Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 22 Ionawr 2020.
Yng ngoleuni'r ffaith ein bod wedi datgan argyfwng hinsawdd, wrth gwrs, mewn blynyddoedd i ddod, pan fyddwn yn ystyried a ddylid parhau â'r gwasanaeth hwn, byddwn yn rhoi mwy o sylw i'r allyriadau a achosir o ganlyniad i weithredu'r gwasanaeth. Ond yn y cyfamser, rwy'n falch fod yr Aelod wedi cydnabod gwelliannau yn y gwasanaeth hwnnw. Mae'n darparu gwasanaeth gwerthfawr i lawer o bobl yng Nghymru, ond yn union fel rydym yn ei wneud gyda phob math arall o gymorth trafnidiaeth drwy strategaeth drafnidiaeth Cymru, heb amheuaeth byddwn yn edrych ar drafnidiaeth carbon isel fel maes blaenoriaeth i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru.