Amserlenni Tren

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 22 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:24, 22 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod, ac mae ymgynghori priodol yn rhywbeth rwyf wedi'i godi gyda Trafnidiaeth Cymru wrth inni nesáu at newidiadau amserlen mis Mai. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol fod grwpiau rhanddeiliaid, a chymunedau, yn cael eu hysbysu ymhell cyn y newidiadau arfaethedig fel y gallant gyfrannu rhywfaint o fewnbwn i weld a yw'r newidiadau hynny'n fuddiol ai peidio. Ceir rhwymedigaeth gytundebol, wrth gwrs, i sicrhau nad yw gorsafoedd yn cael llai o wasanaethau nag a oedd ganddynt pan gafodd y fasnachfraint ei gosod, ac mae'n rhaid cynnal y rhwymedigaeth honno, a dyna'r rheswm pam fod Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn gweithio i bennu gwasanaethau amgen hyd at fis Mai, pan eir i'r afael â'r gwasanaethau a dynnwyd yn ôl o rai o'r gorsafoedd llai o faint.