Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 22 Ionawr 2020.
Weinidog, fel y gwyddoch, mae llawer iawn o rwystredigaeth a diffyg amynedd ynghylch y ffaith nad yw'r cyswllt rheilffordd i deithwyr rhwng Casnewydd a Glynebwy wedi'i sefydlu eto. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni heddiw am y gwaith sydd angen ei wneud i sefydlu'r cysylltiad hwnnw?