, tra bod pawb o fewn yr ardal wedi'u heithrio'n llwyr?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu fy mod wedi dweud yn glir iawn, nid yn unig yn y llythyr ond hefyd yn fy atebion heddiw, fod unrhyw gynnig o'r fath—ac ar hyn o bryd, syniad yn unig ydyw—yn cael ei gymhwyso mewn ffordd deg; nad yw cynnig fel hwn yn arwain at gymunedau'n teimlo'n eu bod yn cael eu gosod yn erbyn ei gilydd, fod eu buddiannau'n cael eu blaenoriaethu'n is neu'n uwch na buddiannau cymuned arall; fod pawb yn teimlo eu bod yn elwa o gyfundrefn o'r math hwn; a bod pawb yn cyfrannu'n gyfartal tuag ati.

Dywedais yn fy llythyr at arweinydd y cyngor fy mod yn awyddus iawn i weithio gyda'r awdurdod lleol a chydag awdurdodau'r rhanbarth i archwilio'r mecanweithiau y gallwn eu defnyddio i ddiwallu anghenion y cyhoedd sy'n teithio, ond hefyd i wneud yn siŵr ein bod yn ymateb yn ddigonol ac yn briodol i'r argyfwng hinsawdd. Ac mae hynny'n golygu bod angen inni ysbrydoli newid moddol yn well, nid yn unig yn y rhanbarth hwn, ond ledled Cymru.