Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 22 Ionawr 2020.
Wrth gwrs. Fel y gŵyr yr Aelod, mae Trafnidiaeth Cymru wedi cynnal astudiaeth achos busnes amlinellol o linell Glynebwy ar ran Llywodraeth Cymru, ac rydym yn awr yn adolygu eu canfyddiadau er mwyn nodi'r camau nesaf. Gallaf gadarnhau hefyd fod yr achos busnes amlinellol wedi amcangyfrif cyfanswm y gost gyfalaf i redeg pedwar trên yr awr ar linell Glynebwy.
Mae'n bwysig nodi mai Network Rail sy'n berchen ar y llwybr hwn ac yn ei gynnal ac o'r herwydd, mae'n atebol i'r Adran Drafnidiaeth. Felly, bydd y gallu i gyflawni unrhyw welliannau i'r seilwaith dros y blynyddoedd nesaf yn dibynnu'n llwyr ar gymorth llawn gan Lywodraeth y DU. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad arall ar gyfleoedd yn y dyfodol i wella gwasanaethau cyn bo hir, Lywydd.