Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 22 Ionawr 2020.
Gwnaf. Yn ogystal ag ystyried gwella cysylltedd ar draws y rhanbarth, mae astudiaeth cam 1 Llywodraeth Cymru o ganllawiau arfarnu trafnidiaeth wedi nodi opsiynau gwella rhwng cyffyrdd 43 a 47 ar yr M4. Caiff atebion eu datblygu drwy astudiaeth cam 2, gyda'r nod o fynd i'r afael â thagfeydd, diogelwch, amseroedd teithio gwael ac ansawdd aer gwael hefyd.