Amserlenni Tren

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 22 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:22, 22 Ionawr 2020

Mae hwn yn achos o gwestiwn yn cael ei ateb cyn i mi gael ei ofyn o ar lafar, ond mae yna faterion pwysig sydd yn dal angen eu trafod. Mi wnaeth nifer o etholwyr gysylltu efo fi yn dilyn newidiadau amserlenni yn siomedig bod gwasanaethau i orsafoedd llai Môn—Fali, Rhosneigr, Tŷ Croes, Bodorgan a Llanfairpwll—wedi cael eu lleihau. Oes, mae eisiau gwasanaethau cyflym, ond mae angen gwasanaethu ein cymunedau ni hefyd.

Dwi yn falch bod Trafnidiaeth Cymru wedi dod yn ôl ataf i rŵan, ers i mi gyflwyno'r cwestiwn yma, i ddweud bod yna newidiadau wedi cael eu gwneud i amserlenni sydd yn bodloni nifer o'r cwynion a gafodd eu gwneud. Wedi dweud hynny, mae yna sawl bryder o hyd ynglŷn ag argaeledd trenau i orsafoedd llai ar ddiwedd y diwrnod ysgol ac yn y blaen. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyfaddef i mi, 'Na, wnaethon ni ddim efallai ymgynghori digon efo'r cymunedau wrth wneud y penderfyniadau', a dwi'n meddwl bod y pryderon eraill yma ynglŷn â threnau diwedd y dydd yn enghraifft arall o rywbeth fyddai wedi cael ei fflagio i fyny pe bai ymgynghori iawn wedi cael ei wneud. Ydy'r Gweinidog yn cytuno efo fi bod yn rhaid cael ymrwymiad i ymgynghori yn ofalus iawn efo cymunedau ynglŷn â sut mae newidiadau arfaethedig yn mynd i effeithio arnyn nhw?