Tagfeydd Traffig

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 22 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 2:18, 22 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Pan fo problemau traffig ar yr M4 yn cael eu trafod, mae problemau tagfeydd traffig yn ystod cyfnodau brig rhwng cyffyrdd 44 a 46 yn tueddu i gael eu hanwybyddu, ond nid gan y rhai ohonom sy'n teithio ar hyd y ffyrdd hynny. Mae'r rhesymau dros dagfeydd traffig yn cynnwys cerbydau sy'n newid lonydd a cherbydau sy'n cyrraedd ac yn gadael y draffordd—yr un pethau ag sy'n achosi tagfeydd traffig ym mhobman arall ar yr M4. Rwy'n galw am arwyddion ar yr M4 i gyfeirio traffig sy'n mynd i'r ardal fenter i ddefnyddio cyffordd 45 yn hytrach na chyffordd 46, gan fod cyffordd 45 yn gyffordd uwchraddol ac mae ganddi'r fantais, drwy wneud hynny, nad oes rhaid i draffig arafu ar y draffordd er mwyn ymuno â'r gylchfan.